NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/77 (Cy. 20)) (“Rheoliadau 2021”).
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 2 (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau) o Reoliadau 2021. Mae’n newid y dyddiad gweithredu ar gyfer rheoliad 4 (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad) o 1 Ionawr 2024 i 1 Ionawr 2025 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn parth perygl nitradau (“PPN”) fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, pan fo 80% neu fwy o’r ardal amaethyddol wedi ei hau â phorfa (“daliadau glaswelltir cymhwysol”). Mae hyn yn golygu nad yw’r terfyn o ran cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw ar gyfer yr holl ddaliad (170kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau) yn rheoliad 4 o Reoliadau 2021 yn gymwys i ddaliadau glaswelltir cymhwysol hyd 1 Ionawr 2025.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 3 (dehongli) o Reoliadau 2021 drwy fewnosod diffiniadau o’r termau “cynllun rheoli maethynnau uwch”, “cyfarpar taenu manwl”, “daliad glaswelltir cymhwysol” a “cyfnod perthnasol”. Mae hefyd yn rhoi diffiniad o “CNC” yn lle “CANC”.
Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliadau newydd 4A a 4B yn Rheoliadau 2021. Mae rheoliad 4A (dodi tail da byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori ar ddaliadau glaswelltir cymhwysol yn ystod y cyfnod perthnasol) yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol sicrhau, ar gyfer blwyddyn galendr 2024 (“y cyfnod perthnasol”), fod arwynebedd y daliad (mewn hectarau) yn fwy na swm neu’n hafal i swm cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw sy’n pori a ddodir ar y daliad wedi ei rannu â 250, plws cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw nad ydynt yn pori a ddodir ar y daliad wedi ei rannu â 170. Diben y cyfrifiad hwn yw cyfyngu ar gyfanswm y nitrogen mewn tail da byw y caiff meddiannydd glaswelltir cymhwysol ei ddodi ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn ystod y cyfnod perthnasol. Mae’n sicrhau, pan nad yw meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol ond yn dodi tail da byw sy’n pori ar y daliad, na chaiff ddodi mwy na 250kg o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori fesul hectar yn ystod y cyfnod perthnasol. Mae hefyd yn sicrhau, pan nad yw meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol ond yn dodi tail da byw nad ydynt yn pori ar y daliad, na chaiff ddodi mwy na 170kg o nitrogen mewn tail da byw nad ydynt yn pori fesul hectar yn ystod y cyfnod perthnasol. Pan fo meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol yn dodi tail da byw sy’n pori a thail da byw nad ydynt yn pori ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, mae’r cyfrifiad hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer addasu dodi’r naill a’r llall ar sail pro-rata.
Mae rheoliad 4A(2) yn darparu bod rhaid i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol, pan fo’n bwriadu dodi ar y daliad, yn ystod y cyfnod perthnasol, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, gydymffurfio â gofynion uwch ychwanegol o ran rheoli maethynnau a bennir o dan Atodlen 1A (gofynion rheoli maethynnau uwch) a hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”). Mae Rheoliad 4B (gofynion hysbysu) yn nodi’r gofynion hysbysu y mae rhaid i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol gydymffurfio â hwy pan fydd yn hysbysu CNC.
Mae rheoliad 6 yn gwneud mân ddiwygiadau i reoliad 14 (taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewau) o Reoliadau 2021 i gynorthwyo gydag eglurder.
Mae rheoliad 7 yn rhoi cyfeiriadau at “CNC” yn lle cyfeiriadau at “CANC” ym mha le bynnag y maent yn ymddangos yn y Rheoliadau. Mae hyn o ganlyniad i roi diffiniad o “CNC” yn lle’r diffiniad o “CANC” o dan reoliad 3.
Mae rheoliad 8 yn mewnosod Atodlen newydd 1A (gofynion rheoli maethynnau uwch) yn Rheoliadau 2021 sy’n nodi’r gofynion rheoli maethynnau uwch ychwanegol sydd i’w bodloni gan feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol os yw’r meddiannydd yn bwriadu dodi ar y daliad, yn ystod y cyfnod perthnasol, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
Mae rheoliad 9 yn dirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.