Personau a gymeradwywyd
24.—(1) Caiff CNC gymeradwyo person a restrir ym mharagraff (2) at ddibenion—
(a)dilysu gwybodaeth yr adroddir amdani gan gynhyrchydd i CNC o dan reoliad 17(4)(b), neu
(b)dilysu gwybodaeth a ddarperir gan gynhyrchydd i weithredwr cynllun o dan reoliad 19(2)(b)(ii).
(2) Y personau a restrir, pan fo’r cynhyrchydd—
(a)yn unigolyn, yw’r unigolyn hwnnw,
(b)yn bartneriaeth, yw partner,
(c)yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, yw aelod o’r bartneriaeth honno,
(d)yn gwmni sydd wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig, yw cyfarwyddwr neu ysgrifennydd cwmni y cwmni hwnnw,
(e)yn gorff anghorfforedig, yw unigolyn sydd â rheolaeth dros y corff hwnnw neu sy’n rheoli’r corff hwnnw, neu
(f)yn gwmni nad oes ganddo swyddfa gofrestredig yn y Deyrnas Unedig, yw unigolyn sydd â rheolaeth dros y cynhyrchydd neu sy’n rheoli’r cynhyrchydd.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 25, caiff CNC gymeradwyo dirprwyo gan berson a gymeradwywyd swyddogaethau’r person i unrhyw berson arall.
(4) Caiff person a gymeradwywyd sydd wedi dirprwyo swyddogaethau o dan baragraff (3) barhau i gyflawni’r swyddogaethau hynny.
(5) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gweithred gan ddirprwy yn cyflawni swyddogaethau person a gymeradwywyd ar ran y person hwnnw i’w drin fel gweithred y person a gymeradwywyd.
(6) Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddogaethau” yw’r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) o’r rheoliad hwn.