Diwygiad i Atodlen 2LL+C
43. Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2ZB mewnosoder—
“Categori 2ZC – Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir
2ZC.—(1) Person—
(a)sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
(a)o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
(b)y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
(i)pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
(ii)pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 43 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2