xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3. Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004(1) wedi ei ddirymu.
4.—(1) Nid yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005(2) (“Gorchymyn 2005”) yn gymwys i ddisgyblion mewn ysgolion arbennig o’r flwyddyn ysgol 2021 i 2022.
(2) Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2024—
(a)Gorchymyn 2005, a
(b)Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau i Drefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2011(3).
5.—(1) Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013(4) (“Gorchymyn 2013”) i fod yn gymwys yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol ym mharagraffau (2) i (5).
(2) Mae’r darpariaethau trosiannol yn gymwys i ddisgyblion—
(a)ym mlwyddyn 2, blwyddyn 3, blwyddyn 4, blwyddyn 5 a blwyddyn 6 o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023,
(b)ym mlwyddyn 7 pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021, o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023,
(c)ym mlwyddyn 7 nad ydynt ar 1 Medi 2022, o fewn is-baragraff (b), o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024,
(d)ym mlwyddyn 8 o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024, ac
(e)ym mlwyddyn 9 o’r flwyddyn ysgol 2024 i 2025.
(3) Yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2013—
(a)mae’r diffiniadau o “y PDCCC”, “y PDCCS” ac “y PRhC” i’w darllen fel pe bai’r geiriau “Cwricwlwm Cenedlaethol” wedi eu hepgor,
(b)mae’r diffiniadau a ganlyn i’w trin fel pe baent wedi eu hepgor—
(i)“y ddogfen Gymraeg”,
(ii)“rhaglen astudio Cymraeg”, a
(iii)“rhaglen astudio Cymraeg ail iaith”,
(c)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 2” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 7 oed ynddi;”,
(d)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 3” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 8 oed ynddi;”,
(e)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 4” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 9 oed ynddi;”,
(f)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 5” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 10 oed ynddi;”,
(g)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 6” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 11 oed ynddi;”,
(h)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 7” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 12 oed ynddi;”,
(i)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 8” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 13 oed ynddi”, a
(j)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 9” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 14 oed ynddi;”.
(4) Yn lle erthygl 3(1) rhodder—
“(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r erthygl hon yn gymwys i—
(a)disgybl ym mlynyddoedd 4 i 9; a
(b)disgybl ym mlynyddoedd 2 a 3 pan fo mwyafrif gwersi’r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg.”
(5) Yn lle erthygl 4(1) rhodder—
“(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r erthygl hon yn gymwys i ddisgybl ym mlynyddoedd 2 i 9 pan fo mwyafrif gwersi’r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.”
(6) Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2024—
(a)Gorchymyn 2013; a
(b)Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) (Diwygio) 2018(5).
6.—(1) Nid yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014(6) (“Gorchymyn 2014”) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (2).
(2) Nid yw Gorchymyn 2014 yn gymwys—
(a)o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023 i blant a disgyblion—
(i)yn y flwyddyn meithrin,
(ii)yn y flwyddyn derbyn, a
(iii)ym mlwyddyn 1, blwyddyn 2, blwyddyn 3, blwyddyn 4, blwyddyn 5 a blwyddyn 6,
(b)o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023 i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021, ac
(c)o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024 i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 a blwyddyn 8.
(3) Caiff Gorchymyn 2014 ei ddirymu ar 1 Medi 2024.
7. Caiff Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015(7) ei ddirymu ar 30 Mai 2022.
8.—(1) Yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015(8) (“Gorchymyn 2015”) hepgorer Rhannau 3 a 4.
(2) Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2022—
(a)Gorchymyn 2015, a
(b)Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) (Diwygio) 2016(9).
O.S. 2004/2915 (Cy. 254), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3239 (Cy. 244) ac O.S. 2011/1937 (Cy. 206).
O.S. 2005/1394 (Cy. 108), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3239 (Cy. 244), O.S. 2008/1899 (Cy. 181) ac O.S. 2011/1937 (Cy. 206).
O.S. 2013/433 (Cy. 51), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/811 (Cy. 163).
O.S. 2015/1596 (Cy. 195), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/836 (Cy. 210).