xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Darpariaeth arbed

4.  Yn ddarostyngedig i erthyglau 9 i 11 ac erthyglau 13 i 18, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996(1) wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd—

(a)mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw; a

(b)nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.

(1)

Gweler erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn a gychwynnodd y darpariaethau hynny.