Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022

Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau gweithio amrywiol a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau

34.—(1Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, cymerir mai nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2, yw cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 o wythnosau yn union cyn i wyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol gychwyn a rhaid i’r nifer cyfartalog hwnnw o ddiwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol.

(2Ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol rhaid i’r cyflogwr gyfrifo hawl wirioneddol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2, ar sail nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos, wedi ei gymryd fel cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y flwyddyn gwyliau blynyddol (h.y. dros gyfnod o 52 o wythnosau) a rhaid i nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol.

(3Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cronni hawl i wyliau ond heb eu cymryd, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i ddwyn ymlaen unrhyw wyliau a gronnwyd ond nas cymerwyd i’r flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol yn unol ag erthygl 36(3) o’r Gorchymyn hwn neu caiff y gweithiwr amaethyddol a’r cyflogwr gytuno i daliad yn lle unrhyw wyliau a gronnwyd ond nas cymerwyd yn unol ag erthygl 39 o’r Gorchymyn hwn.

(4Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cymryd mwy o ddiwrnodau gwyliau nag yr oedd ganddo hawl iddynt o dan y Gorchymyn hwn, ar sail nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos (wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (2)), mae gan y cyflogwr hawl i ddidynnu unrhyw dâl am ddiwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol neu, fel arall, ddidynnu’r diwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol o’i hawl ar gyfer y flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol (ar yr amod nad yw didyniad o’r fath yn arwain at fod y gweithiwr amaethyddol yn cael llai na’i hawl gwyliau blynyddol statudol o dan reoliadau 13 a 13A o Reoliadau Amser Gwaith 1998).