- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
41.—(1) Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “aelod Bannau Brycheiniog”, yn lle “reoliad 8” rhodder “reoliad 8(1)”;
(b)hepgorer y diffiniad o “Awdurdod Parc Cenedlaethol”;
(c)yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “aelod dirprwyol” (“substitute member”) yw person a benodir o dan reoliad 7(2) neu 8(3);”;
“ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog” (“the Brecon Beacons National Park Authority”) yw’r awdurdod a sefydlwyd ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw gan Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (O.S. 1995/2803);”.
(3) Yn rheoliad 8(2B)(a), ar ôl “cytuno” mewnosoder “yn unfrydol”.
(4) Yn rheoliad 9(2)(b), ar ôl “eraill” mewnosoder “sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad”.
(5) Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—
9A.—(1) Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y De-ddwyrain os yw’r person—
(a)yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—
(i)CBC y De-ddwyrain;
(ii)is-bwyllgor i CBC y De-ddwyrain;
(iii)deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu
(b)wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—
(i)cyngor cyfansoddol;
(ii)Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).”
(6) Ym mharagraff 5(a) o’r Atodlen, yn lle paragraff (i) rhodder—
“(i)rheoliad 8(2B);
(ia)rheoliad 17, neu”.
(7) Ar ôl paragraff 7(3) o’r Atodlen, mewnosoder—
“(3A) Caiff gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth i aelod cyngor neu aelod Bannau Brycheiniog o CBC y De-ddwyrain bleidleisio drwy ddirprwy.”
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys