xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
18. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
19. Yn rheoliad 4(10F)—
(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” mewnosoder “neu yn rhinwedd bod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig” rhodder “y caniateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros”.
20. Ar ddiwedd pob un o reoliadau 15(bc), 23(12)(bc), 49(2)(bc), 82(4)(bc) a 111(2)(bc), mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.
21. Yn rheoliad 81(10F)—
(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” mewnosoder “neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig” rhodder “y caniateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros”.
22. Yn rheoliad 110(12F)—

23. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4ZC—
(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—
“(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw;
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; a
(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)sydd—
(i)yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; neu
(ii)yn blentyn i briod neu bartner sifil gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i)o dan 18 oed; a
(ii)yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; a
(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir.”
24. Yn Atodlen 4, ym mharagraff 6(ac), ar y diwedd mewnosoder “neu’n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath”.
25. Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn y diffiniad o “blwyddyn bwrsari” yn lle “neu lwfans gofal iechyd yr Alban mewn perthynas â hi, a chaiff swm y bwrsari neu lwfans” rhodder “mewn perthynas â hi, a chaiff swm y bwrsari”;
(b)hepgorer y diffiniad o “lwfans gofal iechyd yr Alban”.
26. Yn lle rheoliad 4(3)(c) rhodder —
“(c)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo, mewn perthynas â’i bresenoldeb ar y cwrs, fwrsari gofal iechyd, ac eithrio bwrsari gofal iechyd cyffredinol, nas cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm A;”.
27. Yn lle rheoliad 7(5)(b) rhodder—
“(b)os yw’r myfyriwr cymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu”.
28. Yn lle rheoliad 81(3)(a) rhodder—
“(a)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo, mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser, fwrsari gofal iechyd, pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;”.
29. Hepgorer rheoliad 110(4)(a)(ii).
30. Yn rheoliad 43—
(a)yn y pennawd, hepgorer “sy’n ymgymryd â’u blwyddyn gyntaf o astudio”;
(b)ym mharagraff (1), hepgorer “sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio”.
31. Yn rheoliad 45—
(a)ym mharagraff (1), hepgorer is-baragraff (a);
(b)ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraff (a).
32. Yn rheoliad 52(i)(i), hepgorer “23(3) neu reoliad”.
O.S. 2017/47 (Cy. 21), a ddiwygiwyd gan O.S. 2022/79 (Cy. 28), O.S. 2022/764 (Cy. 166) ac O.S. 2023/87 (Cy. 17). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.