- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2. Mae’r Atodlen i Orchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019(1) wedi ei hamrywio fel a ganlyn—
(a)yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y cofnodion a ganlyn—
“Aurotrap a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, AUROCON Automated Rodent Control, Industrivej 35, 9600 Aars, Denmarc. | Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr.” |
“Quill Trap a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Quill Productions, Manor Farm, Pulham, Dorchester, Dorset, DT2 7EE. | Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd carlymod, gwencïod a llygod mawr. Pan gaiff y trap ei ddefnyddio ar ffurf â phen caeedig, rhaid gosod y trap mewn twnnel artiffisial a adeiladwyd i’r dyluniad a bennwyd gan Quill Productions gan ddefnyddio deunyddiau sy’n addas at y diben. Pan gaiff y trap ei ddefnyddio ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo, rhaid gosod y trap yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd wrth ei osod ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.” |
“Smart Catch a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Anticimex Innovation Center A/S, Skovgaardsvej 23E, DK-3200 Helsinge, Denmarc. | Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr a llygod.” |
“Smart Catch Mini a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Anticimex Innovation Centre A/S, Skovgaardsvej 23E, DK-3200 Helsinge, Denmarc. | Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr.” |
“Smart Pipe Long Life 110 (eitem rhif 141110), Smart Pipe Long Life 160 (eitem rhif 141160), Smart Pipe Long Life 200 (eitem rhif 141200), Smart Pipe Long Life 250 (eitem rhif 141250), a Smart Pipe Long Life 300 (eitem rhif 141300) a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Anticimex Innovation Center A/S, Skovgaardsvej 23E, DK-3200 Helsinge, Denmarc. | Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr. Rhaid gosod y trap mewn carthffos, pibell ddraenio neu strwythur tebyg.” |
(b)hepgorer y cofnodion ar gyfer yr WCS Collarum Stainless UK Fox Model a’r WiseTrap 110, y WiseTrap 160, y WiseTrap 200 a’r WiseTrap 250.
O.S. 2019/18 (Cy. 7), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/709 (Cy. 179).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys