Costau hyfforddi
18.—(1) Pan fo gweithiwr amaethyddol yn mynd ar gwrs hyfforddi gyda chytundeb ei gyflogwr ymlaen llaw, rhaid i’r cyflogwr dalu—
(a)unrhyw ffioedd am y cwrs; a
(b)unrhyw gostau teithio a llety a ysgwyddir gan y gweithiwr amaethyddol wrth fynd ar y cwrs.
(2) Bernir bod gweithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi’n ddi-dor ar Radd A gan yr un cyflogwr am ddim llai na 30 wythnos wedi cael cymeradwyaeth ei gyflogwr i ymgymryd â hyfforddiant gyda golwg ar sicrhau’r cymwysterau angenrheidiol y mae’n ofynnol i weithiwr Radd B feddu arnynt.
(3) Y cyflogwr sydd i dalu am unrhyw hyfforddiant y mae gweithiwr amaethyddol yn ymgymryd ag ef yn unol â pharagraff (2).