Rheoliadau Addysg mewn Lleoliadau Lluosog (Cymru) 2022

Disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn mwy nag 1 ysgol annibynnol

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag 1 ysgol annibynnol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol priodol lunio cynllun sy’n nodi—

(a)sut y bydd yn sicrhau’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y disgybl yn y cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD ym mhob ysgol annibynnol, a

(b)sut y bydd y trefniadau asesu yn gymwys i’r disgybl yn yr ysgolion.

(3Wrth lunio’r cynllun, neu’r cynllun diwygiedig, rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—

(a)â pherchennog pob un o’r ysgolion annibynnol, a

(b)ag unrhyw awdurdod lleol arall y mae 1 o’r ysgolion annibynnol ynddo.

(4Mae’r cynllun i ddechrau ar y dyddiad y daw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag 1 ysgol annibynnol neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw.

(5Ni chaiff hyd y cynllun cyntaf nac unrhyw gynllun wedi hynny fod yn hwy nag 1 flwyddyn ysgol.

(6Rhaid i’r awdurdod lleol priodol gadw’r cynllun o dan adolygiad a’i ddiwygio—

(a)os yw’n adolygu’r cwricwlwm o dan adran 54 o Ddeddf 2021, neu

(b)os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(7Rhaid i’r awdurdod lleol priodol sicrhau bod copi o’r cynllun yn cael ei ddarparu—

(a)i’r disgybl ar gais gan y disgybl, a

(b)i rieni’r disgybl ar gais gan y rhieni.

(8Nid yw paragraff (7)(a) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.

(9Cyn penderfynu nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid o dan baragraff (7)(a) rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—

(a)â pherchennog pob un o’r ysgolion annibynnol, a

(b)ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.