xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y Dreth Gyngor, Cymru
Gwnaed
14 Chwefror 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
16 Chwefror 2023
Yn dod i rym
1 Ebrill 2023
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn rheoliad 5(8) (Dosbarth H) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992(4), ar y diwedd mewnosoder “where and for so long as the person resides with a sponsor under that scheme”.
Rebecca Evan
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
14 Chwefror 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992 (“Rheoliadau 1992”) o ran Cymru.
Mae adran 11 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn darparu bod pobl benodol yn cael eu diystyru wrth benderfynu pa un a yw annedd yn ddarostyngedig i ddisgownt ar swm y dreth gyngor sy’n daladwy. Mae’r dosbarthau o bobl sy’n cael eu diystyru wedi eu nodi yn Atodlen 1 i Ddeddf 1992 a rheoliad 5 o Reoliadau 1992.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 5(8) (Dosbarth H) o Reoliadau 1992 i ddarparu nad yw’r diystyriad presennol ond yn gymwys pan fo person sydd wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan Gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU yn preswylio gyda noddwr o dan y cynllun hwnnw.
Ystyriwyd cod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Gweler y diffiniad o “prescribed”.
1992 p. 14; mae diwygiadau i adran 116 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 1992/552, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/431 (Cy. 100) a 2022/722 (Cy. 160). Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.