xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Dŵr, Cymru
Gwnaed
24 Tachwedd 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
29 Tachwedd 2023
Yn dod i rym
1 Ionawr 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 92 a 219(2)(d) i (f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(1).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2024.
2. Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021(2) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3. Yn rheoliad 2(b) (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau) ar ôl “1 Ionawr 2024” mewnosoder “fodd bynnag, nid yw rheoliad 4 yn gymwys i ddaliadau glaswelltir cymhwysol hyd nes 1 Ionawr 2025”.
4. Yn rheoliad 3 (dehongli)—
(a)ar ôl y diffiniad o “cynllun gwrteithio”, mewnosoder—
“ystyr “cynllun rheoli maethynnau uwch” (“enhanced nutrient management plan”) yw cynllun a lunnir yn unol â pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 1A;”;
(b)yn lle’r diffiniad o “CANC” rhodder —
“ystyr “CNC” (“NRW”) yw Cyfoeth Naturiol Cymru;”;
(c)ar ôl y diffiniad o “cwrs dŵr” mewnosoder—
“ystyr “cyfarpar taenu manwl” (“precision spreading equipment”) yw system gwadnau llusg, bar diferion neu chwistrellydd;
ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024;”.
(d)ar ôl y diffiniad o “daliad” mewnosoder—
““ystyr “daliad glaswelltir cymhwysol” (“qualifying grassland holding”) yw daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, pan fo 80% neu fwy o ardal amaethyddol y daliad wedi ei hau â phorfa;”;
5. Ar ôl rheoliad 4 (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad) mewnosoder—
4A.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol sicrhau—
(a)nad yw cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 250 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, a
(b)nad yw cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw nad ydynt yn pori sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
(2) Pan fo meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol yn bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, rhaid iddo—
(a)cyflwyno hysbysiad i CNC yn unol â rheoliad 4B, a
(b)cydymffurfio â’r gofynion rheoli maethynnau uwch yn Atodlen 1A.
(3) At ddiben paragraffau (1) a (2), rhaid cyfrifo maint y nitrogen a gynhyrchir gan dail da byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori ar gyfer y cyfnod perthnasol yn unol â thablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) yn Atodlen 1.
(4) Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod maint y nitrogen sydd i’w daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd ac unrhyw goetir (oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori).
4B.—(1) Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn gynnwys—
(a)enw meddiannydd y daliad glaswelltir cymhwysol,
(b)cyfeiriad y daliad glaswelltir cymhwysol,
(c)datganiad ysgrifenedig bod y meddiannydd yn bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, a
(d)datganiad ysgrifenedig y bydd y meddiannydd yn cydymffurfio â’r gofynion ychwanegol a nodir yn Atodlen 1A.
(2) Rhaid cyflwyno hysbysiad i CNC erbyn 31 Mawrth 2024 a rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch ar gyfer y daliad glaswelltir cymhwysol fynd gydag ef.
(3) Rhaid cyflwyno’r hysbysiad a’r cynllun rheoli maethynnau uwch sy’n mynd gydag ef i CNC drwy e-bost(3).”
6. Yn rheoliad 14 (taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewau)—
(a)ym mharagraff (1), ar y dechrau mewnosoder “Ac eithrio pan fo paragraff 27 o Atodlen 1A yn gymwys,”, a
(b)hepgorer paragraff 4.
7. Yn y rheoliadau a ganlyn, yn lle “CANC” rhodder “CNC”—
(a)rheoliad 24(1)(c)(i),
(b)rheoliad 30, ym mhob lle y mae’n digwydd,
(c)rheoliad 31, ym mhob lle y mae’n digwydd,
(d)rheoliad 32(2),
(e)rheoliad 47, ac
(f)Atodlen 6, ym mhob lle y mae’n digwydd.
8. Ar ôl Atodlen 1 (meintiau o dail, nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan dda byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori), mewnosoder Atodlen 1A (gofynion rheoli maethynnau uwch) fel y’i nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
24 Tachwedd 2023
Rheoliad 8
Rheoliadau 4A a 4B
1. Mae’r gofynion rheoli maethynnau uwch a ganlyn yn gymwys i ddeiliad daliad glaswelltir cymhwysol sy’n bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
2. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “dadansoddiad samplu pridd” (“soil sampling analysis”) yw dadansoddiad o sampl pridd a wneir gan labordy profi pridd i ddadansoddi priddoedd ar gyfer ffosfforws;
ystyr “mynegai ffosfforws pridd” (“soil phosphorus index”) yw cyfeiriad at y rhif mynegai a neilltuwyd i’r pridd yn unol â Thabl 1 o’r Atodlen hon, i ddynodi lefel y ffosfforws sydd ar gael o’r pridd.
3. Rhaid i’r meddiannydd sicrhau mai’r unig dail da byw sy’n pori sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yw tail a gynhyrchir gan y da byw sy’n pori ar y daliad.
4. Pan fo’rmeddiannydd yn bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, dail da byw sy’n pori ar y cyd â thail da byw nad ydynt yn pori, rhaid i’r meddiannydd sicrhau—
lle—
A yw arwynebedd y daliad (hectarau), fel y bo’n bodoli ar 1 Ionawr ar gyfer y flwyddyn galendr honno;
Ngl yw cyfanswm y nitrogen (kg) mewn tail da byw sy’n pori a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, wedi ei gyfrifo yn unol â thabl 1 yn Atodlen 1;
Nngl yw cyfanswm y nitrogen (kg) mewn tail da byw nad ydynt yn pori a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, wedi ei gyfrifo yn unol â thabl 2 yn Atodlen 1.
5.—(1) Rhaid i’r meddiannydd, at ddibenion pennu’r mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd, ymgymryd â dadansoddiad samplu pridd o bob pumed hectar o leiaf o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd.
(2) Caiff meddiannydd ddibynnu ar ganlyniadau dadansoddiad samplu pridd blaenorol o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd at ddibenion is-baragraff (1), ar yr amod y cynhaliwyd y dadansoddiad samplu hwnnw o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2020 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2023.
(3) Pan na fo dadansoddiad samplu pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd wedi ei gynnal o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), rhaid cynnal y dadansoddiad samplu hwnnw o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 30 Mawrth 2024.
6. Rhaid i’r meddiannydd bennu’r mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd trwy ddefnyddio canlyniadau’r dadansoddiad samplu pridd o dan baragraff 5 a’r gwerthoedd yn y tabl a ganlyn.
Mynegai ffosfforws | Ffosfforws (P) mg / L Olsen (P) |
---|---|
0 | 0-9 |
1 | 10-15 |
2 | 16-25 |
3 | 26-45 |
4 | 46-70 |
5 | 71-100 |
6 | 101-140 |
7 | 141-200 |
8 | 201-280 |
9 | Dros 280 |
7. Yn ogystal â llunio cynlluniau taenu nitrogen o dan reoliad 6 (cynllunio’r modd y taenir gwrtaith nitrogen) rhaid i’r meddiannydd, o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 30 Mawrth 2024—
(a)cyfrifo’r maint optimwm o wrtaith ffosffad (kg) y dylid ei daenu ar y cnwd yn ystod y cyfnod perthnasol, gan gymryd i ystyriaeth y mynegai ffosfforws pridd, a
(b)llunio cynllun (“cynllun rheoli maethynnau uwch”) ar gyfer taenu gwrtaith ffosffad yn ystod y cyfnod perthnasol.
8.—(1) Rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch ar gyfer y daliad—
(a)cynnwys map risg, a lunnir yn unol â pharagraff 12(1), sy’n nodi lleoliad y caeau y mae’r cynllun yn ymwneud â hwy, a
(b)datgan yn glir mewn perthynas ag unrhyw gae y cyfeirir ato yn y cynllun y math o wrtaith sydd i’w ddefnyddio.
(2) Rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch gofnodi—
(a)y mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd,
(b)y maint optimwm o wrtaith ffosffad (kg) y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y mynegai ffosfforws pridd,
(c)faint o nitrogen (kg) sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig y bwriedir ei daenu i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu yn ystod y cyfnod perthnasol,
(d)faint o ffosffad (kg) sy’n debygol o gael ei gyflenwi i fodloni gofyniad y cnwd o unrhyw dail organig a daenir neu y bwriedir ei daenu yn ystod y cyfnod perthnasol, wedi ei gyfrifo yn unol ag—
(i)tablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) o Atodlen 1,
(ii)samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3, neu
(iii)dadansoddiadau technegol a ddarperir gan y cyflenwr,
(e)faint o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o nitrogen sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y nitrogen a fydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir yn ystod y cyfnod perthnasol), ac
(f)faint o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o ffosffad sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir at ddiben gwrteithio’r cnwd yn ystod y cyfnod perthnasol).
9. Ni waeth beth fo’r ffigur a gofnodir yn y cynllun rheoli maethynnau uwch yn unol â pharagraff 8(2)(b), rhaid i’r meddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—
(a)y ffosffad o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd, a
(b)y ffosffad o dail organig, yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo,
yn fwy, yn ystod y cyfnod perthnasol, na’r terfynau a bennir ym mharagraff 10.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff cyfanswm y ffosffad a daenir ar unrhyw gnwd a restrir yng ngholofn gyntaf unrhyw un o’r tablau isod fod yn fwy na’r ffigur o dan y rhif mynegai ffosfforws pridd cymwys yn yr un tabl.
Mynegai ffosfforws pridd (kg P2O5 / ha) | |||||
---|---|---|---|---|---|
0 | 1 | 2 | 3 | 4+ | |
Wrth i’r borfa ymsefydlu | 120 | 80 | 50 | 30 | 0 |
Pori | 80 | 50 | 20 | 0 | 0 |
Gwair | 80 | 55 | 30 | 0 | 0 |
Silwair | |||||
Toriad cyntaf | 100 | 70 | 40 | 20 | 0 |
Ail doriad | 25 | 25 | 25 | 0 | 0 |
Trydydd toriad | 15 | 15 | 15 | 0 | 0 |
Pedwerydd toriad | 10 | 10 | 10 | 0 | 0 |
Mynegai-P | 0 | 1 | 2 | 3 | 4 | 5+ |
---|---|---|---|---|---|---|
(a) Pan fo Mynegai P yn 4 a 5, gellir defnyddio hyd at 60 kg P2 O5/ha fel gwrtaith cychwynnol, yn agos at yr had. Ni ddylai faint o ffosffad a ddodir fel dos cychwynnol, ynghyd â faint a ychwanegir yn y gwrtaith sylfaen, fod yn fwy na faint o ffosffad sy’n ofynnol i gymryd lle’r hyn a dynnwyd gan y cnwd blaenorol. | ||||||
Cnwd | Ffosffad (kg / ha) | |||||
Cnydau porthi | ||||||
Indrawn porthi | 115 | 85 | 55 | 20 | 0 | 0 |
Ydau cnwd cyfan | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 | 0 |
Swêds a maip porthi (wedi eu codi) | 105 | 75 | 45 | 0 | 0 | 0 |
Betys porthiant (wedi eu codi) | 120 | 90 | 60 | 0 | 0 | 0 |
Rêp, swêds a maip sofl porthi (a borir) | 85 | 55 | 25 | 0 | 0 | 0 |
Cêl (a borir) | 80 | 50 | 20 | 0 | 0 | 0 |
Rhygwellt a heuir ar gyfer hadau | 90 | 60 | 30 | 0 | 0 | 0 |
Cnydau âr (Gwellt wedi ei ymgorffori) | ||||||
Gwenith y gaeaf | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Rhygwenith y gaeaf | 125 | 95 | 65 | 0 | 0 | 0 |
Haidd y gaeaf | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Haidd y gwanwyn | 105 | 75 | 45 | 0 | 0 | 0 |
Gwenith y gwanwyn/rhygwenith y gwanwyn/rhyg/ceirch | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Cnydau âr (Gwellt wedi ei dynnu ymaith) | ||||||
Gwenith y gaeaf | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 | 0 |
Rhygwenith y gaeaf | 130 | 100 | 70 | 0 | 0 | 0 |
Haidd y gaeaf | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 | 0 |
Haidd y gwanwyn | 105 | 75 | 45 | 0 | 0 | 0 |
Gwenith y gwanwyn | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Rhygwenith y gwanwyn/rhyg | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Ceirch | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 | 0 |
Hadau olew | ||||||
Rêp had olew y gaeaf | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Rêp had olew y gwanwyn neu had llin | 90 | 60 | 30 | 0 | 0 | 0 |
Pys (sych a dringo) a ffa | 100 | 70 | 40 | 0 | 0 | 0 |
Betys siwgr | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Tatws | 250 | 210 | 170 | 100 | 0 | 0 |
Llysiau a bylbiau | ||||||
Merllys (ymsefydlu) | 175 | 150 | 125 | 100 | 75 | 0 |
Merllys (y blynyddoedd dilynol ar ôl ymsefydlu) | 75 | 75 | 50 | 50 | 25 | 0 |
Ysgewyll Brwsel, bresych storio, bresych pen a bresych llyfnddail | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Blodfresych a calabrese | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Seleri | 250 | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 |
Pys (cynhaeaf y farchnad) | 185 | 135 | 85 | 35 | 0 | 0 |
Ffa llydan, corffa a ffa dringo | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Radis ac india-corn | 175 | 125 | 75 | 25 | 0 | 0 |
Letys a dail berwr | 250 | 200 | 150 | 100 | 60(a) | 60(a) |
Winwns a chennin | 200 | 150 | 100 | 50 | 60(a) | 60(a) |
Betys (coch) swêds, maip, pannas a moron | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Bylbiau a blodau bwlb | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Coriander a mintys | 175 | 125 | 75 | 25 | 0 | 0 |
Courgettes | 175 | 125 | 75 | 25 | 0 | 0 |
Ffrwythau a gwinwydd cyn plannu | 200 | 100 | 50 | 50 | 0 | 0 |
Hopys cyn plannu | 250 | 175 | 125 | 100 | 50 | 0 |
Ffrwythau coed sefydledig | 80 | 40 | 20 | 20 | 0 | 0 |
Cyrens duon, cyrens cochion, eirin Mair, mafon, mwyar logan, mafonfwyar, mwyar duon, mefus a gwinwydd | 110 | 70 | 40 | 40 | 0 | 0 |
Hopys sefydledig | 250 | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 |
(2) Caniateir taenu ffosffad ar borfa a chnydau eraill uwchben y gwerthoedd a nodir yn y tablau uchod yn ddarostyngedig i gael cyngor ysgrifenedig ymlaen llaw gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau(4).
11.—(1) Yn ogystal â’r wybodaeth sydd i’w chofnodi o dan reoliad 7 (yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn) rhaid i’r meddiannydd—
(a)cyn taenu tail organig yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi cyfanswm y ffosffad (kg) sydd yn y tail organig; a
(b)cyn taenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi—
(i)faint o ffosffad (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o ffosffad sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir), a
(ii)y mis arfaethedig ar gyfer taenu.
12.—(1) Yn ychwanegol at y gofynion o dan reoliad 11 (mapiau risg), rhaid i’r map risg—
(a)dangos pob cae wedi ei farcio â rhif cyfeirnod neu rif i alluogi croesgyfeirio at gaeau a gofnodwyd mewn cynlluniau gwrteithio,
(b)cyfateb i ardal amaethyddol y daliad, ac
(c)cael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2024 .
(2) Pan fo newid mewn amgylchiadau yn effeithio ar fater y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b), rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map o fewn un mis i’r newid, gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y newid.
13. Rhaid i’r meddiannydd gynnal y daliad i sicrhau bod o leiaf 80% o’r ardal amaethyddol wedi ei hau â phorfa yn ystod y cyfnod perthnasol.
14. Rhaid i’r meddiannydd sicrhau nad yw unrhyw berson—
(a)yn aredig glaswelltir dros dro ar briddoedd tywodlyd ar y daliad o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024,
(b)yn aredig porfa ar briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr 2024 ar y daliad pan fo tail da byw wedi ei daenu ar y borfa honno o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Medi ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol, ac
(c)yn aredig porfa ar briddoedd nad ydynt yn briddoedd tywodlyd ar y daliad cyn 16 Ionawr 2024 pan fo tail da byw wedi ei daenu ar y borfa honno o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 15 Hydref yn y flwyddyn galendr flaenorol ac yn dod i ben â 15 Ionawr 2024.
15. Pan fo unrhyw borfa ar y daliad yn cael ei haredig yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid—
(a)hau’r tir â chnwd â galw mawr am nitrogen o fewn pedair wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa, neu
(b)hau’r tir â phorfa o fewn chwe wythnos, sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa.
16. Ni chaiff cylchdro cnydau ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol gynnwys codlysiau na phlanhigion eraill sy’n trosi nitrogen atmosfferig ac eithrio porfa sydd â llai na 50% ohono yn feillion, neu unrhyw godlysiau eraill gyda phorfa wedi ei hau oddi tanynt.
17.—(1) Rhaid i’r meddiannydd gofnodi cyfanswm yr ardal amaethyddol ac ardal y borfa o fewn y daliad erbyn 1 Mawrth 2024.
(2) Os bydd maint y daliad neu ardal y borfa o fewn iddo yn newid, rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r cofnod o fewn un mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y newid.
18.—(1) Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1) disgwyliedig y da byw sydd i’w cadw ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol.
(2) Yn dilyn y gofynion i wneud cofnod yn is-baragraff (1), rhaid i’r meddiannydd wedyn gyfrifo a chofnodi faint o nitrogen a ffosffad (kg) mewn tail y disgwylir i’r da byw ar y daliad ei gynhyrchu yn ystod y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) yn Atodlen 1.
(3) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth 2024.
19.—(1) Rhaid i’r meddiannydd—
(a)gwneud cofnod o fath a maint y tail da byw (tunelli neu fetrau ciwbig fel y bo’n gymwys) y bwriedir ei anfon o’r daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(b)asesu a chofnodi maint y nitrogen (kg) sydd yn y tail da byw a gofnodir o dan baragraff (a) yn unol â rheoliad 36(4) a Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3.
(2) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud erbyn 1 Mawrth 2024.
20. Yn ogystal â gofynion rheoliad 39 (cofnodion o’r cnydau a heuwyd), os yw’r meddiannydd yn bwriadu taenu gwrtaith ffosffad yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid i’r meddiannydd o fewn un wythnos i hau cnwd gofnodi—
(a)y cnwd a heuir, a
(b)dyddiad ei hau.
21. Yn ogystal â gofynion rheoliad 40 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen), rhaid i’r meddiannydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi—
(a)o fewn un wythnos i daenu tail organig, gyfanswm y cynnwys ffosfforws (kg), a
(b)o fewn un wythnos i daenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd—
(i)dyddiad ei daenu, a
(ii)maint y ffosffad a daenwyd (kg).
22. Yn ogystal â gofynion rheoliad 41 (cofnodion dilynol), rhaid i’r meddiannydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi o fewn un wythnos i aredig porfa ar y daliad ddyddiad yr aredig hwnnw.
23.—(1) Rhaid i’r meddiannydd, neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd, gyflwyno cyfrifon gwrteithio ar gyfer y cyfnod perthnasol i CNC erbyn 31 Mawrth 2025.
(2) Rhaid cyflwyno’r cyfrifon gwrteithio i CNC drwy e-bost(5).
(3) Rhaid i’r cyfrif gwrteithio gofnodi—
(a)cyfanswm ardal amaethyddol y daliad mewn hectarau;
(b)arwynebedd y daliad mewn hectarau a orchuddir gan—
(i)gwenith y gaeaf,
(ii)gwenith y gwanwyn,
(iii)haidd y gaeaf,
(iv)haidd y gwanwyn,
(v)rêp had olew y gaeaf,
(vi)betys siwgr,
(vii)tatws,
(viii)indrawn porthi,
(ix)porfa, a
(x)cnydau eraill;
(c)nifer a chategori yr anifeiliaid a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol yn unol â’r categorïau a ddisgrifir yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(d)maint y nitrogen a’r ffosffad (kg) yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(e)maint (tunelli neu fetrau ciwbig fel y bo’n gymwys), math a nodweddion y tail da byw a anfonwyd o’r daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
(f)maint y nitrogen a’r ffosffad (kg) yn y tail a gofnodwyd o dan is-baragraff (3)(e), wedi ei gyfrifo yn unol ag Atodlen 1;
(g)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen (kg) yr holl stociau gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
(h)pwysau (tunelli) a chynnwys ffosffad (kg) yr holl stociau gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
(i)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen (kg) yr holl wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad ac a anfonwyd ohono yn ystod y cyfnod perthnasol;
(j)pwysau (tunelli) a chynnwys ffosffad (kg) yr holl wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad ac a anfonwyd ohono yn ystod y cyfnod perthnasol.
24.—(1) Rhaid i’r meddiannydd ddiogelu yr holl bridd drwy sicrhau bod yr holl dir wedi ei orchuddio â chnydau, soflau, gweddillion neu lystyfiant arall bob amser, ac eithrio pan fyddai sefydlu gorchudd o’r fath yn creu risg sylweddol o erydiad pridd a risg sylweddol y bydd nitrogen a ffosfforws yn mynd i ddŵr wyneb.
(2) Pan fo tir wedi ei gynaeafu gan ddefnyddio dyrnwr medi, cynaeafwr porthiant neu beiriant torri porfa, rhaid i’r meddiannydd sicrhau y bodlonir un o’r amodau a ganlyn ar y tir hwnnw bob amser, drwy gydol y cyfnod perthnasol sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024—
(a)bod sofl y cnwd a gynaeafwyd yn dal yn y tir, neu
(b)bod y tir yn cael ei baratoi fel gwely hadau ar gyfer cnwd neu gnwd gorchudd dros dro o fewn 14 o ddiwrnodau i gynaeafu, gan ddechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu, ac—
(i)bod y cnwd, neu’r cnwd gorchudd dros dro, yn cael ei hau o fewn cyfnod o 10 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl i’r gwely hadau gael ei baratoi yn derfynol, neu
(ii)pe bai hau o fewn y cyfnod hwnnw o 10 niwrnod yn arwain at risg sylweddol o erydu pridd, ac o nitrogen neu ffosfforws yn mynd i ddŵr wyneb, fod y cnwd, neu’r cnwd gorchudd dros dro, yn cael ei hau cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r tir beidio â bod yn ddyfrlawn.
25.—(1) Rhaid i’r meddiannydd sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol nad yw safleoedd lle darperir cyfleuster bwydo atodol ar gyfer da byw wedi eu lleoli o fewn 20 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.
(2) Rhaid i’r meddiannydd sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol nad yw safleoedd lle darperir cyfleuster yfed atodol ar gyfer da byw wedi eu lleoli o fewn 10 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.
26. Os yw’r meddiannydd yn bwriadu taenu slyri ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid defnyddio cyfarpar taenu manwl ac eithrio pan na fyddai’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
27. Rhaid i’r meddiannydd sicrhau nad yw unrhyw berson, yn ystod y cyfnod perthnasol, yn taenu tail organig o fewn 15 metr i ddŵr wyneb oni bai ei fod yn defnyddio cyfarpar taenu manwl ac os felly ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb.”
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/77 (Cy. 20)) (“Rheoliadau 2021”).
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 2 (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau) o Reoliadau 2021. Mae’n newid y dyddiad gweithredu ar gyfer rheoliad 4 (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad) o 1 Ionawr 2024 i 1 Ionawr 2025 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn parth perygl nitradau (“PPN”) fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, pan fo 80% neu fwy o’r ardal amaethyddol wedi ei hau â phorfa (“daliadau glaswelltir cymhwysol”). Mae hyn yn golygu nad yw’r terfyn o ran cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw ar gyfer yr holl ddaliad (170kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau) yn rheoliad 4 o Reoliadau 2021 yn gymwys i ddaliadau glaswelltir cymhwysol hyd 1 Ionawr 2025.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 3 (dehongli) o Reoliadau 2021 drwy fewnosod diffiniadau o’r termau “cynllun rheoli maethynnau uwch”, “cyfarpar taenu manwl”, “daliad glaswelltir cymhwysol” a “cyfnod perthnasol”. Mae hefyd yn rhoi diffiniad o “CNC” yn lle “CANC”.
Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliadau newydd 4A a 4B yn Rheoliadau 2021. Mae rheoliad 4A (dodi tail da byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori ar ddaliadau glaswelltir cymhwysol yn ystod y cyfnod perthnasol – y terfynau o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad a gofynion ychwanegol) yn pennu, ar gyfer blwyddyn galendr 2024 (y “cyfnod perthnasol”), y terfynau o ran cyfanswm nitrogen yr holl ddaliad yn achos tail da byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori ar gyfer daliadau glaswelltir cymhwysol. Mae rheoliad 4A(1) yn darparu na chaiff meddianwyr daliadau glaswelltir cymhwysol ddodi ar yr holl ddaliad, yn ystod y cyfnod perthnasol, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 250kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau ac na chânt ddodi ar yr holl ddaliad gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw nad ydynt yn pori sy’n fwy na 170kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
Mae rheoliad 4A(2) yn darparu bod rhaid i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol, pan fo’n bwriadu dodi ar y daliad, yn ystod y cyfnod perthnasol, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, gydymffurfio â gofynion uwch ychwanegol o ran rheoli maethynnau a bennir o dan Atodlen 1A (gofynion rheoli maethynnau uwch) a hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”). Mae Rheoliad 4B (gofynion hysbysu) yn nodi’r gofynion hysbysu y mae rhaid i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol gydymffurfio â hwy pan fydd yn hysbysu CNC.
Mae rheoliad 6 yn gwneud mân ddiwygiadau i reoliad 14 (taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewau) o Reoliadau 2021 i gynorthwyo gydag eglurder.
Mae rheoliad 7 yn rhoi cyfeiriadau at “CNC” yn lle cyfeiriadau at “CANC” ym mha le bynnag y maent yn ymddangos yn y Rheoliadau. Mae hyn o ganlyniad i roi diffiniad o “CNC” yn lle’r diffiniad o “CANC” o dan reoliad 3.
Mae rheoliad 8 yn mewnosod Atodlen newydd 1A (gofynion rheoli maethynnau uwch) yn Rheoliadau 2021 sy’n nodi’r gofynion rheoli maethynnau uwch ychwanegol sydd i’w bodloni gan feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol os yw’r meddiannydd yn bwriadu dodi ar y daliad, yn ystod y cyfnod perthnasol, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
1991 p. 57. Diwygiwyd adran 92 gan adran 120 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraffau 128 a 144 o Atodlen 22 iddi, a chan O.S. 2010/675 ac O.S. 2013/755 (Cy. 90). Mae diwygiadau i adran 219 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 92 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran y rhannau hynny o Gymru sydd y tu allan i ddalgylchoedd afon Dyfrdwy, afon Gwy ac afon Hafren. O ran y rhannau hynny o Gymru sydd o fewn y dalgylchoedd hynny, mae swyddogaethau o dan adran 92 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 92 a 219 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.
O.S. 2021/77 (Cy. 20), diwygiwyd gan O.S. 2022/1305 (Cy. 262), O.S. 2023/466 (Cy. 70) ac O.S. 2023/1070 (Cy. 182).
Gweinyddir y cynllun gan Basis Registration Ltd, a gellir cael rhestr o bersonau cymwysedig drwy wneud cais i’r cwmni, neu ar ei wefan, www.basis-reg.com.