- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
35.—(1) Caiff gweithiwr amaethyddol gymryd gwyliau blynyddol y mae ganddo hawl i’w cymryd o dan y Gorchymyn hwn unrhyw bryd o fewn y flwyddyn gwyliau blynyddol yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ei gyflogwr.
(2) Nid oes gan weithiwr amaethyddol hawl i gario unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas cymerwyd ymlaen o’r naill flwyddyn gwyliau i’r flwyddyn gwyliau nesaf heb gymeradwyaeth ei gyflogwr.
(3) Pan fo cyflogwr wedi cytuno y caiff gweithiwr amaethyddol gario unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas defnyddiwyd ymlaen, dim ond yn ystod y flwyddyn gwyliau y mae’n cael ei gario ymlaen iddi y caniateir i’r balans gael ei gymryd.
(4) Yn ystod y 6 mis cyntaf mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol caiff cyflogwr ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gymryd hyd at 2 wythnos o’i hawl gwyliau blynyddol o dan y Gorchymyn hwn a chaiff gyfarwyddo i’r gweithiwr gymryd un o’r 2 wythnos hynny o wyliau blynyddol ar ddiwrnodau yn yr un wythnos.
(5) Yn ystod yr ail 6 mis mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol, rhaid i gyflogwr ganiatáu i weithiwr amaethyddol gymryd 2 wythnos o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr o dan y Gorchymyn hwn mewn wythnosau olynol.
(6) At ddibenion yr erthygl hon, mae 1 wythnos o wyliau blynyddol gweithiwr amaethyddol yn cyfateb i nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol fel y’i pennir yn unol ag erthyglau 32 a 33.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys