- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5. Ar ôl paragraff 11 mewnosoder—
“11A—(1) Wrth eu cymhwyso i gontract sy’n cymryd lle contract arall sydd wedi dod i fodolaeth cyn 1 Mehefin 2023—
(a)mae adran 31(1) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r dyddiad meddiannu”;
(b)mae adran 31(2) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn newid”;
(c)mae’r darpariaethau a ganlyn i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r dyddiad meddiannu”—
(i)adran 36(3)(a);
(ii)adran 37(3)(a);
(d)mae adran 39(1) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â dyddiad meddiannu’r contract”.
(2) Wrth eu cymhwyso i gontract sy’n cymryd lle contract arall sydd wedi dod i fodolaeth ar neu ar ôl 1 Mehefin 2023—
(a)mae’r darpariaethau a ganlyn i’w darllen fel pe bai’r cyfeiriadau at y dyddiad meddiannu yn gyfeiriadau at y diwrnod y mae gan ddeiliad y contract hawl i ddechrau meddiannu’r annedd o dan y contract sy’n cymryd lle contract arall—
(i)adran 31(1);
(ii)adran 36(3)(a);
(iii)adran 37(3)(a);
(b)mae adran 39(1) i’w darllen fel pe bai’r cyfeiriad at ddyddiad meddiannu’r contract yn gyfeiriad at y dyddiad y mae gan ddeiliad y contract hawl i ddechrau meddiannu’r annedd o dan y contract sy’n cymryd lle contract arall.”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys