Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

PENNOD 1Cyflwyniad

37.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig

38.  Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “6BA,” mewnosoder “6BB,”.

39.  Yn rheoliad 44(1), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”

40.  Yn rheoliad 54, yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”

41.  Yn rheoliad 62(2), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”

42.  Yn rheoliad 69(2), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”

43.  Yn rheoliad 80(2)(b)(iii), yn lle “neu 6D(a)” rhodder “, 6D(1)(a) neu 6D(2)(a)”.

44.  Yn Atodlen 2—

(a)yn lle paragraff 1(2)(d) rhodder—

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—

(i)y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)y tiriogaethau tramor.;

(b)ym mharagraff 4A—

(i)yn lle is-baragraff (1)(b) rhodder—

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor, pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.

(ii)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, ac;

(c)ym mharagraff 6A(1)(c)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(d)ym mharagraff 6A(1)(d)—

(i)hepgorer “Gibraltar,”;

(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;

(e)ym mharagraff 6A(2)(d), yn lle’r geiriau o “preswylio fel arfer” hyd at y diwedd rhodder—

preswylio fel arfer n union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—

(i)y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)y tiriogaethau tramor.;

(f)ar ôl paragraff 6BA mewnosoder—

Categori 6BB – Personau o’r tiriogaethau tramor Prydeinig sydd wedi setlo

6BB.(1) Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sydd—

(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol, ac

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 9(2).;

(g)yn lle paragraff 6D rhodder—

6D.(1) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar, neu

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,

(b)sy’n ymgymryd—

(i)â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu

(ii)â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,

(b)sydd—

(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 9(2).;

(h)yn lle paragraff 7A(c) rhodder—

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, a;

(i)ym mharagraff 8A(1), yn lle paragraff (d) rhodder—

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.;

(j)ym mharagraff 9—

(i)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)

P,

(b)

priod neu bartner sifil P, neu

(c)

yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.;

(ii)yn lle is-baragraff (3) rhodder—

(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—

(a)

yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(b)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(c)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;

(d)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;

(e)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath;

(f)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.;

(k)ym mharagraff 11(1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla, Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten), Aruba, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Mayotte, Montserrat, Polynesia Ffrengig, St Barthélemy, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), St Pierre a Miquelon, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc, Wallis a Futuna, Yr Ynys Las, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Ffaro, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;;

ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Montserrat, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;.

45.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 4(1)(a)(i)—

(a)yn lle “6A(2)” rhodder “6A(2)(d)(i)”;

(b)hepgorer “6BA,”.

46.  Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol yn y tabl mewnosoder y cofnodion a ganlyn—

“tiriogaethau tramor”Atodlen 2, paragraff 11(1)
“tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig”Atodlen 2, paragraff 11(1)

PENNOD 3Aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo

47.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6C(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.

PENNOD 4Cymorth ariannol – codiadau

48.  Yn rheoliad 55, yn Nhabl 7—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Categori 1Byw gartref£8,950
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£13,635
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£10,720
Categori 2Byw gartref£4,475
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£6,815
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£5,360

49.  Yn rheoliad 56—

(a)yn Nhabl 8—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Byw gartref£9,950
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£14,635
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£11,720

(b)yn Nhabl 8A—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Byw gartref£4,475
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£6,815
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£5,360

50.  Yn rheoliad 57(7), yn Nhabl 9—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Byw gartref£93
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£179
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£141

51.  Yn rheoliad 58(2), yn Nhabl 10—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023£7,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

52.  Yn rheoliad 58A(2), yn Nhabl 10A—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023£8,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

53.  Yn rheoliad 63(2), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.

54.  Yn rheoliad 72(2), yn Nhabl 11—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023£3,322

55.  Yn rheoliad 74, yn Nhabl 12—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023£1,896

56.  Yn rheoliad 76(2)—

(a)yn Nhabl 13—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023Un plentyn dibynnol£187
Mwy nag un plentyn dibynnol£321

(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£141” rhodder “£144”.

57.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 20(2), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.

PENNOD 5Grantiau ar gyfer dibynyddion

58.  Yn rheoliad 69(1)(c), yn lle “50%” rhodder “25%”.

59.  Yn rheoliad 77—

(a)ym mharagraff (1), yn lle—

(i)“£6,159” rhodder “£6,272”;

(ii)“£8,473” rhodder “£8,629”;

(iii)“£9,632” rhodder “£9,809”;

(iv)“£10,797” rhodder “£10,996”;

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Os yw cwrs presennol y myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser, swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yw’r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (a)(ii) neu (d)(ii) o Gam 4 o baragraff (1) wedi ei luosi ag—

(a)

25%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 25% o leiaf ond yn llai na 30%;

(b)

30%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 30% o leiaf ond yn llai na 40%;

(c)

40%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 40% o leiaf ond yn llai na 50%;

(d)

50%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 50% o leiaf ond yn llai na 60%;

(e)

60%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 60% o leiaf ond yn llai na 75%;

(f)

75%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 75% neu’n fwy.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill