Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Rhagdybiaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2023

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Prisio hereditamentau

2.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament y byddai’r gwerth ardrethol a ddangosir ar restr ardrethu ar gyfer yr hereditament hwnnw, oni bai am y Rheoliadau hyn, yn cael ei effeithio o ganlyniad i—

(a)deddfwriaeth unrhyw wlad neu diriogaeth;

(b)darpariaeth nad yw o fewn is-baragraff (a) ond a wneir o dan ddeddfwriaeth unrhyw wlad neu diriogaeth, ac y rhoddir effaith iddi drwy ddeddfwriaeth y wlad neu’r diriogaeth honno;

(c)cyngor neu ganllawiau a roddir gan awdurdod cyhoeddus mewn unrhyw wlad neu diriogaeth;

(d)unrhyw beth a wneir gan berson gyda’r nod o sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw beth yn is-baragraff (a), (b) neu (c), neu unrhyw beth nas gwneir gan berson gyda’r nod hwnnw.

(2At ddibenion canfod gwerth ardrethol hereditament y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ar gyfer unrhyw ddiwrnod ar 1 Ebrill 2023, neu ar ôl hynny, wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf 1988, rhaid rhagdybio, ar y diwrnod hwnnw, nad oedd unrhyw newid i fater perthnasol a oedd i’w briodoli’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i ddeddfwriaeth, darpariaeth, cyngor, canllawiau neu sicrhau cydymffurfedd y cyfeirir ato yn rheoliad 2(1)(a) i (d), wedi digwydd.

(3Mae’r rhagdybiaeth yn rheoliad 2(2) i’w chymhwyso hefyd at y dibenion hyn pan fo unrhyw newid o’r fath i fater perthnasol wedi digwydd ar ôl y diwrnod a bennir o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 ond ar y diwrnod y lluniwyd y rhestr ardrethu neu cyn hynny.

(4Y materion perthnasol yw—

(a)materion sy’n effeithio ar fwynhad ffisegol o’r hereditament;

(b)dull neu gategori meddiannaeth yr hereditament;

(c)materion nad ydynt yn effeithio ar gyflwr ffisegol yr ardal leol y mae’r hereditament wedi ei leoli ynddi ond sydd er hynny’n bresennol yn ffisegol yno;

(d)defnyddio mangreoedd eraill sydd wedi eu lleoli yn ardal leol yr hereditament, neu feddiannu mangreoedd o’r fath.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yw corff, swydd neu ddeiliad swydd sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus;

ystyr “Deddf 1988” (“the1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

mae “deddfwriaeth (“legislation”) yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth o natur ddeddfwriaethol;

mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 64 o Ddeddf 1988;

ystyr “rhestr ardrethu” (“rating list”) yw rhestr ardrethu annomestig leol neu ganolog o dan Ran 3 o Ddeddf 1988.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill