- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
12 Rhagfyr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
14 Rhagfyr 2023
Yn dod i rym
1 Ebrill 2024
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) (Diwygio a Darpariaeth Drosiannol) 2023 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2024.
2. Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2017(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.
3. Yn yr Atodlen (gofynion o ran ffurf adroddiadau blynyddol), yn lle paragraffau 1 i 4 rhodder—
“1. Rhaid i’r wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei chynnwys mewn adroddiad blynyddol gael ei nodi o dan y penawdau a ganlyn—
Pennod 1: Crynodeb y Cyfarwyddwr
Pennod 2: Cyd-destun
Pennod 3: Asesu perfformiad
Pennod 4: Gwybodaeth arall
2. Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhennod 3 gael ei nodi mewn pedair rhan o dan y penawdau a ganlyn—
Pennod 3(a): Pobl
Pennod 3(b): Atal
Pennod 3(c): Partneriaeth ac integreiddio
Pennod 3(d): Llesiant
3. Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhob rhan o bennod 3 gael ei nodi mewn pedair adran o dan y penawdau a ganlyn—
Adran (i): Beth yr ydym yn ei wybod am ansawdd ac effaith yr hyn yr ydym yn ei wneud?
Adran (ii): Sut yr ydym yn gwybod?
Adran (iii): Beth yr ydym yn ei wneud yn dda a sut y gallwn wella?
Adran (iv): Pa gynnydd a wnaethom ar y meysydd i’w gwella a nodwyd yn adroddiad y llynedd? Pa wahaniaeth a wnaethom?
4. Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhennod 4 gael ei nodi mewn pedair rhan o dan y penawdau a ganlyn—
Pennod 4(a): Arolygiadau ac adolygiadau
Pennod 4(b): Cwynion a sylwadau
Pennod 4(c): Cyfeirio at ffynonellau eraill o wybodaeth
Pennod 4(d): Unrhyw wybodaeth arall”.
4.—(1) Nid yw’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 a 3 yn cael unrhyw effaith i’r graddau y maent yn ymwneud â’r adroddiadau blynyddol a lunnir gan awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Rhagfyr 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae Deddf 2014 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol gan awdurdodau lleol ynghylch arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â ffurf yr adroddiadau hynny. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2017 er mwyn nodi gofynion diwygiedig o ran ffurf adroddiadau blynyddol.
Mae rheoliad 3 yn diwygio’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn yr adroddiad blynyddol a’r penawdau y mae rhaid cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol oddi tanynt.
Mae rheoliad 4 yn gwneud trefniadau trosiannol mewn cysylltiad â’r diwygiadau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
2014 dccc 4 (“Deddf 2014”). Mewnosodwyd adran 144A gan adran 56(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2).
Gweler y diffiniad o “rheoliadau” yn adran 197 o Ddeddf 2014.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: