xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
19.—(1) Pan fo cynhyrchydd yn aelod o gynllun cofrestredig drwy gydol blwyddyn berthnasol, mae’r cynhyrchydd wedi ei esemptio rhag ei rwymedigaethau adrodd am ddata o dan reoliad 17 ar gyfer y flwyddyn berthnasol.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys os yw’r cynhyrchydd—
(a)yn darparu unrhyw wybodaeth y mae gweithredwr y cynllun yn gofyn amdani at ddibenion bodloni ei rwymedigaethau o dan reoliad 20 o fewn cyfnod rhesymol i gael cais o’r fath,
(b)yn sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir—
(i)ar ba ffurf bynnag a gyfarwyddir gan weithredwr y cynllun a CNC,
(ii)wedi ei dilysu drwy lofnod person a gymeradwywyd y cynhyrchydd, a
(iii)mor gywir ag sy’n rhesymol bosibl, ac
(c)yn talu unrhyw ffi sy’n ofynnol am aelodaeth o’r cynllun.
20.—(1) Rhaid i weithredwr cynllun cofrestredig (“GC”) gyflawni rhwymedigaethau adrodd am ddata o dan reoliad 17 bob cynhyrchydd sy’n aelod o gynllun y mae GC yn ei weithredu, ar yr amod bod y cynhyrchydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 19(2).
(2) Rhaid i GC gadw cofnodion o unrhyw wybodaeth a ddarperir i GC gan ei aelodau er mwyn galluogi GC i wneud yr adroddiadau sy’n ofynnol o dan baragraff (1), am o leiaf 7 mlynedd ar ôl y dyddiad y cyflwynir yr adroddiad i CNC.
21.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys o ran newidiadau i aelodaeth cynllun cofrestredig.
(2) Pan fo person sy’n gynhyrchydd mewn cysylltiad â blwyddyn berthnasol yn dod yn aelod o gynllun cofrestredig yn ystod y flwyddyn honno, rhaid i rwymedigaethau adrodd am ddata y cynhyrchydd sy’n weddill ar gyfer y flwyddyn honno, y cyfeirir atynt yn rheoliad 20(1), gael eu cyflawni drwy’r cynllun.
(3) Pan fo person sy’n gynhyrchydd mewn cysylltiad â blwyddyn berthnasol yn peidio â bod yn aelod o gynllun cofrestredig yn ystod y flwyddyn honno, rhaid i’r person hwnnw gydymffurfio â’i rwymedigaethau adrodd am ddata sy’n weddill ar gyfer y flwyddyn honno.
(4) Pan fo person sy’n gynhyrchydd mewn cysylltiad â blwyddyn yn peidio â bod yn aelod o un cynllun cofrestredig (“y cynllun cyntaf”) ac yn dod yn aelod o gynllun cofrestredig arall (“yr ail gynllun”) yn ystod y flwyddyn honno, nid yw’n ofynnol i’r cynllun cyntaf gyflawni unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau adrodd am ddata’r cynhyrchydd sy’n weddill, y cyfeirir atynt yn rheoliad 20(1), a rhaid i’r holl rwymedigaethau hynny gael eu cyflawni drwy’r ail gynllun.