Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 5) 2023

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 723 (Cy. 109) (C. 37)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 5) 2023

Gwnaed

28 Mehefin 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 29(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: