Offerynnau Statudol Cymru
2023 Rhif 87 (Cy. 17)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
1 Chwefror 2023
Yn dod i rym
22 Chwefror 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983() ac adrannau 22(1)(a), 22(2)(a), (b) ac (c) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(), a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015().
RHAN 1LL+CEnwi, cychwyn a chymhwyso
Enwi a chychwynLL+C
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Chwefror 2023.
CymhwysoLL+C
2.—(1) Mae’r rheoliadau a ganlyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio—
(a)rheoliadau 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54, 55, 56 a 57 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018);
(b)rheoliadau 33, 34, 35, 36, 58 a 59 (grantiau ar gyfer dibynyddion: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018).
(2) Mae’r rheoliadau a ganlyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio—
(a)rheoliadau 4 a 5 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: ffioedd a dyfarniadau);
(b)rheoliad 6 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: ffioedd a dyfarniadau);
(c)rheoliad 15 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: personau cymhwysol);
(d)rheoliad 16 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: personau cymhwysol);
(e)rheoliadau 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 61, 62, 63, 68, 69, 70 a 71 (myfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig: cymhwystra);
(f)rheoliadau 47, 64 a 72 (aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo: cymhwystra);
(g)rheoliad 65 (diwygiad i’r trothwy rhandaliadau blynyddol: Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018);
(h)rheoliad 66 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018);
(i)rheoliadau 73 a 74 (diweddaru symiau: Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019).
RHAN 2LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
PENNOD 1LL+CCyflwyniad
3. Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007() wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C
PENNOD 2LL+CMyfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig
4. Ym mhob un o reoliadau 4(1B), 5(4), 6(5), 7(5) ac 8(4) yn lle “9B a 9BA” rhodder “9B, 9BA a 9E”.LL+C
5. Yn yr Atodlen—LL+C
(a)ym mharagraff 1—
(i)yn y diffiniad o “family member” yn y testun Saesneg, yn lle “aelod o deulu” rhodder “aelod o’r teulu”;
(ii)yn y diffiniad o “aelod o’r teulu”, ym mharagraff (d), yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9E neu at ddibenion paragraffau 9C a 9D mewn perthynas â pherson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
(b)ym mharagraff 9C(1)(a)—
(i)yn is-baragraff (i), yn lle “yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “yn berson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
(ii)yn is-baragraff (ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu a fyddai’n berson o’r fath pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig”.
PENNOD 3LL+CAelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo
6. Yn yr Atodlen, ym mharagraff 9Ch(1)(a) yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.LL+C
RHAN 3LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
PENNOD 1LL+CCyflwyniad
7. Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014() wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C
PENNOD 2LL+CHepgor darpariaethau diangen
8. Yn rheoliad 6—LL+C
(a)ym mharagraff (2)(b)(i), hepgorer “2A,”, “9A,” a “9BA, 9C, 9D,”;
(b)ym mharagraff (2)(b)(ii), hepgorer “9,”;
(c)ym mharagraff (2A)(a), hepgorer “9,”;
(d)ym mharagraff (2B), yn lle “8A, 9B, 9BA a 9D” rhodder “8A a 9B”;
(e)ym mharagraff (10E)(a)—
(i)ym mharagraff (i) yn lle “(a)(iii), (iv) neu (v)” rhodder “(1)(a)(iii) neu (iv)”;
(ii)ym mharagraff (ii) yn lle “3(1)(a)(iii) neu (iv)” rhodder “3(1)(a)(iv)”.
9. Yn rheoliad 15—LL+C
(a)ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae” rhodder “Mae”;
(b)hepgorer paragraff (2).
10. Yn rheoliad 17—LL+C
(a)ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae” rhodder “Mae”;
(b)hepgorer paragraff (2).
11. Yn rheoliad 20—LL+C
(a)ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae” rhodder “Mae”;
(b)hepgorer paragraff (3).
12. Yn rheoliad 22—LL+C
(a)ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae” rhodder “Mae”;
(b)hepgorer paragraff (2).
13. Yn Atodlen 1—LL+C
(a)ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “aelod o deulu”—
(i)ym mharagraffau (c) a (d), hepgorer “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;
(ii)ym mharagraff (e) yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C a 9D” rhodder “paragraff 9B”;
(b)hepgorer paragraffau 2A, 3(1)(a)(iii), 9, 9A, 9BA, 9C a 9D.
RHAN 4LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
PENNOD 1LL+CCyflwyniad
14. Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015() wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C
PENNOD 2LL+CMyfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig
15. Yn yr Atodlen—LL+C
(a)ym mharagraff 1(1), ym mharagraff (e) o’r diffiniad o “aelod o deulu”, yn lle “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9E ac at ddibenion paragraffau 9C a 9D mewn perthynas â phersonau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
(b)ym mharagraff 9C(1)(a)—
(i)yn is-baragraff (i), yn lle “yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “yn berson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
(ii)yn is-baragraff (ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu a fyddai’n berson o’r fath pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig”.
PENNOD 3LL+CAelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo
16. Yn yr Atodlen, ym mharagraff 9D(1)(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.LL+C
RHAN 5LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
PENNOD 1LL+CCyflwyniad
17. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017() wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C
PENNOD 2LL+CCymorth ariannol – codiadau
18. Yn rheoliad 16—LL+C
(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,295” rhodder “£4,215”;
(b)ym mharagraff (3)(b), yn lle “£4,705” rhodder “£4,785”;
(c)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,220” rhodder “£2,175”;
(d)ym mharagraff (4)(b), yn lle “£2,280” rhodder “£2,325”.
19. Yn rheoliad 19—LL+C
(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,705” rhodder “£4,785”;
(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,280” rhodder “£2,325”.
20. Yn rheoliad 24(3)(a), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.LL+C
21. Yn rheoliad 26(3)—LL+C
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£3,262” rhodder “£3,322”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “£3,262” rhodder “£3,322”.
22. Yn rheoliad 27—LL+C
(a)ym mharagraff (7)(a), yn lle “£184” rhodder “£187”;
(b)ym mharagraff (7)(b), yn lle “£315” rhodder “£321”;
(c)ym mharagraff (9)(a), yn lle “£141” rhodder “£144”.
23. Yn rheoliad 28(2), yn lle “£1,862” rhodder “£1,896”.LL+C
24. Yn rheoliad 43—LL+C
(a)ym mharagraff (2)(i), yn lle “£6,163” rhodder “£6,277”;
(b)ym mharagraff (2)(ii), yn lle “£11,152” rhodder “£11,357”;
(c)ym mharagraff (2)(iii), yn lle “£9,492” rhodder “£9,667”;
(d)ym mharagraff (2)(iv), yn lle “£9,492” rhodder “£9,667”;
(e)ym mharagraff (2)(v), yn lle “£7,961” rhodder “£8,108”;
(f)ym mharagraff (3)(i), yn lle “£5,580” rhodder “£5,683”;
(g)ym mharagraff (3)(ii), yn lle “£10,155” rhodder “£10,342”;
(h)ym mharagraff (3)(iii), yn lle “£8,256” rhodder “£8,408”;
(i)ym mharagraff (3)(iv), yn lle “£8,256” rhodder “£8,408”;
(j)ym mharagraff (3)(v), yn lle “£7,375” rhodder “£7,511”.
25. Yn rheoliad 45—LL+C
(a)ym mharagraff (1)(a)(i), yn lle “£2,926” rhodder “£2,980”;
(b)ym mharagraff (1)(a)(ii), yn lle “£5,484” rhodder “£5,585”;
(c)ym mharagraff (1)(a)(iii), yn lle “£4,666” rhodder “£4,752”;
(d)ym mharagraff (1)(a)(iv), yn lle “£4,666” rhodder “£4,752”;
(e)ym mharagraff (1)(a)(v), yn lle “£3,901” rhodder “£3,973”;
(f)ym mharagraff (1)(b)(i), yn lle “£2,926” rhodder “£2,980”;
(g)ym mharagraff (1)(b)(ii), yn lle “£5,484” rhodder “£5,585”;
(h)ym mharagraff (1)(b)(iii), yn lle “£4,666” rhodder “£4,752”;
(i)ym mharagraff (1)(b)(iv), yn lle “£4,666” rhodder “£4,752”;
(j)ym mharagraff (1)(b)(v), yn lle “£3,901” rhodder “£3,973”;
(k)ym mharagraff (1)(c)(i), yn lle “£4,622” rhodder “£4,708”;
(l)ym mharagraff (1)(c)(ii), yn lle “£8,364” rhodder “£8,518”;
(m)ym mharagraff (1)(c)(iii), yn lle “£7,119” rhodder “£7,250”;
(n)ym mharagraff (1)(c)(iv), yn lle “£7,119” rhodder “£7,250”;
(o)ym mharagraff (1)(c)(v), yn lle “£5,971” rhodder “£6,081”;
(p)ym mharagraff (2)(a)(i), yn lle “£2,224” rhodder “£2,265”;
(q)ym mharagraff (2)(a)(ii), yn lle “£4,194” rhodder “£4,271”;
(r)ym mharagraff (2)(a)(iii), yn lle “£3,040” rhodder “£3,096”;
(s)ym mharagraff (2)(a)(iv), yn lle “£3,040” rhodder “£3,096”;
(t)ym mharagraff (2)(a)(v), yn lle “£3,040” rhodder “£3,096”;
(u)ym mharagraff (2)(b)(i), yn lle “£2,224” rhodder “£2,265”;
(v)ym mharagraff (2)(b)(ii), yn lle “£4,194” rhodder “£4,271”;
(w)ym mharagraff (2)(b)(iii), yn lle “£3,411” rhodder “£3,474”;
(x)ym mharagraff (2)(b)(iv), yn lle “£3,411” rhodder “£3,474”;
(y)ym mharagraff (2)(b)(v), yn lle “£3,040” rhodder “£3,096”;
(z)ym mharagraff (2)(c)(i), yn lle “£4,185” rhodder “£4,262”;
(aa)ym mharagraff (2)(c)(ii), yn lle “£7,616” rhodder “£7,757”;
(bb)ym mharagraff (2)(c)(iii), yn lle “£6,192” rhodder “£6,306”;
(cc)ym mharagraff (2)(c)(iv), yn lle “£6,192” rhodder “£6,306”;
(dd)ym mharagraff (2)(c)(v), yn lle “£5,531” rhodder “£5,633”.
26. Yn rheoliad 50—LL+C
(a)ym mharagraff (1)(a), yn lle “£91” rhodder “£93”;
(b)ym mharagraff (1)(b), yn lle “£176” rhodder “£179”;
(c)ym mharagraff (1)(c), yn lle “£192” rhodder “£196”;
(d)ym mharagraff (1)(d), yn lle “£192” rhodder “£196”;
(e)ym mharagraff (1)(e), yn lle “£138” rhodder “£141”.
27. Yn rheoliad 56—LL+C
(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,622” rhodder “£4,708”;
(b)ym mharagraff (3)(b), yn lle “£8,364” rhodder “£8,518”;
(c)ym mharagraff (3)(c), yn lle “£7,119” rhodder “£7,250”;
(d)ym mharagraff (3)(d), yn lle “£7,119” rhodder “£7,250”;
(e)ym mharagraff (3)(e), yn lle “£5,971” rhodder “£6,081”;
(f)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£4,185” rhodder “£4,262”;
(g)ym mharagraff (4)(b), yn lle “£7,616” rhodder “£7,757”;
(h)ym mharagraff (4)(c), yn lle “£6,192” rhodder “£6,306”;
(i)ym mharagraff (4)(d), yn lle “£6,192” rhodder “£6,306”;
(j)ym mharagraff (4)(e), yn lle “£5,531” rhodder “£5,633”.
28. Yn rheoliad 88(3)(a), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.LL+C
29. Yn rheoliad 91—LL+C
(a)ym mharagraff (3)(a), yn lle “£3,262” rhodder “£3,322”;
(b)ym mharagraff (3)(b), yn lle “£3,262” rhodder “£3,322”.
30. Yn rheoliad 92—LL+C
(a)ym mharagraff (6)(a), yn lle “£184” rhodder “£187”;
(b)ym mharagraff (6)(b), yn lle “£315” rhodder “£321”;
(c)ym mharagraff (8)(a), yn lle “£141” rhodder “£144”.
31. Yn rheoliad 93(2), yn lle “£1,862” rhodder “£1,896”.LL+C
32. Yn rheoliad 117(2)(a), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.LL+C
PENNOD 3LL+CGrantiau ar gyfer dibynyddion
33. Yn rheoliad 29(2), yn lle—LL+C
(a)“£1,159” rhodder “£1,180”;
(b)“£3,473” rhodder “£3,537”;
(c)“£4,632” rhodder “£4,717”;
(d)“£5,797” rhodder “£5,904”.
34. Yn rheoliad 89(3), yn lle “50” rhodder “25”.LL+C
35. Yn rheoliad 94(2), yn lle—LL+C
(a)“£1,159” rhodder “£1,180”;
(b)“£3,473” rhodder “£3,537”;
(c)“£4,632” rhodder “£4,717”;
(d)“£5,797” rhodder “£5,904”.
36. Yn rheoliad 98—LL+C
(a)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Yn achos grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, pan fo’r dwysedd astudio—
(a)
yn 25 y cant neu’n fwy ond yn llai na 30 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 25 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(b)
yn 30 y cant neu’n fwy ond yn llai na 40 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 30 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(c)
yn 40 y cant neu’n fwy ond yn llai na 50 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 40 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(d)
yn 50 y cant neu’n fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(e)
yn 60 y cant neu’n fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(f)
yn 75 y cant neu’n fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn.”;
(b)yn lle paragraff (5) rhodder—
“(5) Yn achos grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, pan fo’r dwysedd astudio—
(a)
yn 25 y cant neu’n fwy ond yn llai na 30 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 25 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(b)
yn 30 y cant neu’n fwy ond yn llai na 40 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 30 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(c)
yn 40 y cant neu’n fwy ond yn llai na 50 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 40 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(d)
yn 50 y cant neu’n fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(e)
yn 60 y cant neu’n fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(f)
yn 75 y cant neu’n fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn.”;
(c)yn lle paragraff (7), rhodder—
“(7) Yn achos lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, pan fo’r dwysedd astudio—
(a)
yn 25 y cant neu’n fwy ond yn llai na 30 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 25 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(b)
yn 30 y cant neu’n fwy ond yn llai na 40 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 30 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(c)
yn 40 y cant neu’n fwy ond yn llai na 50 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 40 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(d)
yn 50 y cant neu’n fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(e)
yn 60 y cant neu’n fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;
(f)
yn 75 y cant neu’n fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn.”;
(d)ym mharagraff (9), yn lle “50” rhodder “25”.
RHAN 6LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
PENNOD 1LL+CCyflwyniad
37. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018() wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C
PENNOD 2LL+CMyfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig
38. Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “6BA,” mewnosoder “6BB,”.LL+C
39. Yn rheoliad 44(1), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”LL+C
40. Yn rheoliad 54, yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”LL+C
41. Yn rheoliad 62(2), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”LL+C
42. Yn rheoliad 69(2), yn Eithriad 2, yn lle’r geiriau o “baragraffau 1(3)” hyd at y diwedd rhodder “baragraffau 1(2)(d)(ii), 1(3), 4A(1)(b)(ii), 4A(2)(b)(ii), 6(1), 6A(1), 6A(2)(d)(ii), 6BA, 6BB, 6C, 6D, 7A(c)(ii) neu 8A(1)(d)(ii).”LL+C
43. Yn rheoliad 80(2)(b)(iii), yn lle “neu 6D(a)” rhodder “, 6D(1)(a) neu 6D(2)(a)”.LL+C
44. Yn Atodlen 2—LL+C
(a)yn lle paragraff 1(2)(d) rhodder—
“(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—
(i)y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)y tiriogaethau tramor.”;
(b)ym mharagraff 4A—
(i)yn lle is-baragraff (1)(b) rhodder—
“(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor, pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.”
(ii)yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—
“(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, ac”;
(c)ym mharagraff 6A(1)(c)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(d)ym mharagraff 6A(1)(d)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(e)ym mharagraff 6A(2)(d), yn lle’r geiriau o “preswylio fel arfer” hyd at y diwedd rhodder—
“preswylio fel arfer n union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—
(i)y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)y tiriogaethau tramor.”;
(f)ar ôl paragraff 6BA mewnosoder—
“Categori 6BB – Personau o’r tiriogaethau tramor Prydeinig sydd wedi setlo
6BB.—(1) Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(b)sydd—
(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu
(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol, ac
(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 9(2).”;
(g)yn lle paragraff 6D rhodder—
“6D.—(1) Person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar, neu
(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,
(b)sy’n ymgymryd—
(i)â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu
(ii)â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu
(ii)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,
(b)sydd—
(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu
(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 9(2).”;
(h)yn lle paragraff 7A(c) rhodder—
“(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu
(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, a”;
(i)ym mharagraff 8A(1), yn lle paragraff (d) rhodder—
“(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—
(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci, neu
(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.”;
(j)ym mharagraff 9—
(i)yn lle is-baragraff (2) rhodder—
“(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
(b)
priod neu bartner sifil P, neu
(c)
yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.”;
(ii)yn lle is-baragraff (3) rhodder—
“(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—
(a)
yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
(b)
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
(c)
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;
(d)
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;
(e)
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath;
(f)
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.”;
(k)ym mharagraff 11(1), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla, Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten), Aruba, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Mayotte, Montserrat, Polynesia Ffrengig, St Barthélemy, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), St Pierre a Miquelon, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc, Wallis a Futuna, Yr Ynys Las, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Ffaro, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;”;
“ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Montserrat, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;”.
45. Yn Atodlen 4, ym mharagraff 4(1)(a)(i)—LL+C
(a)yn lle “6A(2)” rhodder “6A(2)(d)(i)”;
(b)hepgorer “6BA,”.
46. Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol yn y tabl mewnosoder y cofnodion a ganlyn—LL+C
““tiriogaethau tramor” | Atodlen 2, paragraff 11(1)” |
““tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” | Atodlen 2, paragraff 11(1)” |
PENNOD 3LL+CAelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo
47. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6C(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.LL+C
PENNOD 4LL+CCymorth ariannol – codiadau
48. Yn rheoliad 55, yn Nhabl 7—LL+C
(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
“Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | Categori 1 | Byw gartref | £8,950 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £13,635 |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £10,720 |
Categori 2 | Byw gartref | £4,475 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £6,815 |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £5,360” |
49. Yn rheoliad 56—LL+C
(a)yn Nhabl 8—
(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
“Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | Byw gartref | £9,950 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £14,635 |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £11,720” |
(b)yn Nhabl 8A—
(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
“Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | Byw gartref | £4,475 |
| Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £6,815 |
| Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £5,360” |
50. Yn rheoliad 57(7), yn Nhabl 9—LL+C
(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
“Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | Byw gartref | £93 |
| Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £179 |
| Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £141” |
51. Yn rheoliad 58(2), yn Nhabl 10—LL+C
(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
“Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | £7,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio” |
52. Yn rheoliad 58A(2), yn Nhabl 10A—LL+C
(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
“Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | £8,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio” |
53. Yn rheoliad 63(2), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.LL+C
54. Yn rheoliad 72(2), yn Nhabl 11—LL+C
(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
“Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | £3,322” |
55. Yn rheoliad 74, yn Nhabl 12—LL+C
(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(b)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
“Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | £1,896” |
56. Yn rheoliad 76(2)—LL+C
(a)yn Nhabl 13—
(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2023”;
(ii)ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
“Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2023 | Un plentyn dibynnol | £187 |
| Mwy nag un plentyn dibynnol | £321” |
(b)ym mharagraff (4)(a), yn lle “£141” rhodder “£144”.
57. Yn Atodlen 4, ym mharagraff 20(2), yn lle “£32,546” rhodder “£33,146”.LL+C
PENNOD 5LL+CGrantiau ar gyfer dibynyddion
58. Yn rheoliad 69(1)(c), yn lle “50%” rhodder “25%”.LL+C
59. Yn rheoliad 77—LL+C
(a)ym mharagraff (1), yn lle—
(i)“£6,159” rhodder “£6,272”;
(ii)“£8,473” rhodder “£8,629”;
(iii)“£9,632” rhodder “£9,809”;
(iv)“£10,797” rhodder “£10,996”;
(b)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Os yw cwrs presennol y myfyriwr cymwys yn gwrs rhan-amser, swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yw’r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (a)(ii) neu (d)(ii) o Gam 4 o baragraff (1) wedi ei luosi ag—
(a)
25%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 25% o leiaf ond yn llai na 30%;
(b)
30%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 30% o leiaf ond yn llai na 40%;
(c)
40%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 40% o leiaf ond yn llai na 50%;
(d)
50%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 50% o leiaf ond yn llai na 60%;
(e)
60%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 60% o leiaf ond yn llai na 75%;
(f)
75%, pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn 75% neu’n fwy.”
RHAN 7LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
PENNOD 1LL+CCyflwyniad
60. Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018() wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C
PENNOD 2LL+CMyfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig
61. Yn rheoliad 3(2)(a), ar ôl “10BA,” mewnosoder “10BB,”.LL+C
62. Yn rheoliad 8(d), yn lle “neu 10D(1)(a)” rhodder “, 10D(1)(a) neu 10D(2)(a)”.LL+C
63. Yn Atodlen 1—LL+C
(a)ym mharagraff 1(1), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); Aruba; Bermuda; De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De; Gibraltar; Mayotte; Montserrat; Polynesia Ffrengig; St Barthélemy; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension); St Pierre a Miquelon; Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Wallis a Futuna; Yr Ynys Las; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaro; Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; ac Ynysoedd Turks a Caicos;”;
“ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla; Bermuda; De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De; Gibraltar; Montserrat; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension); Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; ac Ynysoedd Turks a Caicos;”.
(b)yn lle paragraff 1(4) rhodder—
“(4) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
(a)A;
(b)priod neu bartner sifil A; neu
(c)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.”;
(c)yn lle paragraff 1(5) rhodder—
“(5) At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—
(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;
(d)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;
(e)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath; ac
(f)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.”;
(d)ym mharagraff 3(1)(d)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(e)ym mharagraff 7A(1)(c)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(f)ym mharagraff 8A(1)(b)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(g)ym mharagraff 10A(1)—
(i)ym mharagraff (c)—
(aa)hepgorer “Gibraltar,”;
(bb)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(ii)ym mharagraff (d)—
(aa)hepgorer “Gibraltar,”;
(bb)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(h)ym mharagraff 10A(2)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(i)ar ôl paragraff 10BA mewnosoder—
“10BB.—(1) Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig; ac
(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 1(4).”;
(j)yn lle paragraff 10D rhodder—
“10D.—(1) Person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar; neu
(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;
(b)sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE; neu
(ii)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;
(b)sy’n mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Awrdal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 1(4).”
(k)ym mharagraff 11A(d)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(l)ym mharagraff 12A—
(i)yn is-baragraff (c)—
(aa)hepgorer “Gibraltar,”;
(bb)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(ii)yn is-baragraff (d)—
(aa)hepgorer “Gibraltar,”;
(bb)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(m)ym mharagraff 13A(d)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a Thwrci” rhodder “, Twrci a’r tiriogaethau tramor”.
PENNOD 3LL+CAelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo
64. Yn Atodlen 1—LL+C
(a)ym mharagraff 1(1), ym mharagraff (e) o’r diffiniad o “aelod o deulu”, yn lle “paragraffau 10, 10B, 10C a 10D” rhodder “paragraffau 10, 10B a 10D ac at ddibenion paragraff 10C mewn perthynas â pherson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”;
(b)ym mharagraff 10C(1)(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.
PENNOD 4LL+CDiwygiad i’r trothwy blynyddol
65. Yn rheoliad 14(5)(a), yn lle “£10,609” rhodder “hanner cant y cant o’r swm a bennir yn rheoliad 13(1)”.LL+C
CHAPTER 5LL+CCymorth ariannol – codiadau
66. Yn rheoliad 13—LL+C
(a)ym mharagraff (1), yn lle “£27,880” rhodder “£28,395”;
(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “£27,880” rhodder “£28,395”.
RHAN 8LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
PENNOD 1LL+CCyflwyniad
67. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019() wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.LL+C
PENNOD 2LL+CMyfyrwyr o diriogaethau tramor Prydeinig a diwygiadau cysylltiedig
68. Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “8BA,” mewnosoder “8BB,”.LL+C
69. Yn rheoliad 16(1)(b)(iii), yn lle “neu 8D(a)” rhodder “, 8D(1)(a) neu 8D(2)(a)”.LL+C
70. Yn Atodlen 2 —LL+C
(a)ym mharagraff 1(2)(d)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(b)ym mharagraff 6A(1)(b)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(c)ym mharagraff 6A(2)(b)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(d)ym mharagraff 8A(1)(c)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(e)ym mharagraff 8A(1)(d)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(f)ym mharagraff 8A(2)(d)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(g)ar ôl paragraff 8BA mewnosoder—
“8BB.—(1) Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig, ac
(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 11(2).”;
(h)yn lle paragraff 8D rhodder—
“8D.—(1) Person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar, neu
(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,
(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(2) Person—
(a)sydd—
(i)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu
(ii)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,
(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.
(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 11(2).”;
(i)ym mharagraff 9A(c)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(j)ym mharagraff 9A(d)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a’r Swistir” rhodder “, y Swistir a’r tiriogaethau tramor”;
(k)ym mharagraff 10A(1)(d)—
(i)hepgorer “Gibraltar,”;
(ii)yn lle “a Thwrci” rhodder “, Twrci a’r tiriogaethau tramor”;
(l)ym mharagraff 11—
(i)yn lle is-baragraff (2) rhodder—
“(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
(a)A,
(b)priod neu bartner sifil A, neu
(c)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.”;
(ii)yn lle is-baragraff (3) rhodder—
“(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—
(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;
(d)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;
(e)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath;
(f)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.”;
(m)ym mharagraff 13(1), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla, Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten), Aruba, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Mayotte, Montserrat, Polynesia Ffrengig, St Barthélemy, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), St Pierre a Miquelon, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc, Wallis a Futuna, Yr Ynys Las, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Ffaro, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;”;
“ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Montserrat, St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Tristan da Cunha ac Ynys Ascension), Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, ac Ynysoedd Turks a Caicos;”.
71. Yn Atodlen 4, yn Nhabl 3, yn y lle priodol yn y tabl mewnosoder y cofnodion a ganlyn—LL+C
““tiriogaethau tramor” | Atodlen 2, paragraff 13(1)” |
““tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” | Atodlen 2, paragraff 13(1)” |
PENNOD 3LL+CAelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo
72. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 8C(a), yn lle “sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder “sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig”.LL+C
CHAPTER 4LL+CCymorth ariannol – codiadau
73. Yn rheoliad 31—LL+C
(a)ym mharagraff (2), yn lle “£17,430” rhodder “£17,770”;
(b)ym mharagraff (3)(b), yn lle “£17,430” rhodder “£17,770”.
74. Yn rheoliad 36—LL+C
(a)ym mharagraff (8), yn lle “£17,430” rhodder “£17,770”;
(b)ym mharagraff (10), yn lle “£17,430” rhodder “£17,770”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2023
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—
(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”) (gweler Rhan 2 o’r Rheoliadau),
(b)Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”) (gweler Rhan 3 o’r Rheoliadau),
(c)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) (gweler Rhan 4 o’r Rheoliadau),
(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) (gweler Rhan 5 o’r Rheoliadau),
(e)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) (gweler Rhan 6 o’r Rheoliadau),
(f)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol”) (gweler Rhan 7 o’r Rheoliadau), ac
(g)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) (gweler Rhan 8 o’r Rheoliadau).
Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cychwyn a chymhwyso’r Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 2 yn nodi’r rheoliadau hynny sydd i fod yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023 (gweler paragraff 1) a’r rheoliadau hynny sydd i fod yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023 (gweler paragraff 2).
Mae Rhannau 2 a 4 yn diwygio Rheoliadau 2007 a Rheoliadau 2015, yn y drefn honno. Mae Pennod 2 o’r Rhannau hynny yn gwneud diwygiadau fel bod statws ffioedd cartref a statws person cymhwysol yn gymwys i fyfyrwyr sydd o diriogaethau tramor Prydeinig (“TTPau”) penodedig ac sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig. Mae Pennod 3 o’r Rhannau hynny yn gwneud diwygiadau fel bod aelodau o deuluoedd personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn cymhwyso i gael statws ffioedd cartref a statws person cymhwysol.
Mae Pennod 2 o Ran 3 yn hepgor darpariaethau diangen yn Rheoliadau 2014.
Yn Rhan 6, Rhan 7 a Rhan 8 fel ei gilydd, mae Pennod 2 yn darparu i bersonau sydd â statws preswylydd sefydlog wrth gyrraedd y Deyrnas Unedig, ac a ddaeth i’r Deyrnas Unedig o TTPau penodedig, gymhwyso i gael cymorth penodol i fyfyrwyr (mae israddedigion yn gymwys i gael cymorth at ffioedd dysgu ond nid ydynt yn gymwys i gael grantiau a benthyciadau at gostau byw). Er mwyn cymhwyso i gael cymorth, bydd angen i bersonau sy’n preswylio yn y TTPau fodloni’r gofyniad i breswylio fel arfer am dair blynedd yn y Deyrnas Unedig, yn Nhiriogaethau Dibynnol y Goron neu mewn TTPau penodedig. Gwneir darpariaeth gyfatebol hefyd ar gyfer y rheini a gwmpesir gan y cytundeb ymadael â’r UE, y Cytundeb Gwahanu â Gwladwriaethau’r AEE-EFTA a’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd sydd wedi treulio rhan o’u cyfnod preswylio naill ai yn y TTPau neu yn nhiriogaethau tramor yr UE.
Yn Rhan 6, Rhan 7 a Rhan 8 fel ei gilydd, mae Pennod 3 yn gwneud diwygiadau fel bod aelodau o deuluoedd pob person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sy’n cychwyn ar gyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2023 yn cymhwyso i gael cymorth i fyfyrwyr. Rhaid i’r categori hwn o berson fod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd am dair blynedd cyn dechrau ei gwrs er mwyn cymhwyso i gael cymorth. Yn flaenorol, dim ond aelodau o deuluoedd gwladolion y Deyrnas Unedig a oedd yn gymwys i gael cymorth.
Mae Pennod 2 o Ran 5, Pennod 4 o Ran 6, Pennod 5 o Ran 7 a Phennod 4 o Ran 8 yn cynyddu symiau amrywiol a bennir yn Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018, y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol a Rheoliadau 2019, yn y drefn honno.
Mae Pennod 3 o Ran 5 a Phennod 5 o Ran 6 yn diwygio Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018, yn y drefn honno, i ganiatáu i fyfyrwyr rhan-amser sy’n astudio ar ddwysedd rhwng 25% a 50% gymhwyso i gael grantiau ar gyfer dibynyddion ac i gynyddu swm yr incwm a ddiystyrir wrth gyfrifo hawlogaeth i gael grantiau ar gyfer dibynyddion.
Mae Pennod 4 o Ran 7 yn diwygio’r Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol drwy gynyddu uchafswm y cymorth y caiff Gweinidogion Cymru ei dalu fel rhandaliad o gymorth sy’n ddyledus i fyfyriwr mewn cysylltiad ag unrhyw un flwyddyn academaidd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.