xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 51 (Cy. 19)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

19 Ionawr 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) a pharagraffau 2 i 6 o Atodlen 1B iddi.

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” yn adran 1(2)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”);

ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013(3), neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992.

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

2.  Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.

3.—(1Mae rheoliad 28(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).

(2Yn is-baragraff (e)—

(a)ar ôl paragraff (ii) hepgorer “neu”;

(b)ar ddiwedd paragraff (iii) yn lle “;” rhodder “,”;

(c)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

neu

(iv)caniatâd a roddwyd o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan(4);.

(3Ar ôl is-baragraff (k) hepgorer “neu”.

(4Ar ddiwedd is-baragraff (l) yn lle “.” rhodder “;”.

(5Ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—

(m)yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo yn unol â’r rheolau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (e), pan fo caniatâd o’r fath yn cael ei roi yn rhinwedd—

(i)y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid(5), neu

(ii)y cynllun blaenorol ar gyfer staff cyflogedig lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia)(6); neu

(n)yn berson ym Mhrydain Fawr nad yw’n dod o fewn is-baragraff (e)(iv) neu (m) a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021.

4.  Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr), ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—

(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.35” rhodder “£15.95”;

(b)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.10” rhodder “£5.30”;

(c)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£217.00” rhodder “£224.00”;

(d)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£217.00”, “£377.00” a “£10.20” rhodder “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” yn y drefn honno;

(e)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£377.00”, “£469.00” a “£12.85” rhodder “£389.00”, “£484.00” a “£13.35” yn y drefn honno.

5.  Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)yn lle’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol) rhodder—

Colofn (1)Colofn (2)
Person, cwpl neu briodas amlbriodSwm

(1) Ceisydd sengl neu unig riant sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn

£197.10

(2) Cwpl pan fo un aelod neu’r ddau wedi cyrraedd oedran pensiwn

£294.90

(3) Os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod a bod un neu ragor o aelodau’r briodas wedi cyrraedd oedran pensiwn—

(a)ar gyfer y ceisydd a’r parti arall i’r briodas;

(b)ar gyfer pob priod ychwanegol sy’n aelod o’r un aelwyd â’r ceisydd.

£294.90

£97.80;

(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£66.90”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£70.80”;

(c)ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.45” rhodder “£17.85”;

(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£67.30”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£69.40” ac yn lle “£134.60” rhodder “£138.80”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£26.67” rhodder “£27.44”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£65.94” rhodder “£68.04”;

(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£37.70” rhodder “£38.85”.

6.  Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ar ôl paragraff 28C mewnosoder—

28D.  Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal(7).

28E.  Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021(8).

7.  Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.35” rhodder “£15.95”;

(b)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.10” rhodder “£5.30”;

(c)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£217.00” rhodder “£224.00”;

(d)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£217.00”, “£377.00” a “£10.20” rhodder “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” yn y drefn honno;

(e)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£377.00”, “£469.00” a “£12.85” rhodder “£389.00”, “£484.00” a “£13.35” yn y drefn honno.

8.  Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£79.60”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£82.10” ac yn lle “£63.05” rhodder “£65.00”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£79.60” rhodder “£82.10”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£125.05” rhodder “£128.95”;

(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1), yn lle “£66.90”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£70.80”;

(c)ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.45” rhodder “£17.85”;

(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£35.10” a “£50.05” rhodder “£36.20” a “£51.60” yn y drefn honno;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£67.30”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£69.40” ac yn lle “£134.60” rhodder “£138.80”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£65.94” rhodder “£68.04”;

(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£37.70” rhodder “£38.85”;

(v)yn is-baragraff (5), yn lle “£26.67”, “£17.20” a “£24.60” rhodder “£27.44”, “£17.75” a “£25.35” yn y drefn honno;

(e)yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—

(i)ym mharagraff 23, yn lle “£29.70” rhodder “£30.60”;

(ii)ym mharagraff 24, yn lle “£39.40” rhodder “£40.60”.

9.  Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl paragraff 65 mewnosoder—

66.  Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal.

67.  Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Taliadau Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021.

10.  Yn Atodlen 13 (pob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod - materion eraill), ym mharagraff 5—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (7)(c) yn lle “.” rhodder “;”;

(b)ar ôl is-baragraff (7)(c) mewnosoder—

(d)taliad a ddiystyrir o dan baragraff 28D neu 28E o Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr) neu baragraff 66 neu 67 o Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

11.  Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013(9) wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 18.

12.—(1Mae paragraff 19(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).

(2Ym mharagraff (e)—

(a)ar ôl is-baragraff (ii) hepgorer “neu”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (iii) yn lle “;” rhodder “,”;

(c)ar ôl is-baragraff (iii) mewnosoder—

neu

(iv)caniatâd a roddwyd o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan(10);.

(3Ar ôl paragraff (k) hepgorer “neu”.

(4Ar ddiwedd paragraff (l) yn lle “.” rhodder “;”.

(5Ar ôl paragraff (l) mewnosoder—

(m)yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo yn unol â’r rheolau y cyfeirir atynt ym mharagraff (e), pan fo’r caniatâd hwnnw wedi ei roi yn rhinwedd—

(i)y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid(11), neu

(ii)y cynllun blaenorol ar gyfer staff cyflogedig lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia)(12); neu

(n)yn berson ym Mhrydain Fawr nad yw’n dod o fewn paragraff (e)(iv) neu (m) a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021.

13.  Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.35” rhodder “£15.95”;

(b)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.10” rhodder “£5.30”;

(c)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£217.00” rhodder “£224.00”;

(d)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£217.00”, “£377.00” a “£10.20” rhodder “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” yn y drefn honno;

(e)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£377.00”, “£469.00” a “£12.85” rhodder “£389.00”, “£484.00” a “£13.35” yn y drefn honno.

14.  Ym mharagraff 111 (tystiolaeth a gwybodaeth)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (7)(c) yn lle “.” rhodder “;”;

(b)ar ôl is-baragraff (7)(c) mewnosoder—

(d)taliad a ddiystyrir o dan baragraff 28D neu 28E o Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr) neu baragraff 66 neu 67 o Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

15.  Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 1 (lwfans personol), yn lle’r Tabl rhodder—

Colofn (1)Colofn (2)
Person, cwpl neu briodas amlbriodSwm

(1) Ceisydd sengl neu unig riant sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn

£197.10

(2) Cwpl pan fo un aelod neu’r ddau wedi cyrraedd oedran pensiwn

£294.90

(3) Os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod a bod un neu ragor o aelodau’r briodas wedi cyrraedd oedran pensiwn—

(a)ar gyfer y ceisydd a’r parti arall i’r briodas;

(b)ar gyfer pob priod ychwanegol sy’n aelod o’r un aelwyd â’r ceisydd.

£294.90

£97.90;

(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£66.90”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£70.80”;

(c)ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£17.45” rhodder “£17.85”;

(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£67.30”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£69.40” ac yn lle “£134.60” rhodder “£138.80”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£26.67” rhodder “£27.44”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£65.94” rhodder “£68.04”;

(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£37.70” rhodder “£38.85”.

16.  Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£79.60”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£82.10” ac yn lle “£63.05” rhodder “£65.00”;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£79.60” rhodder “£82.10”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£125.05” rhodder “£128.95”;

(b)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£66.90”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£70.80”;

(c)ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.45” rhodder “£17.85”;

(d)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

(i)yn is-baragraff (1), yn lle “£35.10” a “£50.05” rhodder “£36.20” a “£51.60” yn y drefn honno;

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “£67.30”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£69.40” ac yn lle “£134.60” rhodder “£138.80”;

(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “£65.94” rhodder “£68.04”;

(iv)yn is-baragraff (4), yn lle “£37.70” rhodder “£38.85”;

(v)yn is-baragraff (5), yn lle “£26.67”, “£17.20” a “£24.60” rhodder “£27.44”, “£17.75” a “£25.35” yn y drefn honno;

(e)yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—

(i)ym mharagraff 23, yn lle “£29.70” rhodder “£30.60”;

(ii)ym mharagraff 24, yn lle “£39.40” rhodder “£40.60”.

17.  Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ar ôl paragraff 28C mewnosoder—

28D.  Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal(13).

28E.  Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Taliadau Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021(14).

18.  Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl paragraff 65 mewnosoder—

66.  Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal.

67.  Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Taliadau Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

19 Ionawr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B iddi.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu gan ddosbarthau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae rheoliad 3 yn mewnosod categorïau newydd yn y rhestr o bersonau nad ydynt i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr at ddiben y meini prawf preswylio a nodir yn rheoliad 28 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig. Y categorïau newydd yw personau y rhoddir caniatâd iddynt o dan reolau mewnfudo yn rhinwedd y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid neu’r cynllun blaenorol ar gyfer staff cyflogedig lleol yn Affganistan (a elwir hefyd y cynllun ex-gratia), personau y rhoddir caniatâd iddynt o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan, a phersonau nad ydynt yn dod o fewn y cynlluniau hynny, ond a gyrhaeddodd Brydain Fawr o Affganistan mewn cysylltiad â chwymp llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021. Gwneir yr un diwygiadau i Reoliadau’r Cynllun Diofyn gan reoliad 12.

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 4, 5(b) i (d), 7 ac 8 yn cynyddu rhai o’r ffigurau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson hawlogaeth i gael gostyngiad a’i peidio, a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigyrau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawlogaeth gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd ac nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawlogaeth gan y ceisydd i’w gael). Mae ffigurau eraill wedi eu huwchraddio hefyd i adlewyrchu newidiadau dros amser i hawlogaethau amrywiol. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 13, 15(b) i (d) ac 16.

Mae’r diwygiad a wneir gan reoliad 5(a) yn amnewid y tabl presennol ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig er mwyn dileu cyfeiriadau diangen at bersonau o dan 65 oed. Gwneir yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 15(a). Effaith y diwygiadau hyn yw estyn y gyfradd uchaf o lwfans personol i bensiynwyr.

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 6, 9 a 10 yn darparu ar gyfer sut y mae taliadau digollediad a wneir gan Weinidogion yr Alban mewn perthynas ag achosion hanesyddol o gam-drin plant i’w cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu cymhwystra am ostyngiad a swm unrhyw ostyngiad. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 14, 17 a 18.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1992 p. 14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno ac Atodlen 4 iddi. Gweler adran 116 am y diffiniad o “prescribed”.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn adran 13A(8) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), fel y’i diwygiwyd gan adran 9 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1) ac Atodlen 1 iddi.

(4)

Cyhoeddwyd Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 18 Awst 2021 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.uk/guidance/afghan-citizens-resettlement-scheme.

(5)

Cyhoeddwyd y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 29 Rhagfyr 2020 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.uk/government/publications/afghan-relocations-and-assistance-policy/afghan-relocations-and-assistance-policy-information-and-guidance.

(6)

Gweler Rhan 7 o’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p. 77); y rheolau perthnasol yw rheolau 276BA1 – 276BS2.

(7)

Cyhoeddwyd y Cynllun Talu Ymlaen Llaw gan Lywodraeth yr Alban ar 25 Ebrill 2019 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.scot/publications/financial-redress-for-survivors-of-child-abuse-in-care-advance-payment-scheme/.

(10)

Cyhoeddwyd Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 18 Awst 2021 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.uk/guidance/afghan-citizens-resettlement-scheme.

(11)

Cyhoeddwyd y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 29 Rhagfyr 2020 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.uk/government/publications/afghan-relocations-and-assistance-policy/afghan-relocations-and-assistance-policy-information-and-guidance.

(12)

Gweler Rhan 7 o’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p. 77); y rheolau perthnasol yw rheolau 276BA1 – 276BS2.

(13)