Diwygiad i reoliad 3LL+C
12. Yn rheoliad 3(1), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
(a)
o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
(b)
y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
(i)
pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
(ii)
pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 12 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2