Chwilio Deddfwriaeth

Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheolau)

Ar 6 Mai 2022, daeth darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) sy’n ymwneud â’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer ethol cynghorwyr i brif gyngor yng Nghymru i rym. Mae’r darpariaethau hyn yn caniatáu i brif gynghorau benderfynu cynnal etholiadau gan ddefnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy yn hytrach na’r system mwyafrif syml (gweler, yn benodol, adrannau 7 i 9 o’r Ddeddf honno).

Mewnosodwyd adran 36A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheolau ar gyfer cynnal etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, gan adran 13 o Ddeddf 2021. Arferwyd y pŵer hwnnw i wneud Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1459 (Cy. 374)) (“Rheolau 2021”). Mae’r Rheolau hynny’n nodi sut y mae rhaid cynnal etholiadau i brif gynghorau pan ddefnyddir y system mwyafrif syml. Nid ydynt yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal etholiadau pan ddefnyddir y system pleidlais sengl drosglwyddadwy.

Mae’r Rheolau hyn (Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023) felly yn diwygio Rheolau 2021 er mwyn iddynt ddarparu ar gyfer cynnal etholiadau pan ddefnyddir y system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Bydd Rheolau 2021 yn parhau i wneud darpariaeth ynghylch y system mwyafrif syml ar gyfer cynnal etholiadau mewn prif ardaloedd nad ydynt wedi penderfynu defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy.

Mae rheol 2 yn diwygio rheol 3 o Reolau 2021 er mwyn ychwanegu’r termau “system mwyafrif syml” a “system pleidlais sengl drosglwyddadwy” at y rhestr ym mharagraff (3) o’r rheol honno. Effaith y diwygiad yw fod i’r termau hynny yr ystyr a nodir yn adran 6 o Ddeddf 2021.

Mae rheol 3 yn diwygio Rhan 3 o Atodlen 1 i Reolau 2021, sy’n ymdrin â chynnal y bleidlais, er mwyn cynnwys darpariaeth ar gyfer y system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Ar hyn o bryd, mae Rhan 3 yn cyfeirio at nifer o ffurfiau rhagnodedig, gan gynnwys ffurf y papur pleidleisio, nad ydynt yn addas ar gyfer etholiadau sy’n defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy oherwydd eu bod yn cynnwys cyfarwyddiadau i bleidleiswyr i roi croes [X] yn erbyn enw’r ymgeisydd y maent yn pleidleisio drosto. Mae’r diwygiadau’n darparu ar gyfer defnyddio ffurfiau gwahanol mewn etholiadau sy’n defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer cynnwys hysbysiadau y tu mewn i bob bwth pleidleisio (fel bod pleidleiswyr, yn hytrach na chael eu cyfarwyddo i roi croes, yn cael gwybodaeth ynghylch sut i farcio eu dewis cyntaf, eu hail ddewis a’u trydydd dewis etc.).

Mae rheol 4 yn mewnosod Rhan newydd 4A yn Rheolau 2021, sy’n ymdrin â chyfrif pleidleisiau mewn etholiadau sy’n defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Bydd y Rhan 4 bresennol yn parhau i fod yn gymwys mewn etholiadau sy’n defnyddio’r system mwyafrif syml ac mae wedi ei hailenwi i adlewyrchu ei chwmpas.

Mae Pennod 1 o’r Rhan newydd 4A yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol. Mae’r ddarpariaeth a wneir ar gyfer presenoldeb wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (rheol 60B), ar gyfer cyfrif y papurau pleidleisio yn y lle cyntaf a’u dilysu etc. (rheol 60C) ac ar gyfer dyletswyddau cyffredinol y swyddog canlyniadau wrth gyfrif y pleidleisiau (rheol 60D) yn debyg i’r ddarpariaeth a wneir gan y Rhan 4 bresennol ar gyfer etholiadau sy’n defnyddio’r system mwyafrif syml. Mae’r ddarpariaeth a wneir ar gyfer gwrthod papurau pleidleisio yn sylweddol wahanol (rheol 60E). Yn benodol, mae’r seiliau ar gyfer eu gwrthod yn wahanol mewn ffyrdd penodol er mwyn ystyried y sefyllfa mewn etholiadau sy’n defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy pan fo rhaid i bleidleiswyr nodi dewis cyntaf a phan gânt nodi ail ddewis a dewisiadau pellach.

Mae Pennod 2 o’r Rhan newydd 4A yn nodi’r rheolau a ddefnyddir i bennu’r canlyniad mewn etholiadau sy’n defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Mae’r rheolau hyn yn seiliedig ar system a ddisgrifir weithiau mewn llenyddiaeth ynghylch systemau etholiadol fel “y dull Gregory clasurol” neu “y dull Gregory syml”. Mae prif agweddau’r rheolau fel a ganlyn.

  • Cyfrifir y pleidleisiau dewis cyntaf ar bapurau pleidleisio dilys (rheol 60G).

  • Cyfrifir y “cwota”. Dyma nifer y pleidleisiau y mae eu hangen i sicrhau y dychwelir ymgeisydd fel cynghorydd. Mae rheol 60H yn nodi sut y cyfrifir y cwota ac fe’i dangosir gan ddefnyddio’r fformiwla ganlynol:

    Formula
  • Mae rheol 60I yn nodi bod ymgeisydd i’w drin fel pe bai wedi ei ethol os yw nifer y pleidleisiau dros yr ymgeisydd, ar unrhyw gam o’r cyfrif, yn cyfateb i’r cwota neu uwchlaw’r cwota.

  • Mae darpariaeth i bleidleisiau gael eu trosglwyddo pan fo nifer y pleidleisiau dros ymgeisydd uwchlaw’r cwota (hynny yw, pan drinnir yr ymgeisydd felly fel pe bai wedi ei ethol a bod ganddo bleidleisiau dros ben).

    • Pan fo’r pleidleisiau dewis cyntaf dros ymgeisydd uwchlaw’r cwota, mae rheol 60J yn nodi’r hyn sy’n digwydd. Yn y bôn, edrychir ar bapurau pleidleisio’r ymgeisydd llwyddiannus i weld a yw’r pleidleisiwr wedi mynegi “dewis nesaf sydd ar gael”. Diffinnir hyn yn rheol 60F, ac yn fras mae’n golygu dewis nesaf (mewn trefn olynol) o ran ymgeisydd sy’n dal yn y ras (hynny yw, nad yw wedi ei drin fel pe bai wedi ei ethol nac wedi ei eithrio). Cyfeirir at bapurau pleidleisio sy’n mynegi dewis nesaf sydd ar gael yn y rheolau fel “papurau trosglwyddadwy” a throsglwyddir pob un i’r ymgeisydd y rhoddwyd y dewis o’i ran. Mae i’r bleidlais ar bob papur pleidleisio a drosglwyddir werth a gyfrifir yn unol â rheol 60J(5) (drwy gymryd pleidleisiau dros ben yr ymgeisydd a’u rhannu â chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddir).

    • Mewn achosion eraill pan fo gan ymgeisydd bleidleisiau dros ben (er enghraifft, pan fo gan ymgeisydd bleidleisiau dros ben ar ôl trosglwyddo’r pleidleisiau dewis cyntaf o dan reol 60J), mae rheol 60K yn nodi’r hyn sy’n digwydd. Os digwydd hyn, nid yw’r swyddog canlyniadau ond yn edrych ar y papurau pleidleisio a drosglwyddwyd ddiwethaf i’r ymgeisydd llwyddiannus (yn yr enghraifft, y rheini a drosglwyddwyd o dan reol 60J). Edrychir ar y papurau pleidleisio hyn i weld a yw’r pleidleisiwr wedi mynegi dewis nesaf sydd ar gael. Trosglwyddir pob papur pleidleisio sy’n mynegi dewis nesaf sydd ar gael i’r ymgeisydd y rhoddwyd y dewis o’i ran. Mae i’r bleidlais ar bob papur pleidleisio a drosglwyddir werth a gyfrifir yn unol â rheol 60K(5). Mae hyn eto yn golygu rhannu pleidleisiau dros ben yr ymgeisydd â chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddir ond mae cam ychwanegol y bwriedir iddo sicrhau nad yw’r gwerth yn fwy na gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd y mae’r bleidlais yn awr yn cael ei throsglwyddo oddi wrtho (gweler cam 3 yn rheol 60K(5)).

    • Mae rheolau 60L, 60M a 60N yn ymdrin â materion ategol yn ymwneud â throsglwyddiadau. Yn benodol, mae rheol 60L yn ymdrin ag achosion pan na fo angen trosglwyddo, rheol 60M yn ymdrin â threfn trosglwyddiadau pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor yr un nifer o bleidleisiau dros ben a rheol 64N yn ymdrin â’r cofnodion y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu gwneud.

  • Os oes swyddi gwag i’w llenwi o hyd ar ôl trosglwyddo’r holl bleidleisiau dros ben, mae’r rheolau’n darparu ar gyfer eithrio’r ymgeisydd sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau (rheol 60O). Yna caiff pleidleisiau’r ymgeisydd a eithriwyd eu hailddosbarthu. Mae hyn yn digwydd fesul cam.

    • Y cam cyntaf yw trosglwyddo pleidleisiau dewis cyntaf yr ymgeisydd a eithriwyd o dan reol 60O. Mae’r swyddog canlyniadau’n edrych ar y papurau pleidleisio y rhoddwyd y pleidleisiau hynny arnynt i weld a yw’r pleidleisiwr wedi mynegi dewis nesaf sydd ar gael. Trosglwyddir pob papur pleidleisio sy’n mynegi dewis nesaf sydd ar gael i’r ymgeisydd y rhoddwyd y dewis o’i ran, a’r gwerth trosglwyddo fydd 1.

    • Os oes swyddi gwag o hyd ar ôl gwneud hyn, mae’r swyddog canlyniadau’n didoli papurau pleidleisio eraill yr ymgeisydd a eithriwyd yn grwpiau yn unol â gwerth trosglwyddo’r pleidleisiau hynny pan gafodd yr ymgeisydd a eithriwyd hwy (rheol 60P). Gan ddechrau â’r grŵp uchaf ei werth, mae’r swyddog canlyniadau’n edrych ar y papurau pleidleisio i weld a yw’r pleidleisiwr wedi mynegi dewis nesaf sydd ar gael. Trosglwyddir pob papur pleidleisio sy’n mynegi dewis nesaf sydd ar gael i’r ymgeisydd y rhoddwyd y dewis o’i ran, yn unol â gwerth y bleidlais ar y papur pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd a eithriwyd.

    • Mae rheol 60R yn ymdrin â materion ategol sy’n ymwneud ag eithrio, megis y cofnodion y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu gwneud.

  • Mae rheol 60S yn nodi rheolau arbennig sy’n gymwys i lenwi swyddi gwag olaf. Bwriedir i’r rheolau hyn sicrhau nad yw’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau barhau i gyfrif pan na fyddai diben gwneud hynny. Er enghraifft, mae’r rheol yn darparu, pan fo nifer yr ymgeiswyr sy’n dal yn y ras yn cyfateb i nifer y swyddi gwag sy’n dal heb eu llenwi, y trinnir yr ymgeiswyr hynny fel pe baent wedi eu hethol.

  • Mae rheolau 60T i 60W yn ymdrin â materion atodol. Mae rheol 60T yn galluogi ymgeisydd neu asiant etholiadol i ofyn, ar ddiwedd pob cam o’r cyfrif, i’r cam hwnnw gael ei ailgyfrif. Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod yn afresymol. Mae rheol 60U yn nodi rheolau ynghylch y drefn y trinnir ymgeiswyr fel pe baent wedi eu hethol ynddi (a’r rheol gyffredinol yw mai dyma’r drefn y trosglwyddwyd eu priod bleidleisiau dros ben ynddi). Mae rheol 60V yn darparu y bydd penderfyniadau’r swyddog canlyniadau yn derfynol (yn ddarostyngedig i’w hadolygu ar ddeiseb etholiad). Mae rheol 60W yn ymdrin â datgan y canlyniad a materion cysylltiedig.

Mae rheol 6 yn mewnosod Atodlenni 1 i 4 sy’n mewnosod Atodiadau newydd 2A, 4A, 5A a 6A yn yr Atodiadau i Atodlen 1 i Reolau 2021. Mewnosodir ffurfiau newydd o ran papurau pleidleisio, datganiadau pleidleisio post, cardiau pleidleisio a chanllawiau i bleidleiswyr. Mae’r rhain yn cynnwys cyfarwyddiadau priodol ar gyfer etholiadau sy’n defnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy.

Mae rheolau 7 i 10 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 2 i Reolau 2021 (sy’n ymdrin â’r sefyllfa pan gyfunir y bleidlais mewn etholiad i brif gyngor â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol). Gan fod y ddarpariaeth a wneir gan y Rheolau hyn yn debyg i’r ddarpariaeth a wneir gan reolau 3 i 6 mewn cysylltiad ag Atodlen 1, ni roddir rhagor o eglurhad.

Mae rheol 11 yn gwneud diwygiad technegol i reol 54(3) o Reolau 2021.

Asesiad Effaith Rheoleiddiol

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheolau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheolau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Etholiadau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill