xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
13 Gorffennaf 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1), paragraff 17 o Atodlen 3 iddi, paragraff 13 o Atodlen 8A(2) iddi, paragraff 13 o Atodlen 9 iddi, paragraff 11 o Atodlen 9B(3) iddi a pharagraff 11 o Atodlen 9C(4) iddi, ac adrannau 255(5) a 256(1) a (2)(6) iddi.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym(11).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
2. Yn Atodlen 2 i’r Ddeddf (eithriadau i adran 7), ym mharagraff 7(3)(12) ar ôl paragraff (i) mewnosoder—
“(j)tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety a ddarperir—
(i)gan, neu ar ran, yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â gofyniad a osodwyd o dan adran 3(6) (darpariaethau cyffredinol)(13) o Ddeddf Mechnïaeth 1976 (p. 63)(14), neu
(ii)o dan Ran 1 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau prawf) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21)(15) at y dibenion prawf (o fewn ystyr adran 1(16) o’r Ddeddf honno);
(k)tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â—
(i)llety a ddarperir o dan adran 4 (llety)(17) neu Ran 6 (cymorth i geiswyr lloches etc.) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(p. 33)(18), neu
(ii)cyfleusterau a ddarperir o dan baragraff 9 o Atodlen 10 i Ddeddf Mewnfudo 2016 (c. 19) (mechnïaeth mewnfudo)(19) ar gyfer llety i berson a ddarperir mewn cyfeiriad a bennir mewn amod mechnïaeth mewnfudo.”
3. Yn Atodlen 3 i’r Ddeddf (contractau meddiannaeth a wneir gyda neu a fabwysiedir gan landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol), hepgorer paragraff 4(20) a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.
4. Yn Atodlen 8A i’r Ddeddf (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 neu o dan gymal terfynu’r landlord), hepgorer paragraff 5 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.
5. Yn Atodlen 9 i’r Ddeddf (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt), hepgorer paragraff 4(21) a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.
6. Yn Atodlen 9B i’r Ddeddf (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186), hepgorer paragraff 3 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.
7. Yn Atodlen 9C i’r Ddeddf (contractau safonol cyfnod penodol a gaiff gynnwys cymal terfynu’r landlord hyd yn oed os ydynt wedi eu gwneud am gyfnod llai na dwy flynedd), hepgorer paragraff 3 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.
8. Yn Neddf Mewnfudo 2016, ym mharagraff 2 o Atodlen 11, ar ôl paragraff (m), mewnosoder—
“(n)in paragraph 7(3)(k)(i) of Schedule 2 to the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1), in the English language text omit “section 4 (accommodation) or” and in the Welsh Language text omit “adran 4 (llety) neu”.”.
9. Yn Neddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021(22), yn Atodlen 6 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(a)hepgorer paragraff 23;
(b)hepgorer paragraff 26(3).
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlenni 2, 3, 8A, 9, 9B a 9C i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) (dccc 1).
Mae rheoliad 2 yn mewnosod ym mharagraff 7(3) o Atodlen 2 (eithriadau i adran 7) i’r Ddeddf, gyfeiriad at denantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol (er enghraifft, o dan neu yn rhinwedd trefniadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol â pherson arall), mewn cysylltiad â gofyniad a osodir o dan adran 3(6) o Ddeddf Mechnïaeth 1976. Mae hefyd yn ychwanegu cyfeiriad at lety a ddarperir o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 at y dibenion prawf (o fewn ystyr adran 1 o’r Ddeddf honno). Mae’r diwygiad hwn yn golygu na all tenantiaeth na thrwydded o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth o dan y Ddeddf.
Mae rheoliad 2 hefyd yn mewnosod ym mharagraff 7(3) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, gyfeiriad at denantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â:
(a)llety a ddarperir o dan adran 4 (llety) neu Ran 6 (cymorth i geiswyr lloches) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999, a
(b)cyfleusterau a ddarperir o dan baragraff 9 o Atodlen 10 (mechnïaeth mewnfudo) i Ddeddf Mewnfudo 2016 ar gyfer llety person a ddarperir mewn cyfeiriad a bennir mewn amod mechnïaeth mewnfudo.
Mae’r diwygiad hwn yn golygu na all unrhyw denantiaeth na thrwydded o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth o dan y Ddeddf.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a wneir gyda neu a fabwysiedir gan landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol) i’r Ddeddf i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Atodlen 8A (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 neu o dan gymal terfynu’r landlord) i’r Ddeddf i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.
Mae rheoliad 5 yn diwygio Atodlen 9 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt) i’r Ddeddf, i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.
Mae rheoliad 6 yn diwygio Atodlen 9B (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186) i’r Ddeddf, i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.
Mae rheoliad 7 yn diwygio Atodlen 9C (contractau safonol cyfnod penodol a gaiff gynnwys cymal terfynu’r landlord hyd yn oed os ydynt wedi eu gwneud am gyfnod llai na dwy flynedd) i’r Ddeddf, i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.
Mae rheoliad 8 yn gwneud diwygiad canlyniadol i baragraff 2 o Atodlen 11 i Ddeddf Mewnfudo 2016 (“Deddf 2016”). Bydd paragraff 1 o Atodlen 11 i Ddeddf 2016, pan ddaw i rym yn llawn, yn diddymu adran 4 o Ddeddf 1999. Pan gaiff adran 4 o Ddeddf 1999 ei diddymu a phan ddaw paragraff 2 o Atodlen 11 i Ddeddf 2016 i rym, bydd y diwygiad a wneir gan reoliad 8 yn hepgor y cyfeiriad at adran 4 o Ddeddf 1999 ym mharagraff 7(3)(k)(i) o Atodlen 2 i’r Ddeddf (fel y’i mewnosodir gan reoliad 2).
Mae rheoliad 9 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 6 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021, yn ymwneud â’r ddarpariaeth yn rheoliadau 3 a 5.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.
Mewnosodwyd Atodlen 8A gan adran 3 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) ac Atodlen 1 iddi.
Mewnosodwyd Atodlen 9B gan adran 10(3) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 ac Atodlen 3 iddi.
Mewnosodwyd Atodlen 9C gan adran 11(2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 ac Atodlen 4 iddi.
Diwygiwyd adran 255(2) gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio)(Cymru) 2021 a pharagraff 8 o Atodlen 5 iddi.
Diwygiwyd adran 256(2) gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraff 21(a) o Atodlen 6 iddi.
Mewnosodwyd adran 256(4)(la) gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraff 21(b)(ii) o Atodlen 6 iddi.
Mewnosodwyd adran 256(4)(mb) gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraff 21(c) o Atodlen 6 iddi.
Mewnosodwyd adran 256(4)(mc) gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraff 21(c) o Atodlen 6 iddi.
Mae’r cyfeiriadau yn adran 256(3) a (5) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar ddiwrnod a benodir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
Diwygiwyd paragraff 7(3) o Atodlen 2 i’r Ddeddf gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraff 5(2) o Atodlen 5 iddi.
Diwygiwyd is-adran (6) gan adrannau 27(2)(a) a 168(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33) ac Atodlen 11 iddi, adrannau 13(1) a 332 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) a Rhan 2 o Atodlen 37 iddi, adran 54(2) o Ddeddf Troseddau ac Anrhefn 1988 (p. 37) ac adran 208(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p. 29) a pharagraffau 33 a 34 o Atodlen 21 iddi.
Diwygiwyd adran 1 gan adran 148(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4), a pharagraff 83(a) a (b) o Ran 2 o Atodlen 26 iddi; adran 410 o Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17) a pharagraff 261 o Ran 1 o Atodlen 24 iddi; ac adran 38(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2) a pharagraffau 24 a 25 o Atodlen 9 iddi.
Diwygiwyd adran 4 gan adran 49 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 (p. 41), adran 10(1) a (6) o Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Hawlwyr, etc) 2004 (p. 19), adran 43(7) o Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13) ac mae wedi ei diddymu’n rhannol gan adran 66 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19) a pharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.
Diwygiwyd paragraff 4 o Atodlen 3 i’r Ddeddf gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraffau 1 a 23 o Atodlen 6 iddi.
Diwygiwyd paragraff 4 o Atodlen 9 i’r Ddeddf gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraffau 1 a 26(1) a (3) o Atodlen 6 iddi.