xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
19.—(1) Os yw person yn methu â chydymffurfio ag ymgymeriad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw sy’n gosod cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) mewn cysylltiad â’r un drosedd, ni waeth a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd mewn cysylltiad â’r drosedd honno ai peidio.
(2) Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu swm y gosb, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau bodloni gweddill gofynion yr ymgymeriad trydydd parti.
(3) Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno fod yn 100%, os yw’n briodol.
(4) Rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am—
(a)y seiliau dros osod y gosb,
(b)swm y gosb,
(c)sut y caniateir talu,
(d)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau,
(e)hawliau apelio,
(f)canlyniadau peidio â thalu, ac
(g)unrhyw amgylchiadau pan gaiff y rheoleiddiwr leihau swm y gosb.
(5) Os cyflawnir ymgymeriad trydydd parti cyn y terfyn amser ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio, nid yw’r gosb yn daladwy.
20.—(1) Caiff person sy’n cael cosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei herbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm;
(d)bod swm y gosb yn afresymol;
(e)unrhyw reswm tebyg arall.