- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 3
1. At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, pennir y marc adnabod unigryw SYN-BTØ11-1 ar gyfer indrawn a addaswyd yn enetig Bt11.
2. Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003 yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—
(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1 neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r indrawn hwnnw;
(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1 neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r indrawn hwnnw;
(c)cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1 neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw at ddibenion heblaw’r rheini y darperir ar eu cyfer yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.
3.—(1) At ddibenion y gofynion labelu a nodir yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “maize”.
(2) Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r indrawn hwnnw, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.
4.—(1) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dull a bennir yn is-baragraff (2) i’w ddefnyddio i ganfod indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1.
(2) Dull canfod yr indrawn a addaswyd yn enetig sy’n seiliedig ar PCR meintiol amser real digwyddiad benodol fel y nodir yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Maize Line Bt11 using Real-time PCR”, cyfeirnod “CRLVL10/07VP”, dyddiedig 20 Mehefin 2008.
(3) Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Maize Seeds Sampling and DNA Extraction Report on the Validation of a DNA Extraction Method from Maize Seeds and Grains”, cyfeirnod “CRLVL12/05XP”, dyddiedig 18 Ebrill 2007.
(4) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunydd cyfeirio “ERM®-BF412” drwy Gyd-ganolfan Ymchwil (JRC) y Comisiwn Ewropeaidd(1).
5.—(1) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i adnewyddu awdurdodiad indrawn a addaswyd yn enetig SYN-BTØ11-1, cyfeirnod “RP620” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd ar 12 Mawrth 2021.
(2) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.
6.—(1) Enw a chyfeiriad deiliad yr awdurdodiad yw Syngenta Crop Protection AG, Rosentalstrasse 67, CH-4058 Basel, y Swistir.
(2) Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Syngenta Limited, Jealott’s Hill International Research Centre, Bracknell, Berkshire, Lloegr, RG42 6EY.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys