Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) (Cymru) 2023

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

PENNOD 4Terfynu cymhwystra yn gynnar

63.  Yn rheoliad 3—

(a)ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

(10A) Pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

(b)ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo statws ffoadur A, neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

(10B) Pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

(b)ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo’r cyfnod y caniateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

(10C) Pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

(b)ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, o ran y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, fo’r cyfnod y caniateir iddo aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

(10D) Pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

(b)ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo’r cyfnod y caniateir i’r person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

(10E) Pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 neu fod yn blentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

(b)ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo’r cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

(10F) Pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd Calais, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

(b)ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo’r cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

(10G) Pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â hawliau gwarchodedig ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

(b)ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, na fo gan A ganiatâd cyfyngedig cyfredol mwyach i ddod i mewn neu i aros a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ac nad yw caniatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi cael ei roi o dan y rheolau hynny,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

(10H) Pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

(b)ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo statws A fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, neu briod, partner sifil, rhiant neu lys-riant A, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi cael ei roi,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

(10I) Pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig ar gyfer cwrs dynodedig; a

(b)ar y diwrnod cyn y diwrnod perthnasol, fo’r cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi cael ei roi,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn y diwrnod perthnasol.

(10J) Nid yw paragraffau (10A), (10B), (10C), (10D), (10E), (10F), (10G), (10H), (10I) nac (11) yn gymwys pan, ar y diwrnod perthnasol—

(a)bo A, neu

(b)bo’r person a achosodd, o ganlyniad i’w statws mewnfudo, i A fod yn fyfyriwr cymwys,

yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd Gwyddelig.;

(b)ym mharagraff (11)—

(i)yn is-baragraff (b), yn lle “diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig hwnnw” rhodder “y diwrnod perthnasol”;

(ii)yn y geiriau ar ôl is-baragraff (b), yn lle “diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig hwnnw” rhodder “y diwrnod perthnasol”;

(c)ar ôl paragraff (11) mewnosoder—

(12) Yn y rheoliad hwn, ystyr “diwrnod perthnasol” yw—

(a)diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig (“dyddiad cychwyn BA1”); neu

(b)os yw’r statws perthnasol, neu’r cyfnod perthnasol y caniateir i berson aros yn y Deyrnas Unedig amdano, yn dod i ben ar neu ar ôl dyddiad cychwyn BA1, diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd sy’n dechrau yn union ar ôl y flwyddyn academaidd y mae’r statws neu’r cyfnod yn dod i ben ynddi.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill