- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
4. Person—
(a)sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
(b)sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd;
(c)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
(d)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;
(e)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
(iii)dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
(f)y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
(g)y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—
(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(iii)dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn, neu
(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(h)y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;
(i)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
(j)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36 o Ddeddf 2014, beidio â sicrhau asesiad AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
(k)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
(i)nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
(ii)bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
(iii)nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
(l)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn, neu
(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(m)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys