- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i berson dalu’r taliadau sy’n deillio o gyflawni’r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt o dan reoliad 3(2)(c) i (f) os bydd gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu y gall y person fod yn torri Rhan 2A o’r Ddeddf neu ofyniad a osodir yn rhinwedd Rhan 2A, neu fod y person yn gwneud hynny neu wedi gwneud hynny.
(2) Ni chaiff taliadau am gyflawni swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt o dan reoliad 3(2)(c) i (f) gynnwys unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad troseddol neu erlyniad ac yr eir iddynt, yn y naill achos na’r llall, o’r dyddiad y caiff unrhyw wybodaeth ei gosod gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo taliadau yn daladwy o dan baragraff (1) gan berson sy’n gweithredu yn rhinwedd y ffaith ei fod yn gyflogai, rhaid i gyflogwr y person hwnnw dalu’r taliadau.
(4) Nid oes tâl yn daladwy o dan baragraff (1) mewn perthynas ag ymchwiliad o dan adran 58H, 58T neu 58Z3 o’r Ddeddf gan—
(a)arolygydd cofrestredig adeiladu os yw ymchwiliad Gweinidogion Cymru yn casglu nad yw wedi torri’r cod ymddygiad(1) nac wedi bod yn euog o gamymddwyn proffesiynol(2), na
(b)cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu os yw ymchwiliad Gweinidogion Cymru yn casglu nad yw wedi torri’r rheolau ymddygiad proffesiynol(3) na’r rheolau safonau gweithredol(4).
A lunnir ac a gyhoeddir o dan adran 58F o Ddeddf Adeiladu 1984.
Gweler y diffiniad o “professional misconduct” yn adran 58H o Ddeddf Adeiladu 1984.
A lunnir ac a gyhoeddir o dan adran 58R o Ddeddf Adeiladu 1984.
A wneir ac a gyhoeddir o dan adran 58Z o Ddeddf Adeiladu 1984.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys