Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/12/2022.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022, Adran 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
[F12. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “annedd” (“dwelling”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 246(1));
mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” gan adran 1(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(2);
mae i “categori o anheddau” yr ystyr a roddir i “category of dwellings” gan adran 30(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(3);
mae i “contract wedi ei drosi perthnasol” (“relevant converted contract”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 15(3)(4) o Atodlen 12 i’r Ddeddf);
ystyr “deiliad contract perthnasol” (“relevant contract-holder”) yw deiliad contract (y mae iddo’r ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 7(5)) o dan gontract wedi ei drosi perthnasol;
mae i “y diwrnod penodedig” (“appointed day”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 242);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;
ystyr “gwelliant perthnasol” (“relevant improvement”) yw gwelliant—
a wnaed yn ystod y contract wedi ei drosi perthnasol y mae’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf yn gymwys iddo, neu
sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—
cafodd y gwelliant ei wneud heb fod yn fwy nag un ar hugain o flynyddoedd cyn dyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf,
ar bob adeg yn ystod y cyfnod gan ddechrau pan gafodd y gwelliant ei wneud a chan ddod i ben ar ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, mae’r annedd wedi ei gosod o dan gontract wedi ei drosi perthnasol, tenantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr, a
pan ddaw tenantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr i ben, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw, nid ymadawodd y tenant na’r trwyddedai (neu, yn achos cyd-denantiaid neu gyd-drwyddedeion, o leiaf un ohonynt);
mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
mae i “landlord” (“landlord”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 244(2));
mae i “meddiannaeth amaethyddol sicr” (“assured agricultural occupancy”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 1(5) o Atodlen 12 i’r Ddeddf);
ystyr “pwyllgor asesu rhenti” (“rent assessment committee”) yw pwyllgor asesu rhenti a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977(6);
nid yw “rhent” (“rent”) yn cynnwys—
unrhyw dâl gwasanaeth o fewn ystyr adran 18 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985(7), na
unrhyw daliadau a waherddir o dan adran 4 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019,
ond, yn ddarostyngedig i hynny, mae’n cynnwys unrhyw symiau sy’n daladwy gan y deiliad contract perthnasol i’r landlord am ddefnyddio dodrefn, mewn cysylltiad â’r dreth gyngor neu ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn adran 18(1)(a) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, pa un a yw’r symiau hynny ar wahân i’r symiau sy’n daladwy am feddiannu’r annedd o dan sylw neu’n daladwy o dan gytundebau ar wahân ai peidio;
mae i “tenantiaeth sicr” (“assured tenancy”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 242).]
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 2 wedi ei amnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13
1992 p. 14. Diwygiwyd adran 1(2) gan adran 35(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19).
Diwygiwyd adran 30 gan baragraff 8 o Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20).
Diwygiwyd paragraff 15(3) o Atodlen 12 i’r Ddeddf gan reoliad 12(b) o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795 (Cy. 173)).
1977 p. 42. Diwygiwyd Atodlen 10 gan adrannau 71(2), 148 a 152 o Ddeddf Tai 1980 (p. 51), paragraff 56 o Atodlen 25 iddi, ac Atodlen 26 iddi; adran 26 o Ddeddf Pensiynau ac Ymddeoliadau Barnwrol 1993 (p. 8) a pharagraff 56 o Atodlen 6 iddi; adrannau 222 a 227 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), paragraff 22 o Atodlen 18 iddi a pharagraff 1 o Ran 13 o Atodlen 19 iddi; ac adran 62(2) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4). Gwnaed diwygiadau hefyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036), a ddiddymodd bwyllgorau asesu rhenti yn Lloegr, ac erthygl 5(2)(c) o Orchymyn Cyllid Llywodraeth Leol (Diddymiadau, Arbedion a Diwygiadau Canlyniadol) 1990 (O.S. 1990/776).
1985 p. 70. Diwygiwyd adran 18 gan adran 41 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) a pharagraff 1 o Atodlen 2 iddi, a chan adran 150 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15), a pharagraff 7 o Atodlen 9 iddi.
2019 dccc 2. Diwygiwyd adran 4 gan adrannau 15(2) ac 16(1) a (3) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.
1985 p. 70. Diwygiwyd adran 18(1)(a) gan adran 41 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31), a pharagraff 1 o Atodlen 2 iddi; ac adran 150 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15), a pharagraff 7 o Atodlen 9 iddi.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys