Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022

Darpariaeth drosiannol

3.—(1Mewn perthynas â diwrnod asesu sy’n digwydd cyn 1 Ebrill 2023, mae’r cyfeiriadau at 252 a 182 a fewnosodir gan erthygl 2 yn adran 66(2BB) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i’w dehongli fel cyfeiriadau at 140 a 70 yn y drefn honno.

(2Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod asesu” yw’r diwrnod y mae’r cwestiwn yn cael ei ystyried mewn perthynas ag ef o dan adran 66(2BB) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.