xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
8.—(1) Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir sicrhau bod adroddiad sy’n cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 4 o Atodlen 2 yn cael ei roi ar gael i unrhyw ddisgybl sydd wedi peidio â bod o’r oedran ysgol gorfodol ac sy’n bwriadu ymadael â’r ysgol neu sydd wedi ymadael â’r ysgol.
(2) Rhaid i’r adroddiad fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddo fod ar ffurf electronig.
(3) O ran yr adroddiad—
(a)rhaid i’r rhan o’r adroddiad y mae’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 16, 17 a 19 o Atodlen 2 yn cael ei rhoi ar gael ynddi ddarparu ar gyfer llofnod gan y disgybl (“y rhan gyntaf”);
(b)rhaid i’r rhan o’r adroddiad sy’n cynnwys y rhan gyntaf a’r rhan o’r adroddiad y mae’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 16 a 18 o Atodlen 2 yn cael ei rhoi ar gael ynddi ddarparu ar gyfer llofnod gan athro sy’n gyfarwydd â’r disgybl a chyflawniadau’r disgybl hwnnw.
(4) Caniateir i unrhyw lofnod a ddarperir yn unol â pharagraff (3) gael ei ddarparu’n electronig.