xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar gynhyrchwyr sydd wedi ymsefydlu yng Nghymru i gasglu data am y pecynwaith y maent yn ei gyflenwi i eraill, ac, mewn rhai achosion, i adrodd am rywfaint o’r wybodaeth honno i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Rhan 1 yn cynnwys y darpariaethau dehongli a’r darpariaethau cyffredinol ar gyfer yr offeryn.

Mae Rhan 2 yn nodi’r rhwymedigaethau ar gynhyrchwyr. Mae Atodlen 1 yn nodi’r wybodaeth y mae’n ofynnol i gynhyrchwyr ei chasglu ac adrodd amdani.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau cofrestredig ac yn esemptio cynhyrchwyr sy’n aelodau o gynllun cofrestredig rhag eu rhwymedigaethau o ran adrodd am ddata o dan y Rheoliadau hyn, ar yr amod eu bod yn bodloni’r gofynion yn rheoliad 19(2). Mae’n ofynnol i gynlluniau cofrestredig lunio adroddiadau ar ran pob un o’u haelodau sy’n bodloni’r gofynion hyn. Mae Rhan 3 hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â newidiadau i aelodaeth cynllun yng nghanol blwyddyn berthnasol.

Mae Rhan 4 yn nodi pwerau a dyletswyddau Cyfoeth Naturiol Cymru o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer nifer o droseddau a chosbau am dorri’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn. Gorfodir y Rheoliadau hyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.