Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer pa bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai ac i gael cymorth tai.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (“Deddf 1996”). Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth M”) sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996.

Mae Dosbarth M yn gymwys i bersonau sy’n ddioddefwyr y fasnach mewn pobl neu gaethwasiaeth ac y rhoddwyd iddynt ganiatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig yn unol â’r Rheolau Mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p. 77).

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5(1) o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael cymorth tai o dan adran 66, 68, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth N”) sy’n gymwys i gael cymorth o’r fath. Mae’r dosbarth hwn yn cyfateb i Ddosbarth M a fewnosodir gan reoliad 3.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.