xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 3
1. At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r marc adnabod unigryw SYN-ØØØH2-5 wedi ei bennu ar gyfer ffa soia a addaswyd yn enetig SYHT0H2.
2. Mae’r cynhyrchion a ganlyn wedi eu hawdurdodi at ddibenion Erthyglau 4(2) ac 16(2) o Reoliad 1829/2003, yn unol â’r amodau a nodir yn yr Atodlen hon—
(a)bwyd a chynhwysion bwyd sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig SYN-ØØØH2-5, neu sydd wedi eu cyfansoddi neu eu cynhyrchu o’r ffa soia hynny;
(b)bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig SYN-ØØØH2-5, neu sydd wedi ei gyfansoddi neu ei gynhyrchu o’r ffa soia hynny;
(c)cynhyrchion sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig SYN-ØØØH2-5 neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r ffa soia hynny at ddibenion heblaw’r rheini y darperir ar eu cyfer yn is-baragraffau (a) a (b), ac eithrio amaethu.
3.—(1) At ddibenion y gofynion labelu yn Erthyglau 13(1) a 25(2) o Reoliad 1829/2003, ac yn Erthygl 4(6) o Reoliad 1830/2003, “name of the organism” yw “soybean”.
(2) Rhaid i’r geiriau “not for cultivation” ymddangos ar label cynhyrchion sy’n cynnwys ffa soia a addaswyd yn enetig SYN-ØØØH2-5, neu sydd wedi eu cyfansoddi o’r ffa soia hynny, ac eithrio bwyd a chynhwysion bwyd, ac yn y dogfennau sy’n mynd gyda’r cynhyrchion hynny.
4.—(1) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, mae’r dull a bennir yn is-baragraff (2) i’w ddefnyddio i ganfod ffa soia a addaswyd yn enetig SYN-ØØØH2-5.
(2) Mae’r dull wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Event-specific Method for the Quantification of Soybean SYHT0H2 by Real-time PCR”, cyfeirnod “EURL-VL-04/12VP”, dyddiedig 3 Awst 2016.
(3) Mae’r dull o echdynnu DNA sydd i’w ddefnyddio yn y dull canfod a bennir yn is-baragraff (2) wedi ei nodi yn y ddogfen o’r enw “Report on the Validation of a DNA Extraction Method for Soybean Seeds”, cyfeirnod “CRLVL04/07XP”, dyddiedig 22 Ionawr 2009.
(4) At ddibenion Erthyglau 7(3) a 19(3) o Reoliad 1829/2003, gellir cyrchu’r deunydd cyfeirio AOCS 0112-A drwy Gymdeithas Cemegwyr Olew America(1).
5.—(1) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad sicrhau y gweithredir cynllun monitro’r effeithiau amgylcheddol, sy’n mynd gyda’r cais i awdurdodi ffa soia a addaswyd yn enetig SYN-ØØØH2-5, rhif cyfeirnod “RP1138” a gyflwynwyd i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd(2) ar 10 Mehefin 2021.
(2) Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gyflwyno i’r Awdurdod Diogelwch Bwyd adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cynllun monitro, a chanlyniadau’r gweithgareddau a nodir yn y cynllun hwnnw, yn unol â’r fformat a nodir yn Atodiad 2 i Benderfyniad 2009/770.
6.—(1) Deiliad yr awdurdodiad yw Syngenta Crop Protection AG, Rosentalstrasse 67, CH-0458 Basel, Y Swistir.
(2) Cynrychiolir deiliad yr awdurdodiad ym Mhrydain Fawr gan Syngenta Limited, Jealott’s Hill International Research Centre, Bracknell, Berkshire, RG42 6EY, Y Deyrnas Unedig.
Mae “Food Safety Authority” wedi ei ddiffinio yn Erthygl 2(17) o Reoliad 1829/2003.