- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 8
Rheoliadau 4A a 4B
1. Mae’r gofynion rheoli maethynnau uwch a ganlyn yn gymwys i ddeiliad daliad glaswelltir cymhwysol sy’n bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
2. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “dadansoddiad samplu pridd” (“soil sampling analysis”) yw dadansoddiad o sampl pridd a wneir gan labordy profi pridd i ddadansoddi priddoedd ar gyfer ffosfforws;
ystyr “mynegai ffosfforws pridd” (“soil phosphorus index”) yw cyfeiriad at y rhif mynegai a neilltuwyd i’r pridd yn unol â Thabl 1 o’r Atodlen hon, i ddynodi lefel y ffosfforws sydd ar gael o’r pridd.
3. Rhaid i’r meddiannydd sicrhau mai’r unig dail da byw sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yw tail a gynhyrchir gan y da byw ar y daliad.
4.—(1) Rhaid i’r meddiannydd, at ddibenion pennu’r mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd, ymgymryd â dadansoddiad samplu pridd o bob pumed hectar o leiaf o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd.
(2) Caiff meddiannydd ddibynnu ar ganlyniadau dadansoddiad samplu pridd blaenorol o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd at ddibenion is-baragraff (1), ar yr amod y cynhaliwyd y dadansoddiad samplu hwnnw o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2020 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2023.
(3) Pan na fo dadansoddiad samplu pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd wedi ei gynnal o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), rhaid cynnal y dadansoddiad samplu hwnnw o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 30 Mawrth 2024.
5. Rhaid i’r meddiannydd bennu’r mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd trwy ddefnyddio canlyniadau’r dadansoddiad samplu pridd o dan baragraff 4 a’r gwerthoedd yn y tabl a ganlyn.
Mynegai ffosfforws | Ffosfforws (P) mg / L Olsen (P) |
---|---|
0 | 0-9 |
1 | 10-15 |
2 | 16-25 |
3 | 26-45 |
4 | 46-70 |
5 | 71-100 |
6 | 101-140 |
7 | 141-200 |
8 | 201-280 |
9 | Dros 280 |
6. Yn ogystal â llunio cynlluniau taenu nitrogen o dan reoliad 6 (cynllunio’r modd y taenir gwrtaith nitrogen) rhaid i’r meddiannydd, o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 30 Mawrth 2024—
(a)cyfrifo’r maint optimwm o wrtaith ffosffad (kg) y dylid ei daenu ar y cnwd yn ystod y cyfnod perthnasol, gan gymryd i ystyriaeth y mynegai ffosfforws pridd, a
(b)llunio cynllun (“cynllun rheoli maethynnau uwch”) ar gyfer taenu gwrtaith ffosffad yn ystod y cyfnod perthnasol.
7.—(1) Rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch ar gyfer y daliad—
(a)cynnwys map risg, a lunnir yn unol â pharagraff 11(1), sy’n nodi lleoliad y caeau y mae’r cynllun yn ymwneud â hwy, a
(b)datgan yn glir mewn perthynas ag unrhyw gae y cyfeirir ato yn y cynllun y math o wrtaith sydd i’w ddefnyddio.
(2) Rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch gofnodi—
(a)y mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd,
(b)y maint optimwm o wrtaith ffosffad (kg) y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y mynegai ffosfforws pridd,
(c)faint o nitrogen (kg) sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig y bwriedir ei daenu i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu yn ystod y cyfnod perthnasol,
(d)faint o ffosffad (kg) sy’n debygol o gael ei gyflenwi i fodloni gofyniad y cnwd o unrhyw dail organig a daenir neu y bwriedir ei daenu yn ystod y cyfnod perthnasol, wedi ei gyfrifo yn unol ag—
(i)tablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) o Atodlen 1,
(ii)samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3, neu
(iii)dadansoddiadau technegol a ddarperir gan y cyflenwr,
(e)faint o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o nitrogen sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y nitrogen a fydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir yn ystod y cyfnod perthnasol), ac
(f)faint o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o ffosffad sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir at ddiben gwrteithio’r cnwd yn ystod y cyfnod perthnasol).
8. Ni waeth beth fo’r ffigur a gofnodir yn y cynllun rheoli maethynnau uwch yn unol â pharagraff 7(2)(b), rhaid i’r meddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—
(a)y ffosffad o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd, a
(b)y ffosffad o dail organig, yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo,
yn fwy, yn ystod y cyfnod perthnasol, na’r terfynau a bennir ym mharagraff 9.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff cyfanswm y ffosffad a daenir ar unrhyw gnwd a restrir yng ngholofn gyntaf unrhyw un o’r tablau isod fod yn fwy na’r ffigur o dan y rhif mynegai ffosfforws pridd cymwys yn yr un tabl.
Mynegai ffosfforws pridd (kg P2O5 / ha) | |||||
---|---|---|---|---|---|
0 | 1 | 2 | 3 | 4+ | |
Wrth i’r borfa ymsefydlu | 120 | 80 | 50 | 30 | 0 |
Pori | 80 | 50 | 20 | 0 | 0 |
Gwair | 80 | 55 | 30 | 0 | 0 |
Silwair | |||||
Toriad cyntaf | 100 | 70 | 40 | 20 | 0 |
Ail doriad | 25 | 25 | 25 | 0 | 0 |
Trydydd toriad | 15 | 15 | 15 | 0 | 0 |
Pedwerydd toriad | 10 | 10 | 10 | 0 | 0 |
Mynegai-P | 0 | 1 | 2 | 3 | 4 | 5+ |
---|---|---|---|---|---|---|
(a) Pan fo Mynegai P yn 4 a 5, gellir defnyddio hyd at 60 kg P2 O5/ha fel gwrtaith cychwynnol, yn agos at yr had. Ni ddylai faint o ffosffad a ddodir fel dos cychwynnol, ynghyd â faint a ychwanegir yn y gwrtaith sylfaen, fod yn fwy na faint o ffosffad sy’n ofynnol i gymryd lle’r hyn a dynnwyd gan y cnwd blaenorol. | ||||||
Cnwd | Ffosffad (kg / ha) | |||||
Cnydau porthi | ||||||
Indrawn porthi | 115 | 85 | 55 | 20 | 0 | 0 |
Ydau cnwd cyfan | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 | 0 |
Swêds a maip porthi (wedi eu codi) | 105 | 75 | 45 | 0 | 0 | 0 |
Betys porthiant (wedi eu codi) | 120 | 90 | 60 | 0 | 0 | 0 |
Rêp, swêds a maip sofl porthi (a borir) | 85 | 55 | 25 | 0 | 0 | 0 |
Cêl (a borir) | 80 | 50 | 20 | 0 | 0 | 0 |
Rhygwellt a heuir ar gyfer hadau | 90 | 60 | 30 | 0 | 0 | 0 |
Cnydau âr (Gwellt wedi ei ymgorffori) | ||||||
Gwenith y gaeaf | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Rhygwenith y gaeaf | 125 | 95 | 65 | 0 | 0 | 0 |
Haidd y gaeaf | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Haidd y gwanwyn | 105 | 75 | 45 | 0 | 0 | 0 |
Gwenith y gwanwyn/rhygwenith y gwanwyn/rhyg/ceirch | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Cnydau âr (Gwellt wedi ei dynnu ymaith) | ||||||
Gwenith y gaeaf | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 | 0 |
Rhygwenith y gaeaf | 130 | 100 | 70 | 0 | 0 | 0 |
Haidd y gaeaf | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 | 0 |
Haidd y gwanwyn> | 105 | 75 | 45 | 0 | 0 | 0 |
Gwenith y gwanwyn | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Rhygwenith y gwanwyn/rhyg | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Ceirch | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 | 0 |
Hadau olew | ||||||
Rêp had olew y gaeaf | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Rêp had olew y gwanwyn neu had llin | 90 | 60 | 30 | 0 | 0 | 0 |
Pys (sych a dringo) a ffa | 100 | 70 | 40 | 0 | 0 | 0 |
Betys siwgr | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 | 0 |
Tatws | 250 | 210 | 170 | 100 | 0 | 0 |
Llysiau a bylbiau | ||||||
Merllys (ymsefydlu) | 175 | 150 | 125 | 100 | 75 | 0 |
Merllys (y blynyddoedd dilynol ar ôl ymsefydlu) | 75 | 75 | 50 | 50 | 25 | 0 |
Ysgewyll Brwsel, bresych storio, bresych pen a bresych llyfnddail | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Blodfresych a calabrese | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Seleri | 250 | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 |
Pys (cynhaeaf y farchnad) | 185 | 135 | 85 | 35 | 0 | 0 |
Ffa llydan, corffa a ffa dringo | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Radis ac india-corn | 175 | 125 | 75 | 25 | 0 | 0 |
Letys a dail berwr | 250 | 200 | 150 | 100 | 60(a) | 60(a) |
Winwns a chennin | 200 | 150 | 100 | 50 | 60(a) | 60(a) |
Betys (coch) swêds, maip, pannas a moron | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Bylbiau a blodau bwlb | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 | 0 |
Coriander a mintys | 175 | 125 | 75 | 25 | 0 | 0 |
Courgettes | 175 | 125 | 75 | 25 | 0 | 0 |
Ffrwythau a gwinwydd cyn plannu | 200 | 100 | 50 | 50 | 0 | 0 |
Hopys cyn plannu | 250 | 175 | 125 | 100 | 50 | 0 |
Ffrwythau coed sefydledig | 80 | 40 | 20 | 20 | 0 | 0 |
Cyrens duon, cyrens cochion, eirin Mair, mafon, mwyar logan, mafonfwyar, mwyar duon, mefus a gwinwydd | 110 | 70 | 40 | 40 | 0 | 0 |
Hopys sefydledig | 250 | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 |
(2) Caniateir taenu ffosffad ar borfa a chnydau eraill uwchben y gwerthoedd a nodir yn y tablau uchod yn ddarostyngedig i gael cyngor ysgrifenedig ymlaen llaw gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau(1).
10.—(1) Yn ogystal â’r wybodaeth sydd i’w chofnodi o dan reoliad 7 (yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn) rhaid i’r meddiannydd—
(a)cyn taenu tail organig yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi cyfanswm y ffosffad (kg) sydd yn y tail organig; a
(b)cyn taenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi—
(i)faint o ffosffad (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o ffosffad sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir), a
(ii)y mis arfaethedig ar gyfer taenu.
11.—(1) Yn ychwanegol at y gofynion o dan reoliad 11 (mapiau risg), rhaid i’r map risg—
(a)dangos pob cae wedi ei farcio â rhif cyfeirnod neu rif i alluogi croesgyfeirio at gaeau a gofnodwyd mewn cynlluniau gwrteithio,
(b)cyfateb i ardal amaethyddol y daliad, ac
(c)cael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2024.
(2) Pan fo newid mewn amgylchiadau yn effeithio ar fater y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b), rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map o fewn un mis i’r newid, gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y newid.
12. Rhaid i’r meddiannydd gynnal y daliad i sicrhau bod o leiaf 80% o’r ardal amaethyddol wedi ei hau â phorfa yn ystod y cyfnod perthnasol.
13. Rhaid i’r meddiannydd sicrhau nad yw unrhyw berson—
(a)yn aredig glaswelltir dros dro ar briddoedd tywodlyd ar y daliad o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024,
(b)yn aredig porfa ar briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr 2024 ar y daliad pan fo tail da byw wedi ei daenu ar y borfa honno o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Medi ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol, ac
(c)yn aredig porfa ar briddoedd nad ydynt yn briddoedd tywodlyd ar y daliad cyn 16 Ionawr 2024 pan fo tail da byw wedi ei daenu ar y borfa honno o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 15 Hydref yn y flwyddyn galendr flaenorol ac yn dod i ben â 15 Ionawr 2024.
14. Pan fo unrhyw borfa ar y daliad yn cael ei haredig yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid—
(a)hau’r tir â chnwd â galw mawr am nitrogen o fewn pedair wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa, neu
(b)hau’r tir â phorfa o fewn chwe wythnos, sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa.
15. Ni chaiff cylchdro cnydau ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol gynnwys codlysiau na phlanhigion eraill sy’n trosi nitrogen atmosfferig ac eithrio porfa sydd â llai na 50% ohono yn feillion, neu unrhyw godlysiau eraill gyda phorfa wedi ei hau oddi tanynt.
16.—(1) Rhaid i’r meddiannydd gofnodi cyfanswm yr ardal amaethyddol ac ardal y borfa o fewn y daliad erbyn 1 Mawrth 2024.
(2) Os bydd maint y daliad neu ardal y borfa o fewn iddo yn newid, rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r cofnod o fewn un mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y newid.
17.—(1) Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1) disgwyliedig y da byw sydd i’w cadw ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol.
(2) Yn dilyn y gofynion i wneud cofnod yn is-baragraff (1), rhaid i’r meddiannydd wedyn gyfrifo a chofnodi faint o nitrogen a ffosffad (kg) mewn tail y disgwylir i’r da byw ar y daliad ei gynhyrchu yn ystod y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) yn Atodlen 1.
(3) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth 2024.
18.—(1) Rhaid i’r meddiannydd—
(a)gwneud cofnod o fath a maint y tail da byw (tunelli neu fetrau ciwbig fel y bo’n gymwys) y bwriedir ei anfon o’r daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(b)asesu a chofnodi maint y nitrogen (kg) sydd yn y tail da byw a gofnodir o dan baragraff (a) yn unol â rheoliad 36(4) a Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3.
(2) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud erbyn 1 Mawrth 2024.
19. Yn ogystal â gofynion rheoliad 39 (cofnodion o’r cnydau a heuwyd), os yw’r meddiannydd yn bwriadu taenu gwrtaith ffosffad yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid i’r meddiannydd o fewn un wythnos i hau cnwd gofnodi—
(a)y cnwd a heuir, a
(b)dyddiad ei hau.
20. Yn ogystal â gofynion rheoliad 40 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen), rhaid i’r meddiannydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi—
(a)o fewn un wythnos i daenu tail organig, gyfanswm y cynnwys ffosfforws (kg), a
(b)o fewn un wythnos i daenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd—
(i)dyddiad ei daenu, a
(ii)maint y ffosffad a daenwyd (kg).
21. Yn ogystal â gofynion rheoliad 41 (cofnodion dilynol), rhaid i’r meddiannydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi o fewn un wythnos i aredig porfa ar y daliad ddyddiad yr aredig hwnnw.
22.—(1) Rhaid i’r meddiannydd, neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd, gyflwyno cyfrifon gwrteithio ar gyfer y cyfnod perthnasol i CNC erbyn 31 Mawrth 2025.
(2) Rhaid cyflwyno’r cyfrifon gwrteithio i CNC drwy e-bost(2).
(3) Rhaid i’r cyfrif gwrteithio gofnodi—
(a)cyfanswm ardal amaethyddol y daliad mewn hectarau;
(b)arwynebedd y daliad mewn hectarau a orchuddir gan—
(i)gwenith y gaeaf,
(ii)gwenith y gwanwyn,
(iii)haidd y gaeaf,
(iv)haidd y gwanwyn,
(v)rêp had olew y gaeaf,
(vi)betys siwgr,
(vii)tatws,
(viii)indrawn porthi,
(ix)porfa, a
(x)cnydau eraill;
(c)nifer a chategori yr anifeiliaid a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol yn unol â’r categorïau a ddisgrifir yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(d)maint y nitrogen a’r ffosffad (kg) yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(e)maint (tunelli neu fetrau ciwbig fel y bo’n gymwys), math a nodweddion y tail da byw a anfonwyd o’r daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
(f)maint y nitrogen a’r ffosffad (kg) yn y tail a gofnodwyd o dan is-baragraff (3)(e), wedi ei gyfrifo yn unol ag Atodlen 1;
(g)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen (kg) yr holl stociau gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
(h)pwysau (tunelli) a chynnwys ffosffad (kg) yr holl stociau gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
(i)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen (kg) yr holl wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad ac a anfonwyd ohono yn ystod y cyfnod perthnasol;
(j)pwysau (tunelli) a chynnwys ffosffad (kg) yr holl wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad ac a anfonwyd ohono yn ystod y cyfnod perthnasol.
23.—(1) Rhaid i’r meddiannydd ddiogelu yr holl bridd drwy sicrhau bod yr holl dir wedi ei orchuddio â chnydau, soflau, gweddillion neu lystyfiant arall bob amser, ac eithrio pan fyddai sefydlu gorchudd o’r fath yn creu risg sylweddol o erydiad pridd a risg sylweddol y bydd nitrogen a ffosfforws yn mynd i ddŵr wyneb.
(2) Pan fo tir wedi ei gynaeafu gan ddefnyddio dyrnwr medi, cynaeafwr porthiant neu beiriant torri porfa, rhaid i’r meddiannydd sicrhau y bodlonir un o’r amodau a ganlyn ar y tir hwnnw bob amser, drwy gydol y cyfnod perthnasol sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024—
(a)bod sofl y cnwd a gynaeafwyd yn dal yn y tir, neu
(b)bod y tir yn cael ei baratoi fel gwely hadau ar gyfer cnwd neu gnwd gorchudd dros dro o fewn 14 o ddiwrnodau i gynaeafu, gan ddechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu, ac—
(i)bod y cnwd, neu’r cnwd gorchudd dros dro, yn cael ei hau o fewn cyfnod o 10 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl i’r gwely hadau gael ei baratoi yn derfynol, neu
(ii)pe bai hau o fewn y cyfnod hwnnw o 10 niwrnod yn arwain at risg sylweddol o erydu pridd, ac o nitrogen neu ffosfforws yn mynd i ddŵr wyneb, fod y cnwd, neu’r cnwd gorchudd dros dro, yn cael ei hau cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r tir beidio â bod yn ddyfrlawn.
24.—(1) Rhaid i’r meddiannydd sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol nad yw safleoedd lle darperir cyfleuster bwydo atodol ar gyfer da byw wedi eu lleoli o fewn 20 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.
(2) Rhaid i’r meddiannydd sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol nad yw safleoedd lle darperir cyfleuster yfed atodol ar gyfer da byw wedi eu lleoli o fewn 10 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.
25. Os yw’r meddiannydd yn bwriadu taenu slyri ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid defnyddio cyfarpar taenu manwl ac eithrio pan na fyddai’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
26. Rhaid i’r meddiannydd sicrhau nad yw unrhyw berson, yn ystod y cyfnod perthnasol, yn taenu tail organig o fewn 15 metr i ddŵr wyneb oni bai ei fod yn defnyddio cyfarpar taenu manwl ac os felly ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb.”
Gweinyddir y cynllun gan Basis Registration Ltd, a gellir cael rhestr o bersonau cymwysedig drwy wneud cais i’r cwmni, neu ar ei wefan, www.basis-reg.com.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys