Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 5Contractau: telerau gofynnol

Y partïon i’r contract

13.  Rhaid i gontract bennu—

(a)enwau’r partïon i’r contract,

(b)yn achos pob parti i’r contract, y cyfeiriad y dylid anfon gohebiaeth a hysbysiadau swyddogol iddo, ac

(c)yn achos parti i’r contract sy’n bartneriaeth—

(i)enwau’r partneriaid,

(ii)pa un a yw’r bartneriaeth yn bartneriaeth gyfyngedig ai peidio, a

(iii)yn achos partneriaeth gyfyngedig, statws pob partner fel partner cyffredinol neu bartner cyfyngedig.

Contract gwasanaeth iechyd

14.  Os yw contractwr, yn rhinwedd rheoliad 10 neu 11, i’w ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd, rhaid i’r contract ddatgan mai contract GIG ydyw.

Contractau gydag unigolion sy’n ymarfer mewn partneriaeth

15.  Pan fo contract yn gontract gyda dau neu ragor o unigolion sy’n gweithio mewn partneriaeth—

(a)mae’r contract i’w drin fel pe bai wedi ei wneud gyda’r bartneriaeth fel y mae wedi ei chyfansoddi o bryd i’w gilydd, a rhaid i’r contract wneud darpariaeth benodol i’r perwyl hwn, a

(b)rhaid i delerau’r contract ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr sicrhau bod unrhyw berson sy’n dod yn bartner yn y bartneriaeth ar ôl i’r contract ddod i rym yn cael ei rwymo’n awtomatig gan y contract, pa un ai yn rhinwedd cytundeb partneriaeth neu fel arall.

Hyd

16.—(1Ac eithrio o dan yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2), rhaid i gontract ddarparu ei fod yn parhau nes iddo gael ei derfynu yn unol â thelerau’r contract neu yn rhinwedd y ffaith bod unrhyw ddarpariaeth gyfreithiol arall ar waith.

(2Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn dymuno ymrwymo i gontract dros dro am gyfnod nad yw’n hwy na 24 o fisoedd ar gyfer darparu gwasanaethau i gyn-gleifion contractwr, ar ôl i gontract y contractwr hwnnw derfynu.

(3Caiff y naill barti neu’r llall i ddarpar gontract y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, os yw’n dymuno gwneud hynny, wahodd y Pwyllgor Meddygol Lleol ar gyfer ardal y Bwrdd Iechyd Lleol i gymryd rhan yn y trafodaethau y bwriedir iddynt arwain at gontract o’r fath.

Gwasanaethau unedig

17.—(1At ddibenion adran 43(1) o’r Ddeddf (gofyniad i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol penodol), y gwasanaethau y mae rhaid eu darparu, ac eithrio o dan amgylchiadau pan fo rheoliad 18(7) neu baragraff 124 o Atodlen 3 yn gymwys, o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol (“gwasanaethau unedig”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraffau (3), (5), (6), (7) a (9), ac Atodlen 2, yn ystod y cyfnod a bennir ym mharagraff (2).

(2Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—

(a)yn achos paragraffau (3), (5) a (6), bob amser o fewn yr oriau craidd fel sy’n briodol i ddiwallu anghenion rhesymol cleifion y contractwr, a

(b)yn achos paragraffau (7) a (9), bob amser o fewn yr oriau craidd.

(3Y gwasanaethau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw gwasanaethau sy’n ofynnol er mwyn rheoli cleifion cofrestredig contractwr a’i breswylwyr dros dro sydd, neu sy’n credu eu bod—

(a)yn sâl, gyda chyflyrau y disgwylir yn gyffredinol i rywun ymadfer ohonynt,

(b)â salwch angheuol, neu

(c)yn dioddef o glefyd cronig,

a’r gwasanaethau hynny’n cael eu cyflenwi yn y modd a benderfynir gan bractis y contractwr ar ôl ystyried canllawiau neu lwybrau clinigol perthnasol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a thrwy drafod â’r claf.

(4At ddibenion paragraff (3)—

ystyr “clefyd” (“disease”) yw clefyd sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr o gategorïau tri chymeriad a geir yn y cyhoeddiad diweddaraf o Ddosbarthiad Ystadegol Rhyngwladol Clefydau a Phroblemau Iechyd Cysylltiedig, ac

mae “rheoli” (“management”) yn cynnwys—

(a)

cynnig ymgynghoriad a, pan fo’n briodol, archwiliad corfforol at ddiben nodi’r angen, os oes angen o gwbl, am driniaeth neu ymchwiliad pellach, a

(b)

rhoi ar gael unrhyw driniaeth neu ymchwiliad pellach sy’n angenrheidiol ac sy’n briodol, gan gynnwys atgyfeirio’r claf at wasanaethau eraill o dan y Ddeddf a chysylltu â phroffesiynolion gofal iechyd eraill sy’n ymwneud â thriniaeth a gofal y claf.

(5Y gwasanaethau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw’r ddarpariaeth o driniaeth a gofal priodol parhaus i holl gleifion cofrestredig a phreswylwyr dros dro y contractwr gan ystyried eu hanghenion penodol sy’n cynnwys—

(a)cyngor mewn cysylltiad ag iechyd y claf a chyngor perthnasol ar hybu iechyd, a

(b)atgyfeirio claf at wasanaethau o dan y Ddeddf,

ynghyd â darparu’r gwasanaethau a bennir ym mharagraff (6).

(6Y gwasanaethau a grybwyllir ym mharagraff (5) yw—

(a)gwasanaethau sgrinio serfigol,

(b)gwasanaethau gwyliadwriaeth iechyd plant,

(c)gwasanaethau brechu ac imiwneiddio i blant,

(d)gwasanaethau atal cenhedlu,

(e)gwasanaethau meddygol mamolaeth,

(f)gwasanaethau mân lawdriniaeth, ac

(g)gwasanaethau brechu ac imiwneiddio.

(7Y gwasanaethau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw gwasanaethau meddygol sylfaenol sy’n ofynnol er mwyn rhoi triniaeth angenrheidiol ar unwaith i unrhyw berson y gofynnwyd i’r contractwr ddarparu triniaeth iddo oherwydd damwain neu argyfwng mewn unrhyw le yn ardal practis y contractwr.

(8Ym mharagraff (7), mae “argyfwng” yn cynnwys unrhyw argyfwng meddygol pa un a yw’n gysylltiedig â gwasanaethau a ddarperir o dan y contract ai peidio.

(9Y gwasanaethau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw gwasanaethau meddygol sylfaenol sy’n ofynnol er mwyn rhoi triniaeth angenrheidiol ar unwaith i unrhyw berson sy’n dod o fewn paragraff (10) sy’n gofyn am driniaeth o’r fath am y cyfnod a bennir ym mharagraff (11).

(10Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson—

(a)os yw cais y person hwnnw i gael ei gynnwys yn rhestr y contractwr o gleifion wedi ei wrthod yn unol â pharagraff 26 o Atodlen 3 ac nad yw’r person hwnnw wedi ei gofrestru gyda darparwr arall gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,

(b)os yw cais y person hwnnw i gael ei dderbyn fel preswylydd dros dro wedi ei wrthod yn unol â pharagraff 26 o Atodlen 3, neu

(c)os yw’r person hwnnw’n bresennol yn ardal practis y contractwr am lai na 24 awr.

(11Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—

(a)yn achos person y mae paragraff (10)(a) yn gymwys iddo, 14 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y gwrthodwyd cais y person hwnnw neu hyd nes y bydd y person hwnnw wedi ei gofrestru wedyn mewn man arall ar gyfer darparu gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol), pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf,

(b)yn achos person y mae paragraff (10)(b) yn gymwys iddo, 14 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y gwrthodwyd cais y person hwnnw neu hyd nes y bydd y person hwnnw wedi ei dderbyn wedyn mewn man arall fel preswylydd dros dro, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf, ac

(c)yn achos person y mae paragraff (10)(c) yn gymwys iddo, 24 awr neu unrhyw gyfnod byrrach y mae’r person yn bresennol yn ardal practis y contractwr.

Gwasanaethau: cyffredinol

18.—(1Rhaid i gontract bennu—

(a)y gwasanaethau i’w darparu,

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (4), cyfeiriad pob mangre sydd i’w defnyddio gan y contractwr neu unrhyw is-gontractwr i ddarparu’r gwasanaethau hynny,

(c)y personau y mae’r gwasanaethau hynny i’w darparu iddynt,

(d)yr ardal (“ardal practis” y contractwr) y mae gan bersonau sy’n preswylio ynddi, yn ddarostyngedig i unrhyw delerau eraill yn y contract sy’n ymwneud â chofrestru cleifion, hawlogaeth mewn perthynas â hi—

(i)i gofrestru gyda’r contractwr, neu

(ii)i ofyn am gael eu derbyn gan y contractwr fel preswylydd dros dro, ac

(e)pa un a yw rhestr y contractwr o gleifion, gan ddechrau â’r dyddiad y daw’r contract i rym, yn agored ynteu wedi ei chau.

(2Rhaid i gontract hefyd—

(a)cynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr—

(i)rhoi apwyntiadau ar gyfer gwasanaethau unedig ar gael i’w gleifion am unrhyw gyfran o’r oriau craidd ar bob diwrnod gwaith fel sy’n briodol i ddiwallu anghenion rhesymol y cleifion hynny,

(ii)bod â threfniadau yn eu lle i’w gleifion gael mynediad at wasanaethau unedig drwy gydol yr oriau craidd os bydd argyfwng,

(iii)sicrhau bod pob mangre practis, heblaw unrhyw fangre practis a bennir ym mharagraff (3), yn agored ac yn gorfforol hygyrch i gleifion—

(aa)bob amser rhwng 8.30am a 6.00pm ar bob diwrnod gwaith, a

(bb)am unrhyw gyfnodau eraill o fewn yr oriau craidd sy’n ofynnol i alluogi’r contractwr i gydymffurfio â’r gofynion yn rheoliad 17, rheoliad 18 ac Atodlen 3, a

(b)nodi’r cyfnod (os oes cyfnod o gwbl) y darperir unrhyw wasanaethau heblaw gwasanaethau unedig.

(3Y fangre practis a bennir yn y paragraff hwn yw mangre practis y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cytuno, yn ysgrifenedig â’r contractwr, ar oriau agor mwy cyfyngedig ar ei chyfer oherwydd nad yw’r fangre practis yn un o brif safleoedd y contractwr.

(4Nid yw’r mangreoedd y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yn cynnwys—

(a)cartrefi cleifion, na

(b)unrhyw fangre arall lle y darperir gwasanaethau ar sail argyfwng.

(5Pan nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, ar y dyddiad y llofnodir y contract, wedi ei fodloni bod pob un neu unrhyw un neu ragor o’r mangreoedd a bennir yn unol â pharagraff (1)(b) yn bodloni’r gofynion a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 3, mae rhaid i’r contract gynnwys cynllun, wedi ei lunio ar y cyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr, sy’n pennu—

(a)y camau a gymerir gan y contractwr i ddod â’r fangre i’r safon berthnasol,

(b)unrhyw gymorth ariannol a all fod ar gael gan y Bwrdd Iechyd Lleol, ac

(c)yr amserlen y mae’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) i’w cymryd ynddi.

(6Pan fo’r contract, yn unol â pharagraff (1)(e), yn pennu bod rhestr y contractwr o gleifion wedi ei chau, rhaid i’r contract hefyd bennu mewn perthynas â’r cau hwnnw bob un o’r eitemau a restrir ym mharagraff 39(2) o Atodlen 3.

(7Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, o dan amgylchiadau eithriadol neu ar gyfer amser dysgu gwarchodedig, roi cytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw i gontractwyr i leihau dros dro yr oriau y maent yn darparu gwasanaethau unedig ar ddiwrnod gwaith, ar yr amod bod gan y contractwr drefniadau yn eu lle i’w gleifion barhau i gael mynediad at wasanaethau unedig drwy gydol yr oriau craidd ar y diwrnod gwaith hwnnw os bydd argyfwng.

Tystysgrifau

19.—(1Rhaid i gontract gynnwys teler sydd â’r effaith o’i gwneud yn ofynnol i’r contractwr ddyroddi, am ddim i glaf neu i gynrychiolydd claf, unrhyw dystysgrif feddygol o ddisgrifiad a ragnodir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, sy’n rhesymol ofynnol o dan y deddfiadau, neu at ddibenion y deddfiadau a bennir mewn perthynas â’r dystysgrif yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(2Ni chaniateir dyroddi tystysgrif, o ran y cyflwr y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef—

(a)pan fo’r claf yn cael sylw gan ymarferydd meddygol nad yw—

(i)wedi ei gyflogi nac wedi ei gymryd ymlaen gan y contractwr,

(ii)yn achos contract gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, yn un o’r personau hynny, neu

(iii)yn achos contract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, yn un o’r personau y mae cyfrannau yn y cwmni hwnnw yn eiddo iddo yn gyfreithiol neu’n llesiannol, neu

(b)pan nad yw’r claf yn cael ei drin gan broffesiynolyn gofal iechyd neu o dan oruchwyliaeth proffesiynolyn gofal iechyd.

(3Nid yw’r eithriad ym mharagraff (2)(a) yn gymwys pan fo’r dystysgrif yn cael ei dyroddi—

(a)yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Tystiolaeth Feddygol) 1976(1) (tystiolaeth o analluogrwydd ar gyfer gwaith, gallu cyfyngedig ar gyfer gwaith a gwelyfod), neu

(b)yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Tâl Salwch Statudol (Tystiolaeth Feddygol) 1985(2) (gwybodaeth feddygol).

Cyllid

20.—(1Rhaid i’r contract gynnwys teler sydd â’r effaith o’i gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud o dan y contract yn brydlon ac yn unol â’r canlynol—

(a)telerau’r contract, a

(b)unrhyw amodau eraill yn ymwneud â thaliad a gynhwysir mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 (arfer swyddogaethau) neu adran 45 o’r Ddeddf (contractau GMC: taliadau).

(2Rhaid i’r contract gynnwys teler i’r perwyl, pan fo’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud taliad i gontractwr o dan gontract ond yn ddarostyngedig i amodau, yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 (arfer swyddogaethau) neu adran 45 (contractau GMC: taliadau) o’r Ddeddf, fod rhaid i’r amodau hynny fod yn un o delerau’r contract.

(3Mae’r rhwymedigaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn ddarostyngedig i unrhyw hawl a all fod gan y Bwrdd Iechyd Lleol i osod yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy i’r contractwr o dan y contract unrhyw swm—

(a)sy’n ddyledus gan y contractwr i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan y contract, neu

(b)y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei gadw’n ôl oddi wrth y contractwr yn unol â thelerau’r contract neu unrhyw ddarpariaethau cymwys a gynhwysir mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 45 o’r Ddeddf.

Ffioedd, taliadau a buddiannau ariannol

21.—(1Rhaid i’r contract gynnwys telerau yn ymwneud â ffioedd, taliadau a buddiannau ariannol sydd â’r un effaith â’r rhai a nodir ym mharagraffau (2) i (9).

(2Ni chaiff y contractwr, naill ai drosto’i hun neu drwy unrhyw berson arall, fynnu oddi wrth unrhyw un neu ragor o’i gleifion ffi na thaliad cydnabyddiaeth arall er ei fudd ei hun nac er budd person arall, na derbyn ffi na thaliad cydnabyddiaeth o’r fath, mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)darparu unrhyw driniaeth, pa un ai o dan y contract neu fel arall, neu

(b)unrhyw bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy ar gyfer unrhyw gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar,

ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 22.

(3Ni chaiff y contractwr, naill ai drosto’i hun neu drwy unrhyw berson arall, fynnu oddi wrth unrhyw un neu ragor o’i gleifion ffi na thaliad cydnabyddiaeth arall er ei fudd ei hun nac er budd person arall, na derbyn ffi na thaliad cydnabyddiaeth o’r fath, am gwblhau’r canlynol mewn perthynas ag iechyd meddwl y claf—

(a)y ffurflen tystiolaeth dyled ac iechyd meddwl, neu

(b)unrhyw archwiliad o’r claf neu o gofnod meddygol y claf er mwyn cwblhau’r ffurflen, at ddiben cynorthwyo credydwyr i benderfynu pa gamau i’w cymryd pan fo gan y dyledwr broblem iechyd meddwl.

(4Ni chaiff y contractwr, naill ai drosto’i hun neu drwy unrhyw berson arall, fynnu oddi wrth unrhyw un neu ragor o’i gleifion ffi na thaliad cydnabyddiaeth arall er ei fudd ei hun nac er budd person arall, na derbyn ffi na thaliad cydnabyddiaeth o’r fath, am baratoi neu ddarparu—

(a)tystiolaeth bod yr unigolyn yn ddioddefwr cam-drin domestig, neu’n wynebu risg o fod yn ddioddefwr cam-drin domestig, y bwriedir iddi ategu cais gan yr unigolyn am wasanaethau cyfreithiol sifil, neu

(b)unrhyw dystiolaeth arall bod yr unigolyn yn ddioddefwr cam-drin domestig, neu’n wynebu risg o fod yn ddioddefwr cam-drin domestig, sydd o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6)—

(a)pan fo person—

(i)yn gwneud cais i gontractwr am ddarpariaeth gwasanaethau unedig, a

(ii)yn honni ei fod ar restr y contractwr hwnnw o gleifion, a

(b)bod gan y contractwr amheuon rhesymol ynglŷn â honiad y person hwnnw,

rhaid i’r contractwr roi unrhyw driniaeth angenrheidiol i’r person hwnnw a chaiff fynnu a derbyn gan y person hwnnw ffi resymol yn unol â rheoliad 22(e).

(6Pan fo—

(a)person y mae’r contractwr wedi cael ffi ganddo o dan reoliad 22(e) yn gwneud cais i’r Bwrdd Iechyd Lleol am ad-daliad o fewn 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad talu’r ffi (neu o fewn unrhyw gyfnod hwy nad yw’n fwy na 4 wythnos fel y gall y Bwrdd Iechyd Lleol ei ganiatáu os yw wedi ei fodloni bod y methiant i wneud cais o fewn 14 o ddiwrnodau yn rhesymol), a

(b)y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod y person hwnnw ar restr y contractwr o gleifion pan gafodd y driniaeth ei rhoi,

caiff y Bwrdd Iechyd Lleol adennill swm y ffi oddi wrth y contractwr, drwy ddidyniad o daliad cydnabyddiaeth y contractwr neu fel arall, a rhaid iddo dalu’r swm a adenillir i’r person a dalodd y ffi.

(7Wrth ddarparu gwasanaethau i gleifion o dan y contract, rhaid i’r contractwr—

(a)darparu gwybodaeth ynghylch gwasanaethau y mae’n eu darparu heblaw o dan y contract, dim ond pan fo hynny’n briodol ac yn unol â’r cyfyngiad ar hysbysebu gwasanaethau preifat ym mharagraff 134 o Atodlen 3,

(b)pan fo’n darparu gwybodaeth o’r fath, sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn deg ac yn gywir, ac

(c)pan fo’r gwasanaethau eraill ar gael i’r claf fel rhan o’r gwasanaeth iechyd a sefydlwyd o dan adran 1(1) o’r Ddeddf (dyletswydd Gweinidogion Cymru i hybu gwasanaeth iechyd), roi gwybod i’r claf—

(i)bod y gwasanaethau ar gael felly,

(ii)am unrhyw dâl sy’n gymwys i’r gwasanaeth iechyd hwnnw ac, os nad oes tâl o’r fath yn gymwys, bod y gwasanaeth ar gael am ddim, a

(iii)sut i gael mynediad at y gwasanaeth iechyd hwnnw.

(8Wrth wneud penderfyniad—

(a)i atgyfeirio claf at wasanaethau eraill o dan y Ddeddf, neu

(b)i ragnodi unrhyw gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar i glaf,

rhaid i’r contractwr wneud y penderfyniad hwnnw heb ystyried ei fuddiannau ariannol ei hun.

(9Ni chaiff y contractwr roi gwybod i gleifion fod rhaid i unrhyw bresgripsiwn ar gyfer unrhyw gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar gael ei weinyddu gan y contractwr neu gan berson y mae’r contractwr yn gysylltiedig ag ef yn unig.

Amgylchiadau lle y caniateir codi ffioedd a thaliadau

22.  Caiff y contractwr fynnu neu dderbyn (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) ffi neu daliad cydnabyddiaeth arall—

(a)gan unrhyw gorff statudol am wasanaethau a ddarperir at ddibenion swyddogaethau statudol y corff hwnnw;

(b)gan unrhyw gorff, cyflogwr neu ysgol—

(i)am archwiliad meddygol arferol o bersonau y mae’r corff, y cyflogwr neu’r ysgol yn gyfrifol am eu lles, neu

(ii)am archwilio personau o’r fath at y diben o gynghori’r corff, y cyflogwr neu’r ysgol am unrhyw gamau gweinyddol y gallent eu cymryd;

(c)am driniaeth nad yw’n wasanaethau meddygol sylfaenol neu’n ofynnol fel arall o dan y contract ac sy’n cael ei rhoi—

(i)mewn lle sy’n cael ei roi ar gael yn unol â darpariaethau paragraff 11 o Atodlen 5 i’r Ddeddf (lle a gwasanaethau i gleifion preifat), neu

(ii)mewn cartref nyrsio cofrestredig nad yw’n darparu gwasanaethau o dan y Ddeddf,

os yw’r person sy’n rhoi’r driniaeth, yn y naill achos neu’r llall, yn gwasanaethu ar staff ysbyty sy’n darparu gwasanaethau o dan y Ddeddf fel arbenigwr sy’n darparu triniaeth o’r math y mae ar y claf ei angen ac os yw’r contractwr neu’r person sy’n darparu’r driniaeth, o fewn 7 niwrnod ar ôl rhoi’r driniaeth, yn rhoi i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ar ffurflen a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwnnw, unrhyw wybodaeth a all fod yn ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol;

(d)o dan adran 158 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 (tâl am driniaeth frys ar gyfer anafiadau traffig);

(e)pan fo’r contractwr yn trin claf o dan reoliad 21(5), ac yn yr achos hwnnw mae gan y contractwr hawlogaeth i fynnu a derbyn ffi resymol (y gellir ei hadennill o dan amgylchiadau penodol o dan reoliad 21(6) am unrhyw driniaeth a roddir, os yw’r contractwr yn rhoi derbynneb i’r claf;

(f)am roi sylw i glaf ac archwilio claf (ond nid ei drin fel arall)—

(i)mewn gorsaf heddlu, ar gais y claf, mewn cysylltiad ag achos troseddol posibl yn erbyn y claf,

(ii)at ddiben llunio adroddiad neu dystysgrif feddygol, ar gais sefydliad masnachol, addysgol neu nid-er-elw,

(iii)at ddiben creu adroddiad meddygol sy’n ofynnol mewn cysylltiad â hawliad gwirioneddol neu hawliad posibl am ddigollediad gan y claf;

(g)am driniaeth sy’n cynnwys imiwneiddiad nad oes tâl cydnabyddiaeth yn daladwy amdano gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac y gofynnir amdano mewn cysylltiad â theithio dramor;

(h)am archwiliad meddygol—

(i)i alluogi penderfyniad i gael ei wneud ynghylch pa un a yw’n annoeth ai peidio ar sail feddygol i berson wisgo gwregys diogelwch, neu

(ii)at ddiben creu adroddiad—

(aa)ynghylch damwain traffig ar y ffordd neu ymosodiad troseddol, neu

(bb)sy’n cynnig barn pa un a yw claf yn ffit i deithio;

(i)am brofi golwg person nad yw’r un o baragraffau (a), (b) nac (c) o adran 71(2) o’r Ddeddf (trefniadau ar gyfer gwasanaethau offthalmig cyffredinol) yn gymwys iddo (gan gynnwys oherwydd rheoliadau o dan adrannau 71(8) a (9) o’r Ddeddf).

Data Gweithgareddau ac Apwyntiadau

23.—(1Rhaid i gontract gynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr—

(a)cynnal eu hapwyntiadau wedi eu mapio yn yr adran berthnasol yn y Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol,

(b)adolygu eu data cyflwyno o leiaf unwaith y mis,

(c)sicrhau bod y categorïau wedi eu mapio yn gyfoes, a

(d)sicrhau bod eu gweinydd bob amser wedi ei droi ymlaen, yn cael ei gynnal ac ar gael i alluogi’r feddalwedd berthnasol i echdynnu’r data.

(2Rhaid i’r data ar weithgareddau ac apwyntiadau ar draws y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol gael eu trafod yng nghyfarfodydd y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol gan y cynrychiolwyr awdurdodedig o’r practisau sy’n aelodau o’r Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol, gyda’r nod o ddatblygu mesurau ar draws y practisau hynny sy’n aelodau i reoli’r galw a safoni arfer da, a phan fo’n briodol, ansawdd data.

Rheolau ar Setiau Data a Busnes

24.  Rhaid i gontract gynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr ddarparu data, pan fo hynny’n gymwys, yn unol â rheolau’r busnes a ddefnyddir o fewn y Fframwaith Sicrwydd.

Sicrhau’r contract

25.—(1Rhaid i gontract gynnwys, yn ychwanegol at y gofynion yn Atodlen 3, deler sy’n ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr ymgysylltu â’r Bwrdd Iechyd Lleol yn y prosesau a amlinellir yn y Fframwaith Sicrwydd cyhoeddedig diweddaraf—

(a)drwy ddarparu datganiadau a data, neu hwyluso cyflenwi data, fel sy’n ofynnol er mwyn rheoli’r contract ac er mwyn bodloni gofynion sicrwydd y contract,

(b)fel y bo’n ofynnol gan y Fframwaith Sicrwydd, drwy ymgysylltu â’r Bwrdd Iechyd Lleol ym mhrosesau adolygu ffurfiol y practis o’r contract a’r llywodraethu,

(c)yn dilyn pob adolygiad practis ffurfiol o’r contract a’r llywodraethu, drwy lunio Cynllun Ymateb Practis i’r Contract a’r Fframwaith Llywodraethu i fynd i’r afael, o fewn cyfnod y cytunir arno, ag unrhyw bryderon a godwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a

(d)os oes angen mynd i’r afael â phryderon drwy lefelau ysgol uwchgyfeirio’r Fframwaith Sicrwydd, drwy weithio’n gadarnhaol gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol i ddatrys pryderon.

(2Rhaid i gontract gynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddilyn y prosesau ac ystyried yr egwyddorion a amlinellir yn y Fframwaith Sicrhau cyhoeddedig diweddaraf—

(a)drwy ddefnyddio’r dangosyddion y cytunwyd arnynt yn genedlaethol yn y Fframwaith Sicrwydd ynghyd â’r asesiad hunan-adroddedig gan y contractwr, i nodi’r blaenoriaethau yn y broses sicrwydd contract a llywodraethu,

(b)drwy bennu natur a dyfnder adolygiad ffurfiol y practis o’r contract a’r llywodraethu gan ystyried y blaenoriaethau a nodwyd yn y broses sicrwydd contract a llywodraethu,

(c)drwy ymgysylltu a gweithio’n gadarnhaol â’r contractwr i ddatrys pryderon,

(d)drwy roi adborth ar lafar i’r contractwr yn ystod yr ymweliad, gan gynnwys unrhyw ofynion i’r contractwr fynd i’r afael ag unrhyw bryderon sy’n codi ar unwaith,

(e)drwy anfon adborth ysgrifenedig mewn Adroddiad ar Ymweliad Contract a Llywodraethu at y contractwr o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith ar ôl yr ymweliad,

(f)drwy werthuso Cynllun Ymateb Practis i’r Contract a’r Fframwaith Llywodraethu o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl ei gael,

(g)drwy gytuno ar unrhyw ddyddiad ar gyfer gwaith dilynol gyda’r contractwr, gan gynnwys adolygu pa un a gafodd unrhyw bryderon uniongyrchol sylw boddhaol, ac

(h)drwy hysbysu’r contractwr os oes angen mynd i’r afael â phryderon drwy ddefnyddio lefelau ysgol uwchgyfeirio’r Fframwaith Sicrwydd.

Is-gontractio

26.  Rhaid i gontract gynnwys telerau sy’n atal contractwr rhag is-gontractio unrhyw un neu ragor o’i rwymedigaethau o dan y contract mewn perthynas â materion clinigol, neu faterion nad ydynt yn glinigol sy’n effeithio’n uniongyrchol ar gleifion, ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan baragraff 76 o Atodlen 3.

Amrywio contractau

27.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer yn Rhan 11 o Atodlen 3 y caniateir gwneud amrywiad neu ddiwygiad i’r contract.

(2Nid yw paragraff (1) yn atal amrywio neu ddiwygio contract o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer ym mharagraffau 76(8), 109, 110, 111 a 124 o Atodlen 3.

Terfynu contract

28.—(1Dim ond fel y darperir ar ei gyfer gan Ran 11 o Atodlen 3 y caniateir terfynu contract.

(2Rhaid i gontract wneud darpariaeth addas ar gyfer y trefniadau sydd i gael effaith pan derfynir y contract, gan gynnwys canlyniadau dod â’r contract i ben (pa un ai’n ariannol neu fel arall).

(3Rhaid i’r darpariaethau sy’n ymdrin â’r canlyniadau ariannol o derfynu gynnwys o leiaf ddarpariaethau sy’n cael yr effaith a bennir ym mharagraffau (4), (5), (6), (7) ac (8) a rhaid iddynt ddarparu bod y darpariaethau hynny i barhau ar ôl i’r contract gael ei derfynu.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5), (6), (7) ac (8), mae rhwymedigaeth y Bwrdd Iechyd Lleol i wneud taliadau i’r contractwr yn unol â’r contract yn dod i ben ar ddyddiad terfynu’r contract.

(5Ar derfyn y contract neu pan y’i terfynir am unrhyw reswm, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gysoni’r taliadau a wnaed gan y Bwrdd Iechyd Lleol i’r contractwr a nodi i ba raddau y mae’r contractwr wedi cyflawni’r rhwymedigaethau o dan y contract y mae’r taliadau hynny yn ymwneud â hwy (a rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hefyd, os yw’r contractwr wedi terfynu’r contract yn unol â pharagraff 114 o Ran 11 o Atodlen 3 ond heb gyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract drwy gydol y cyfnod hysbysu (neu unrhyw gyfnod byrrach y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr wedi cytuno arno yn ysgrifenedig), fod â hawlogaeth i adlewyrchu yn y cysoniad unrhyw gostau ychwanegol y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi mynd iddynt wrth sicrhau gwasanaethau eraill drwy gydol y cyfnod hysbysu hwnnw).

(6Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno i’r contractwr fanylion ysgrifenedig y cysoniad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a pha un bynnag, heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl terfynu’r contract.

(7Os yw’r contractwr yn dadlau cywirdeb y cysoniad, caiff y contractwr atgyfeirio’r anghydfod at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y cyflwynodd y Bwrdd Iechyd Lleol fanylion ysgrifenedig y cysoniad i’r contractwr. Bydd y penderfyniad hwnnw ar yr anghydfod yn rhwymo’r partïon.

(8Rhaid i bob parti dalu i’r parti arall unrhyw arian sy’n ddyledus o fewn 3 mis i’r dyddiad y cyflwynodd y Bwrdd Iechyd Lleol fanylion ysgrifenedig y cysoniad i’r contractwr, neu’r dyddiad y mae’r weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG yn dod i ben, yn ôl y digwydd.

(9Rhaid i’r darpariaethau sy’n ymdrin â chanlyniadau anariannol terfynu gynnwys o leiaf y darpariaethau ym mharagraffau (10) ac (11) a rhaid iddynt ddarparu bod y darpariaethau hynny i barhau ar ôl i’r contract gael ei derfynu.

(10Rhaid i’r contract ddarparu nad yw terfynu’r contract, am ba reswm bynnag, yn rhagfarnu hawliau cronedig y naill barti na’r llall o dan y contract.

(11Rhaid i’r contract ddarparu, pan derfynir y contract am unrhyw reswm, fod rhaid i’r contractwr—

(a)yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff (11) hwn, beidio â chyflawni unrhyw waith nac unrhyw rwymedigaethau o dan y contract,

(b)cydweithredu â’r Bwrdd Iechyd Lleol i hwyluso’r gwaith o ymdrin ag unrhyw faterion sy’n weddill o dan y contract, neu o ddod â materion o’r fath i ben yn foddhaol,

(c)cydweithredu â’r Bwrdd Iechyd Lleol i hwyluso’r broses o drosglwyddo cleifion y contractwr i un neu ragor o gontractwyr eraill neu ddarparwyr gwasanaethau unedig (neu ddarparwyr cyfatebol), y mae rhaid i hynny gynnwys—

(i)darparu gwybodaeth resymol am gleifion unigol, a

(ii)rhoi cofnodion cleifion, a

(d)rhoi popeth sy’n eiddo i’r Bwrdd Iechyd Lleol i’r Bwrdd Iechyd Lleol gan gynnwys yr holl ddogfennau, ffurflenni, caledwedd a meddalwedd gyfrifiadurol, cyffuriau, cyfarpar neu offer meddygol a all fod ym meddiant neu o dan reolaeth y contractwr.

Telerau eraill yn y contract

29.—(1Oni bai ei fod o fath neu natur nad yw darpariaeth benodol yn gymwys iddo neu iddi, rhaid i gontract gynnwys telerau eraill sydd â’r un effaith â’r rhai a bennir yn Atodlen 3 ac eithrio paragraffau 45(5) i (9), 46(5) i (17), 106(5) i (14) a 107.

(2Mae’r paragraffau a bennir ym mharagraff (1) yn cael effaith mewn perthynas â’r materion a nodir yn y paragraffau hynny.

(1)

O.S. 1976/615. Amnewidiwyd rheoliad 2(1) gan O.S. 2010/137.

(2)

O.S. 1985/1604. Amnewidiwyd rheoliad 2(1) gan O.S. 2010/137.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill