xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Landlord A Thenant, Cymru
Gwnaed
17 Ionawr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
19 Ionawr 2023
Yn dod i rym
10 Chwefror 2023
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2023, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 10 Chwefror 2023.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw unrhyw ardal o dir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;
ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2; y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 17/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(3);
ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;
ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 10.2.2023, gweler ergl. 1(1)
2.—(1) Mae paragraffau (2), (3) a (4) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn yr ystyr a roddir i “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio’r tir o dan sylw, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2,
(b)y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2021 fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3, ac
(c)y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2022 fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 4.
(3) Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2020 yn unol â chofnod 4 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
(b)y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2021 fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3.
(4) Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2021 yn unol â chofnod 4 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
(b)y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2022 fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 4.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 2 mewn grym ar 10.2.2023, gweler ergl. 1(1)
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
17 Ionawr 2023
Erthygl 2
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. mewn grym ar 10.2.2023, gweler ergl. 1(1)
colofn 1 | colofn 2 | colofn 3 | colofn 4 | |
---|---|---|---|---|
Defnydd ffermio | Uned gynhyrchu | Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£) ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2021 | Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£) ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2022 | |
(1) Dyma’r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo’u hoed) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o’r ffigur hwn. | ||||
1. Da byw | ||||
Buchod godro | buwch | 641 | 813 | |
Buchod bridio cig eidion: | ar dir mewn ardal lai ffafriol | buwch | -144 | -106 |
ar dir arall | buwch | -264 | -156 | |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) | y pen | -149(1) | -18(1) | |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | y pen | 90(1) | 99(1) | |
Mamogiaid: | ar dir mewn ardal lai ffafriol | mamog | -20 | -12 |
ar dir arall | mamog | 3 | 23 | |
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) | y pen | 5 | 9 | |
Moch: | hychod a banwesod torrog | hwch neu fanwes | 244 | 269 |
moch porc | y pen | 8 | 9.1 | |
moch torri | y pen | 10.8 | 12.1 | |
moch bacwn | y pen | 12.7 | 14.5 | |
Dofednod: | ieir dodwy | aderyn | 4.3 | 4.2 |
brwyliaid | aderyn | 0.3 | 0.3 | |
cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.8 | 0.8 | |
Tyrcwn Nadolig | aderyn | 10.5 | 12.5 | |
2. Cnydau âr fferm | ||||
Haidd | hectar | 145 | 397 | |
Ffa | hectar | 7 | 135 | |
Rêp had olew | hectar | 250 | 294 | |
Pys sych | hectar | -20 | -50 | |
Tatws: | cynnar cyntaf | hectar | 3,190 | 3,460 |
prif gnwd (gan gynnwys hadyd) | hectar | 2,410 | 2,410 | |
Betys siwgr | hectar | 160 | 460 | |
Gwenith | hectar | 370 | 480 | |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau | ||||
Ffrwythau’r berllan | hectar | 3,090 | 3,460 | |
Ffrwythau meddal | hectar | 14,720 | 15,460 | |
4. Hectarau cymwys | ||||
Tir a oedd yn 2020 (gweler colofn 3) neu yn 2021 (gweler colofn 4) yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013 | tir dan anfantais ddifrifol | hectar | 132.70 | 114.98 |
tir dan anfantais | hectar | 131.19 | 114.96 | |
pob tir arall | hectar | 33.46 | 79.06 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi’r swm sydd i’w ystyried fel yr incwm blynyddol net o bob uned o’r fath ar gyfer y cyfnodau o 12 Medi 2021 hyd at 11 Medi 2022 ac o 12 Medi 2022 hyd at 11 Medi 2023, at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”).
Mae’n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu a yw’r tir o dan sylw yn “commercial unit of agricultural land” (“uned fasnachol o dir amaethyddol”) ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986; yn benodol adrannau 36(3) a 50(2) sy’n ymdrin â’r cwestiwn hwn. Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw’n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawnamser sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn. Mae paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986 yn rhoi diffiniad o “commercial unit of agricultural land”.
Wrth bennu’r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o’r Atodlen yn berthnasol i’r asesiad o allu cynhyrchiol y tir o dan sylw, mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn darparu mai’r unedau cynhyrchu a bennir yng ngholofn 2 a’r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofn 3 neu 4 fydd sail yr asesiad.
Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2020 neu 2021, yn hectar cymwys o fewn ystyr Erthygl 32(2) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin. Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais a thir dan anfantais ddifrifol, tir mewn ardal lai ffafriol a thir arall.
Ystyriwyd cod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
1986 p. 5; diffinnir “the Minister” yn adran 96 o’r Ddeddf honno.
Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
EUR 2013/1307, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1556; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Ymgorfforwyd y Rheoliad hwn mewn cyfraith ddomestig gan adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2).