- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson dalu’r tâl am gyflawni neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth y gellir codi tâl amdani y mae’n atebol amdani o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn dyroddi iddynt y cais i dalu’r taliad hwnnw.
(2) Rhaid i unrhyw gais i dalu taliadau o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)datganiad o’r gwaith a wnaed a’r costau y mae Gweinidogion Cymru wedi mynd iddynt,
(b)datganiad o unrhyw waith a wnaed a’r costau y mae unrhyw berson wedi mynd iddynt am gyflawni neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth y gellir codi tâl amdani,
(c)y cyfnod y mae’r datganiad gwaith o dan is-baragraff (a) yn berthnasol iddo, a
(d)y ddarpariaeth yn y cynllun codi tâl y mae’r tâl wedi ei bennu oddi tani.
(3) Pan fo—
(a)cais yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru, a bod y cynllun codi tâl yn darparu ar gyfer talu tâl mewn perthynas â’r cais hwnnw ymlaen llaw, rhaid i’r person sy’n cyflwyno’r cais dalu’r tâl hwnnw pan fyddant yn cyflwyno’r cais;
(b)hysbysiad neu gais yn cael ei anfon at Weinidogion Cymru, a bod y cynllun codi tâl yn darparu ar gyfer talu tâl ymlaen llaw mewn perthynas ag ef, rhaid i’r person sy’n anfon yr hysbysiad neu’r cais dalu’r tâl hwnnw pan fyddant yn anfon yr hysbysiad neu’r cais.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod cyfanswm y taliadau am gyflawni swyddogaeth y gellir codi tâl amdani yn cael ei dalu cyn i Weinidogion Cymru gyflawni’r swyddogaeth y gellir codi tâl amdani neu ddyroddi hysbysiad o ganlyniad ei benderfyniad neu dystysgrif, fel y bo’n gymwys.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, unrhyw dâl a delir.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys