- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
4 Ebrill 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
6 Ebrill 2022
Yn dod i rym
5 Mai 2022
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Perthnasol) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2022 a daw i rym ar 5 Mai 2022.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—
cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol;
cynghorau cymuned sy’n gynghorau cymuned cymwys o fewn ystyr adran 30(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”)(4);
awdurdodau Parciau Cenedlaethol;
awdurdodau tân ac achub, a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(5) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
cydbwyllgorau corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;
ystyr “cwmni” (“company”) yw cwmni o fewn ystyr Rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(6);
mae i “swyddogaethau cyffredin” yr ystyr a roddir i “ordinary functions” yn adran 95(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae awdurdod perthnasol wedi ei awdurdodi i wneud at ddiben masnachol unrhyw beth y’i awdurdodir i’w wneud at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau cyffredin.
(2) Cyn arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a)llunio achos busnes i gefnogi’r bwriad i arfer y pŵer, a
(b)cymeradwyo’r achos busnes hwnnw.
(3) Ystyr “achos busnes” o dan erthygl 2(2) yw datganiad cynhwysfawr ynghylch—
(a)nodau ac amcanion y bwriad i arfer y pŵer;
(b)y costau, y buddsoddiadau a’r adnoddau eraill y mae eu hangen er mwyn cyflawni’r nodau a’r amcanion hynny;
(c)y canlyniadau ariannol y disgwylir y bydd y bwriad i arfer y pŵer yn eu cyflawni;
(d)unrhyw ganlyniadau perthnasol eraill y disgwylir y bydd y bwriad i arfer y pŵer yn eu cyflawni;
(e)unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â’r bwriad i arfer y pŵer gan gynnwys asesiad o ddifrifoldeb y risgiau hynny, ac unrhyw gamau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i liniaru’r risgiau hynny;
(f)yr effaith (gan gynnwys yr effaith ar delerau ac amodau cyflogaeth) ar unrhyw staff y mae’n bwriadu eu cyflenwi i gwmni y mae’n bwriadu arfer y pŵer drwyddo;
(g)y trefniadau bwriadedig ar gyfer staffio’r cwmni y mae’n bwriadu arfer y pŵer drwyddo, gan gynnwys telerau ac amodau cyflogaeth arfaethedig unrhyw staff sydd i’w cyflogi.
3. Rhaid i awdurdod perthnasol gyhoeddi unrhyw achos busnes a gymeradwyir yn unol â rheoliad 2(2)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
4. Rhaid i awdurdod perthnasol adennill costau unrhyw adeiladau ac ystafelloedd, nwyddau, gwasanaethau, staff neu unrhyw beth arall a gyflenwir ganddo i gwmni y mae’n arfer y pŵer a roddir gan erthygl 2(1) drwyddo, oddi wrth y cwmni hwnnw.
5. Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006(7) wedi ei ddirymu.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Ebrill 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae adran 95 (pŵer i fasnachu mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â swyddogaethau drwy gwmni) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (“y Ddeddf”) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, i awdurdodi awdurdodau perthnasol i wneud unrhyw beth at ddiben masnachol y maent wedi eu hawdurdodi i’w wneud er mwyn cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau cyffredin (“y pŵer i fasnachu”) ac i wneud darpariaeth bellach mewn perthynas ag arfer y pŵer i fasnachu gan awdurdod perthnasol. Mae adran 96 o’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru osod amodau ar arfer y pŵer i fasnachu.
O dan adran 95(4) o’r Ddeddf, ni chaniateir arfer y pŵer i fasnachu ond drwy gwmni.
Mae erthygl 1 o’r Gorchymyn hwn yn pennu’r awdurdodau perthnasol y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt.
Mae erthygl 2 yn awdurdodi awdurdodau perthnasol i wneud unrhyw beth at ddiben masnachol y maent wedi eu hawdurdodi i’w wneud er mwyn cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau cyffredin. Mae hefyd yn rhagnodi’r amodau y mae rhaid i awdurdod perthnasol eu bodloni cyn arfer y pŵer i fasnachu.
Mae erthygl 3 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol gyhoeddi unrhyw achos busnes a gymeradwyir yn unol ag erthygl 2(2)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol adennill unrhyw gostau y mae’n mynd iddynt ar gyfer unrhyw beth a gyflenwir ganddo i gwmni y mae’n arfer y pŵer i fasnachu drwyddo, oddi wrth y cwmni hwnnw.
Mae erthygl 5 yn dirymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Mae adran 126 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn diffinio mai’r person priodol, o ran Cymru, yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Diwygiwyd adran 95 gan baragraff 3(5) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p. 28), paragraff 28 o Atodlen 1 i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2), O.S. 2021/356 (Cy. 107) ac O.S. 2022/372 (Cy. 92). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Diwygiwyd adran 96 gan baragraff 3(6) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys