Offerynnau Statudol Cymru
2022 Rhif 800 (Cy. 177)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022
Gwnaed
13 Gorffennaf 2022
Yn dod i rym
17 Medi 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 81(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), ac ar ôl ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol fel sy’n ofynnol gan adran 81(5) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae drafft o’r Gorchymyn hwn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn unol ag adran 81(3)(aa) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 17 Medi 2023.
Gostwng y terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig
2.—(1) Mae’r gyfradd gyflymder a bennir gan adran 81(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig) wedi ei gostwng i 20 milltir yr awr.
(2) Yn unol â hynny, mae’r cyfeiriad yn adran 81(1) o’r Ddeddf honno at “30 miles per hour” i’w ddehongli fel pe bai’n gyfeiriad at 20 milltir yr awr.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2022
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae adran 81(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (“y Ddeddf”) yn darparu na fydd yn gyfreithlon i berson yrru cerbyd modur ar ffordd gyfyngedig yn gyflymach na 30 milltir yr awr. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adrannau 82 ac 84(3) o’r Ddeddf, mae ffordd yn ffordd gyfyngedig at ddibenion adran 81 o’r Ddeddf os darperir arni, yng Nghymru a Lloegr, system o oleuadau stryd drwy gyfrwng lampau sydd wedi eu gosod heb fod yn fwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Mae adran 81(2) o’r Ddeddf yn galluogi’r awdurdod cenedlaethol (sef Gweinidogion Cymru o ran Cymru yn unol ag adran 142(1) o’r Ddeddf), drwy orchymyn, i gynyddu neu ostwng y gyfradd gyflymder a bennir gan adran 81(1), naill ai fel y’i deddfwyd yn wreiddiol neu fel y’i hamrywiwyd o dan yr is-adran honno. Mae adran 81(3)(aa) o’r Ddeddf yn darparu bod gorchymyn o’r fath, os y’i gwneir gan Weinidogion Cymru, i’w wneud drwy offeryn statudol a’i gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru. Cyn i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan adran 81(2) o’r Ddeddf, mae’n ofynnol gan adran 81(5) o’r Ddeddf iddynt ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan adran 81(2) o’r Ddeddf. Mae’n gostwng y terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig o 30 milltir yr awr i 20 milltir yr awr o ran Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Diogelwch ar y Ffyrdd, Yr Is-adran Drafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu 20mya@llyw.cymru