- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
23 Mai 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
26 Mai 2022
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 198(3) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pontio o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2022.
2. Caiff Rheoliadau Trosglwyddo o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006(2) eu dirymu ar 1 Medi 2022.
3. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru sy’n cynnal yr ysgol;
ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 11 oed ynddi;
ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 12 oed ynddi;
mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr “Cynllun Pontio” (“Transition Plan”) yw cynllun o’r math y cyfeirir ato yn adran 198(1) o Ddeddf 2002 Act a rheoliad 4(2) o’r Rheoliadau hyn;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021(3);
mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf Addysg 1996;
mae i “dosbarth” (“class”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 82(1) o Ddeddf 2021;
mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79 o Ddeddf 2021.
4.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir y mae’n ofynnol i’r cyrff llywodraethu lunio Cynlluniau Pontio ar eu cyfer(4).
(2) At ddibenion paragraff (1) mae Cynlluniau Pontio yn ofynnol ar gyfer—
(a)pob ysgol uwchradd a gynhelir gan awdurdod lleol (neu sy’n dod o fewn dosbarth penodedig o ysgol o’r fath), a
(b)pob un o’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo ac a gynhelir gan awdurdod lleol y mae Gweinidogion Cymru, yn ei gwneud yn ofynnol i’w cyrff llywodraethu, o dan adran 198(1) o Ddeddf 2002, lunio cynlluniau, ar y cyd, i hwyluso’r broses bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd ar gyfer disgyblion yn yr ysgolion cynradd hynny a dderbynnir i’r ysgol uwchradd.
5. Mae unrhyw anghydfod o ran a yw ysgol i’w hystyried yn ysgol gynradd sy’n bwydo mewn perthynas ag ysgol uwchradd benodol i’w benderfynu gan Weinidogion Cymru.
6.—(1) Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo lunio, ar y cyd, Gynllun Pontio unigol ar gyfer yr ysgolion hynny.
(2) Caiff Cynllun Pontio unigol gynnwys darpariaeth ar gyfer unrhyw un neu ragor o ysgolion cynradd sy’n bwydo a honno’n wahanol i’r ddarpariaeth ar gyfer yr ysgol gynradd arall, neu’r ysgolion cynradd eraill, sy’n bwydo.
(3) Rhaid i Gynllun Pontio—
(a)bod yn ysgrifenedig,
(b)egluro’n gryno beth yw diben Cynllun Pontio,
(c)datgan ei fod wedi ei lunio ar y cyd gan gorff llywodraethu’r ysgol uwchradd o dan sylw a chyrff llywodraethu’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo,
(d)datgan enwau’r ysgol uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo,
(e)datgan y garfan gyntaf o ddisgyblion y mae’n gymwys iddi drwy gyfeirio at y flwyddyn ysgol y symudodd y disgyblion cyntaf hynny ar ei dechrau i fyny i flwyddyn 6 yn eu hysgol gynradd,
(f)datgan y dyddiad y cafodd ei gyhoeddi, ac
(g)ymdrin â’r materion a bennir yn yr Atodlen.
7.—(1) Rhaid cyhoeddi’r Cynllun Pontio cyntaf ar gyfer ysgol uwchradd a phob un o’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo ar 1 Medi 2022 neu cyn hynny.
(2) Y disgyblion y mae Cynllun Pontio cyntaf yn gymwys iddynt yw’r disgyblion hynny sydd, o ddechrau’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023, ym mlwyddyn 6 pob ysgol gynradd sy’n bwydo ac sy’n disgwyl trosglwyddo o’r ysgol gynradd sy’n bwydo i’r ysgol uwchradd ym mlwyddyn ysgol nesaf yr ysgol uwchradd.
(3) Rhaid cyhoeddi Cynlluniau Pontio dilynol ar neu cyn 1 Medi o’r flwyddyn ysgol y mae’r Cynllun i gymryd effaith ynddi.
(4) Y disgyblion y mae Cynllun Pontio dilynol yn gymwys iddynt yw’r disgyblion hynny sydd, o ddechrau’r flwyddyn ysgol y mae’r Cynllun Pontio dilynol yn cymryd effaith ynddi, ym mlwyddyn 6 pob ysgol gynradd sy’n bwydo ac sy’n disgwyl trosglwyddo o’r ysgol gynradd sy’n bwydo i’r ysgol uwchradd ym mlwyddyn ysgol nesaf yr ysgol uwchradd.
8. Rhaid i Gynllun Pontio gael ei adolygu—
(a)os daw ysgol gynradd (“yr ysgol gynradd newydd”) yn ysgol gynradd sy’n bwydo i ysgol uwchradd y mae ganddi eisoes un neu ragor o ysgolion cynradd sy’n ei bwydo,
(b)os bydd ysgol gynradd sy’n bwydo yn peidio â bod yn ysgol gynradd sy’n bwydo i ysgol uwchradd,
(c)os adolygir cwricwlwm naill ai’r ysgol gynradd neu’r ysgol uwchradd o dan adran 12 o Ddeddf 2021,
(d)os adolygir trefniadau asesu naill ai’r ysgol gynradd neu’r ysgol uwchradd a wneir o dan Reoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022(5),
(e)os bydd cyrff llywodraethu pob un o’r ysgolion o dan sylw yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, neu
(f)ar ddiwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd y Cynllun Pontio (neu’r cynllun diwygiedig).
9.—(1) Diben adolygiad o dan reoliad 8(a) yw—
(a)i gyrff llywodraethu’r ysgolion a gytunodd y Cynllun Pontio cyfredol a chorff llywodraethu’r ysgol gynradd newydd ystyried ar y cyd pa ddiwygiadau (os oes rhai) sy’n briodol, a
(b)i’r cyrff llywodraethu gytuno Cynllun Pontio newydd, ar y cyd, os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny.
(2) Diben adolygiad o dan reoliad 8(b) i (e) yw i gyrff llywodraethu’r ysgolion a gytunodd y Cynllun Pontio cyfredol ystyried—
(a)a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol diwygio’r Cynllun Pontio, a
(b)llunio, ar y cyd, Gynllun Pontio newydd neu ddiwygiedig, os ystyrir ei bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol diwygio’r Cynllun Pontio.
(3) Ym mhob achos rhaid i gyrff llywodraethu’r ysgolion o dan sylw roi ystyriaeth i sut y gallai’r cyrff llywodraethu a’r penaethiaid reoli’r broses bontio yn well wrth gynnal adolygiad o dan reoliad 8.
10.—(1) Os yw’r cyrff llywodraethu, yn dilyn adolygiad o dan reoliad 8, yn penderfynu peidio â diwygio’r Cynllun Pontio cyfredol, rhaid iddynt gyhoeddi datganiad sy’n cofnodi’r penderfyniad hwnnw, gan roi rhesymau cryno drosto (“Datganiad”).
(2) Rhaid cyhoeddi’r Cynllun Pontio newydd (neu ddiwygiedig) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a ddim hwyrach na dechrau’r flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi.
(3) Yn achos adolygiad o dan reoliad 8(a), disgyblion cyntaf yr ysgol gynradd newydd y mae’r Cynllun Pontio newydd neu ddiwygiedig yn gymwys iddynt yw’r disgyblion hynny sydd, ar ddechrau’r flwyddyn ysgol, ym mlwyddyn 6 ac sy’n disgwyl trosglwyddo i’r ysgol uwchradd ym mlwyddyn ysgol ganlynol yr ysgol uwchradd.
(4) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 11, mae i “Datganiad” yr ystyr a roddir ym mharagraff (1) o’r rheoliad hwn.
11.—(1) Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion y mae Cynllun Pontio neu Ddatganiad yn ymwneud â hwy ei roi ar gael i’r ysgolion hynny edrych arno.
(2) Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol uwchradd ddarparu copi o’r Cynllun Pontio (neu’r cynllun diwygiedig) i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo neu, os cânt eu cynnal gan ddau neu ragor o awdurdodau lleol gwahanol, i bob un ohonynt.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
23 Mai 2022
Rheoliad 6(3)
1. Y cynigion yn gyffredinol ar gyfer rheoli a chydlynu’r broses bontio ar gyfer disgyblion o’r ysgolion cynradd sy’n bwydo i’r ysgol uwchradd.
2. Y cynigion yn gyffredinol ar gyfer sut y cyflawnir parhad y dysgu drwy ddylunio a chynllunio’r cwricwlwm ar gyfer addysgu a dysgu ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 6 sy’n symud i flwyddyn 7.
3. Y cynigion ar gyfer sut y cefnogir cynnydd pob disgybl unigol wrth iddo bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
4. Y cynigion ar gyfer sut y cefnogir anghenion dysgu a llesiant pob disgybl unigol wrth iddo bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
5. Y cynigion ar gyfer adolygu a monitro effaith y Cynllun Pontio mewn cysylltiad â sut y mae—
(a)wedi helpu i gyflawni’r mater ym mharagraff 2 o’r Atodlen hon, a
(b)wedi helpu i gefnogi’r materion ym mharagraffau 3 a 4 o’r Atodlen hon.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 198 o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu pob ysgol uwchradd (neu ddosbarth penodedig o ysgol uwchradd) a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru a chyrff llywodraethu’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo (“y Gofyniad”) lunio, ar y cyd, gynlluniau i hwyluso’r broses bontio ar gyfer disgyblion o’r ysgolion cynradd i’r ysgol uwchradd (“Cynlluniau Pontio”).
Nid oes diffiniad o’r term “feeder school” (“ysgol sy’n bwydo”) yn adran 198 o Ddeddf 2002. Cyrff llywodraethu ysgolion sy’n penderfynu a yw ysgol yn ysgol sy’n bwydo ar ôl rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 198(2) o Ddeddf 2002. Mae’r canllawiau wedi eu cynnwys yn y Gofyniad i lunio Cynlluniau Pontio a chanllawiau 2022. Mae’r canllawiau hynny yn datgan bod Gweinidogion Cymru yn ystyried y dylid cyfyngu’r Gofyniad i lunio Cynlluniau Pontio i achosion pan fo perthynas sefydledig a pharhaus rhwng ysgol gynradd ac ysgol uwchradd benodol yn seiliedig ar y ffaith bod y rhan fwyaf o garfan blwyddyn 6 o’r ysgol gynradd yn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd benodol honno.
Mae rheoliad 5 yn darparu i Weinidogion Cymru benderfynu anghydfodau o ran a yw ysgol gynradd i’w hystyried yn ysgol sy’n bwydo at ddibenion Cynlluniau Pontio.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chynlluniau Pontio, gan gynnwys—
(a)gofynion o ran ffurf a chynnwys Cynlluniau Pontio, ac ar gyfer eu cyhoeddi (rheoliad 6 a’r Atodlen),
(b)gofynion o ran pa bryd mae rhaid llunio a chyhoeddi Cynlluniau Pontio ac o ran y garfan gyntaf o ddisgyblion i’w chwmpasu (rheoliad 7),
(c)darpariaeth ar gyfer adolygu’r Cynlluniau Pontio a, phan fo’n angenrheidiol neu’n ddymunol, ar gyfer eu diwygio neu eu hamnewid (rheoliadau 8 i 10),
(d)darpariaeth o ran y dull o gyhoeddi Cynlluniau Pontio (rheoliad 11(1)), ac
(e)gofyniad i gopïau o Gynlluniau Pontio gael eu hanfon i’r awdurdod lleol neu’r awdurdodau lleol sy’n cynnal yr ysgolion ac at unrhyw un sy’n gofyn am gopi (rheoliad 11(2)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Adeilad y Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
2002 p. 32 a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1158. Cafodd y swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 212(1) o Ddeddf Addysg 2002.
Nodir y gofyniad i lunio Cynllun Pontio yn y Gofyniad i lunio Cynlluniau Pontio a chanllawiau 2022 (LIC22-21) (“Gofyniad 2022”). Mae Gofyniad 2022 wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru fel is-ddeddfwriaeth Gymreig ond nid yw’n offeryn statudol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys