xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Gwnaed
13 Rhagfyr 2023
Yn dod i rym
30 Rhagfyr 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1) (“y Ddeddf”).
Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2023.
2.—(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5A (gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio: ffioedd), ym mharagraff (4B), yn lle “31 Rhagfyr 2023” rhodder “30 Mehefin 2025”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (ffioedd)—.
(a)ym mharagraff (5A), yn lle’r geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (5C)” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (5E)”;
(b)hepgorer paragraffau (5C) a (5D);
(c)ar ôl paragraff (5B), mewnosoder—
“(5E) Nid yw’r ffi a bennir yn Atodlen 4A yn daladwy mewn cysylltiad â llwyth sydd i’w gludo i Ogledd Iwerddon—
(a)gan berson sy’n gweithredu ac eithrio yng nghwrs busnes, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad, neu
(b)i’w ddanfon i—
(i)gweithredwr proffesiynol y mae ei brif fan busnes yng Ngogledd Iwerddon, neu
(ii)unrhyw berson sy’n preswylio yng Ngogledd Iwerddon, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad na’i ddefnyddio at ddibenion unrhyw fusnes.
(5F) Mae paragraff (5E) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2025.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/497) (Cy. 114) a Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1179) (Cy. 238) (gyda’i gilydd “y Rheoliadau”). Mae’r diwygiadau’n addasu’r dyddiad perthnasol ar gyfer talu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau.
Mae Rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 drwy estyn hyd esemptiad rhag talu ffioedd sydd fel arall yn daladwy mewn cysylltiad â thystysgrifau a gwasanaethau cyn allforio ar lwythi ffytoiechydol mewn amgylchiadau penodol. Mae’r esemptiad yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2025.
Mae Rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 drwy ddarparu esemptiad rhag talu ffioedd sydd fel arall yn daladwy mewn cysylltiad â cheisiadau i’r Comisiwn Coedwigaeth am dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio (neu ailallforio) mewn amgylchiadau penodol. Mae’r esemptiad yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2025.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
2018 p. 16, gweler paragraff 8 o Atodlen 4 ar gyfer ystyr “appropriate authority”. Diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 4 i’r Ddeddf gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”) a pharagraff 47(5) o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf 2020 a pharagraffau 38 a 53(2) o Atodlen 5 iddi.
Mae paragraff 1(8) o Atodlen 7 yn gymwys i reoliadau o dan Atodlen 4 yn rhinwedd paragraff 12(3) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018. Mae’r cyfeiriadau yn y Ddeddf at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2018/1179 (Cy. 238) (a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/44 (Cy. 5), O.S. 2020/1628 (Cy. 342), O.S. 2021/713 (Cy. 181) ac O.S. 2022/804 (Cy. 180); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol).
O.S. 2019/497 (Cy. 114) (a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/44 (Cy. 5), O.S. 2020/206 (Cy. 48), O.S. 2021/710 (Cy. 180); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol).