- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8. Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
9. Yn rheoliad 3(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”—
(a)yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;”;
(b)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;
(ab)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;”.
10. Yn rheoliad 3(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”—
(a)hepgorer paragraff (aa) (fel y’i mewnosodir gan reoliad 9(b) o’r Rheoliadau hyn);
(b)mewnosoder “neu” ar ôl paragraff (b);
(c)hepgorer paragraff (d) a’r “neu” o’i flaen.
11. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4ZA(4)—
(a)ym mharagraff (c)(i)—
(i)hepgorer “neu” ar ôl paragraff (ab);
(ii)ar ôl paragraff (ac) mewnosoder—
“neu
(ad)person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”;
(b)ym mharagraff (c)(ii)—
(i)hepgorer “neu” ar ôl paragraff (aa);
(ii)ar ôl paragraff (ab) mewnosoder—
“neu
(ac)person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan;”;
(c)ym mharagraff (d)—
(i)hepgorer “neu” ar ôl is-baragraff (i);
(ii)ar ddiwedd is-baragraff (ii), yn lle’r atalnod llawn rhodder “; neu”;
(iii)ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder—
“(iii)person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan.”
12. Yn rheoliad 6(10G)—
(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” mewnosoder “neu’n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o’r fath”;
(b)yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)y cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi,”.
13. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4ZC—
(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—
“(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw;
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig; a
(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)sydd—
(i)yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; neu
(ii)yn blentyn i briod neu bartner sifil gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i)o dan 18 oed; a
(ii)yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person a oedd yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig; a
(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi.”
O.S. 2014/3037 (Cy. 303), y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2021/1294 (Cy. 328), O.S. 2022/79 (Cy. 28) ac O.S. 2022/764 (Cy. 166). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys