- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Caniateir i’rychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a’r rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 21 Mehefin 2024 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw a’r gofynion labelu sy’n gymwys cyn 22 Rhagfyr 2023, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu dihysbyddu.
(2) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 21 Rhagfyr 2024 gan gydymffurfio ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw a’r gofynion labelu sy’n gymwys cyn 22 Rhagfyr 2023, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd stociau wedi eu dihysbyddu.
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awdurdodiad ymlaen llaw” (“prior authorisation”) yw’r awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 902/2009 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad ensym o endo-1,4-beta-sylanas a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 114044) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer perchyll wedi eu diddyfnu, ieir i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy, tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio (deiliad awdurdodiad Roal Oy)(1);
ystyr “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yw’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8), sydd â’r rhif adnabod 4a8, a awdurdodwyd o dan yr awdurdodiad blaenorol(2).
EUR 2009/902. Mae’r Rheoliad hwn wedi ei ddirymu gan reoliad 7 o’r Rheoliadau hyn, ac Atodlen 14 iddynt.
Gweler Atodlen 9 i’r Rheoliadau hyn ar gyfer awdurdodiad yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn a adnewyddwyd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys