xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

PENNOD 3Diwygiadau i’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”

19.  Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”—

(a)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo;;

(b)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BJ2 neu 276BO2 o’r rheolau mewnfudo neu baragraff ARAP 16.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo;

(ab)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo;.