xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 17

ATODLEN 2Manylion pellach ynghylch Gwasanaethau Unedig penodol

Sgrinio serfigol

1.—(1Rhaid i gontractwr—

(a)darparu’r holl wasanaethau a ddisgrifir yn is-baragraff (2), a

(b)gwneud y cofnodion a bennir yn is-baragraff (4) yng nghofnod y claf a gedwir yn unol â pharagraff 79 o Atodlen 3.

(2Y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(a) yw—

(a)darparu unrhyw wybodaeth a chyngor angenrheidiol i gynorthwyo cleifion perthnasol i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch cymryd rhan yn Rhaglen Sgrinio Serfigol Cymru a gynhelir gan Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (y “Rhaglen”),

(b)cyflawni profion sgrinio serfigol ar bobl sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn y Rhaglen honno,

(c)trefnu i bobl gael gwybod am ganlyniadau eu prawf, a

(d)sicrhau bod canlyniadau profion yn cael eu dilyn fel y bo’n glinigol briodol.

(3At ddibenion is-baragraff (2)(a) ystyr “cleifion perthnasol” yw cleifion ar restr y contractwr o gleifion sydd wedi eu dynodi gan Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru fel ymgeiswyr addas i gael prawf sgrinio serfigol.

(4Y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw—

(a)cofnod manwl gywir o’r prawf sgrinio serfigol a gynhelir, a

(b)canlyniad unrhyw brawf a gynhelir, ac

(c)unrhyw ofynion clinigol dilynol.

Gwyliadwriaeth iechyd plant

2.—(1Mewn cysylltiad ag unrhyw blentyn o dan 5 oed y mae ganddo gyfrifoldeb amdano o dan y contract, rhaid i gontractwr—

(a)darparu’r holl wasanaethau a ddisgrifir yn is-baragraff (2), heblaw unrhyw archwiliad a ddisgrifir felly y mae rhiant yn gwrthod caniatáu i’w blentyn ei gael, tan y dyddiad y mae’r plentyn yn cyrraedd 5 oed, a

(b)cynnal y cofnodion a bennir yn is-baragraff (3).

(2Y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(a) yw—

(a)monitro iechyd, llesiant a datblygiad corfforol, meddyliol a chymdeithasol (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd yn y paragraff hwn fel “datblygiad”) plentyn o dan 5 oed gyda’r bwriad o ganfod unrhyw wyriadau oddi wrth ddatblygiad arferol—

(i)drwy ystyried unrhyw wybodaeth ynghylch y plentyn sy’n dod i law’r contractwr neu sy’n dod i law ar ei ran, a

(ii)ar unrhyw achlysur pan archwilir y plentyn neu pan arsylwir ar y plentyn gan y contractwr neu ar ei ran (boed yn unol â pharagraff (b) neu fel arall);

(b)archwilio plentyn mor aml ag y cytunir gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â’r rhaglen seiliedig ar dystiolaeth y cytunwyd arni’n genedlaethol ac a nodwyd yn y canllawiau clinigol diweddaraf mewn perthynas ag Archwiliadau Corfforol ar gyfer Babanod a Babanod Newydd-anedig Cymru, a chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r contractwr ofyn barn y Pwyllgor Meddygol Lleol perthnasol cyn dod i gytundeb ar amlder priodol yr archwiliadau hyn.

(3Rhaid i’r cofnodion a bennir at ddibenion is-baragraff (1)(b) fod yn gofnod manwl gywir o’r canlynol—

(a)datblygiad y plentyn tra bo o dan 5 mlwydd oed, wedi ei lunio cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn archwiliad cyntaf y plentyn hwnnw a, pan fo’n briodol, wedi ei ddiwygio yn dilyn pob archwiliad dilynol, a

(b)yr ymatebion (os oes ymatebion o gwbl) i gynigion a wnaed i riant y plentyn i’r plentyn gael unrhyw archwiliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)(b).

Brechu ac imiwneiddio yn ystod plentyndod

3.—(1Rhaid i gontractwr gydymffurfio â’r gofynion yn is-baragraffau (2) a (3).

(2Rhaid i’r contractwr—

(a)cynnig darparu i blant bob brechiad ac imiwneiddiad o fath ac o dan yr amgylchiadau a bennir yn yr Atodiad perthnasol i Ddatganiad ar Hawlogaethau Ariannol y GMC;

(b)darparu gwybodaeth a chyngor priodol i gleifion a, pan fo’n briodol, i’w rhieni, am y brechiadau a’r imiwneiddiadau hynny;

(c)cofnodi yng nghofnod y claf a gedwir yn unol â pharagraff 78 o Atodlen 3 unrhyw benderfyniad i wrthod y cynnig y cyfeirir ato ym mharagraff (a);

(d)pan dderbynnir y cynnig, rhoi’r brechiadau a’r imiwneiddiadau a chynnwys yng nghofnod y claf a gedwir yn unol â pharagraff 78 o Atodlen 3—

(i)enw’r person a roddodd gydsyniad i’r brechiad neu’r imiwneiddiad a pherthynas y person hwnnw â’r claf,

(ii)rhifau’r sypiau, y dyddiad dod i ben ac enw’r brechlyn,

(iii)dyddiad rhoi’r brechiadau a’r imiwneiddiadau,

(iv)mewn achos pan fo dau frechlyn yn cael eu rhoi y naill yn fuan ar ôl y llall, llwybr rhoi’r brechlynnau a safle pigiad y naill frechlyn a’r llall,

(v)unrhyw wrtharwyddion yn erbyn y brechiad neu’r imiwneiddiad, a

(vi)unrhyw adweithiau niweidiol i’r brechiad neu’r imiwneiddiad.

(3Rhaid i’r contractwr sicrhau bod yr holl staff sy’n rhan o roi brechlynnau wedi eu hyfforddi i adnabod anaffylacsis a rhoi’r driniaeth gychwynnol ar ei gyfer a bod eu gwybodaeth yn cael ei chadw’n gyfredol.

Gwasanaethau atal cenhedlu

4.  Rhaid i gontractwr roi’r gwasanaethau hynny a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) i (g) ar gael i bob un o’i gleifion sy’n gofyn amdanynt—

(a)rhoi cyngor ynghylch yr ystod lawn o ddulliau atal cenhedlu,

(b)pan fo’n briodol, archwiliad meddygol i gleifion sy’n gofyn am gyngor o’r fath,

(c)trin cleifion o’r fath at ddibenion atal cenhedlu a rhagnodi sylweddau a chyfarpar atal cenhedlu (ac eithrio gosod a mewnblannu dyfeisiau a mewnblaniadau yn y groth),

(d)rhoi cyngor am atal cenhedlu brys a phan fo’n briodol, cyflenwi neu ragnodi dulliau atal cenhedlu hormonaidd brys neu, pan fo gan y contractwr wrthwynebiad cydwybodol i ddulliau atal cenhedlu brys, atgyfeirio’n brydlon at ddarparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol nad oes ganddo wrthwynebiad cydwybodol o’r fath,

(e)darparu cyngor ac atgyfeiriad mewn achosion lle y ceir beichiogrwydd heb ei gynllunio neu feichiogrwydd digroeso, gan gynnwys cyngor bod profion beichiogrwydd am ddim ar gael yn yr ardal practis a, pan fo’n briodol, pan fo gan y contractwr wrthwynebiad cydwybodol i derfynu beichiogrwydd, atgyfeirio’n brydlon at ddarparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol nad oes ganddo wrthwynebiad cydwybodol o’r fath,

(f)rhoi cyngor cychwynnol am hybu iechyd rhywiol ac am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ac

(g)atgyfeirio yn ôl yr angen ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol arbenigol, gan gynnwys pecynnau profi gartref neu becynnau hunan-brofi ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Gwasanaethau meddygol mamolaeth

5.—(1Rhaid i gontractwr ddarparu’r holl wasanaethau meddygol mamolaeth angenrheidiol i’r canlynol—

(a)cleifion sydd wedi cael diagnosis o feichiogrwydd drwy gydol y cyfnod cynenedigol;

(b)cleifion a’u babanod drwy gydol y cyfnod ôl-enedigol, heblaw gwiriadau newydd-anedig;

(c)cleifion y mae eu beichiogrwydd wedi terfynu o ganlyniad i gamesgoriad neu erthyliad neu, pan fo gan y contractwr wrthwynebiad cydwybodol i derfynu beichiogrwydd, rhaid i’r contractwr atgyfeirio’r claf yn brydlon at ddarparwr arall gwasanaethau meddygol sylfaenol nad oes ganddo wrthwynebiad cydwybodol o’r fath.

(2Yn y paragraff hwn—

ystyr “cyfnod cynenedigol” (“antenatal period”) yw’r cyfnod rhwng dechrau’r beichiogrwydd a dechrau esgor;

ystyr “cyfnod ôl-enedigol” (“postnatalperiod”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â diwedd esgoriad y babi neu ryddhau’r claf o’r gwasanaethau gofal eilaidd, pa un bynnag yw’r olaf, ac sy’n gorffen gyda’r 14eg diwrnod ar ôl yr enedigaeth;

ystyr “gwasanaethau meddygol mamolaeth” (“maternity medical services”) yw—

(a)

mewn perthynas â chleifion (heblaw babanod) yr holl wasanaethau meddygol sylfaenol sy’n ymwneud â beichiogrwydd, ac eithrio gofal yn ystod yr esgor, a

(b)

mewn perthynas â babanod, unrhyw wasanaethau meddygol sylfaenol sy’n angenrheidiol i’w 14 o ddiwrnodau cyntaf o fywyd;

ystyr “gwiriad newydd-anedig” (“neonatal check”) yw archwilio’r babi yn y mis cyntaf ar ôl ei eni.

Mân lawdriniaeth

6.  Rhaid i gontractwr—

(a)trefnu bod rhew-serio, ciwretio a serio dafadennau, ferwcau a briwiau eraill y croen, pan fo’n glinigol briodol, ar gael i gleifion, a

(b)sicrhau bod ei gofnod o unrhyw driniaeth a ddarperir o dan y paragraff hwn yn cynnwys—

(i)manylion y fân lawdriniaeth a ddarparwyd i’r claf, a

(ii)cydsyniad y claf i’r driniaeth honno.

Brechu ac imiwneiddio

7.—(1Rhaid i gontractwr—

(a)cynnig rhoi neu ddarparu i gleifion bob brechiad ac imiwneiddiad o fath ac o dan yr amgylchiadau a bennir yn yr Atodiad perthnasol i Ddatganiad ar Hawlogaethau Ariannol y GMC ac a gyllidir o dan y swm craidd;

(b)darparu gwybodaeth a chyngor priodol i gleifion a, pan fo’n briodol, i rieni cleifion, am y brechiadau a’r imiwneiddiadau hyn;

(c)mewn perthynas â chleifion heblaw plant a chan gymryd i ystyriaeth amgylchiadau unigol y claf, ystyried—

(i)pa un a ddylai’r imiwneiddiad gael ei roi gan y contractwr ynteu gan broffesiynolyn gofal iechyd sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan y contractwr, neu

(ii)pa un a ddylid darparu ffurflen bresgripsiwn er mwyn i’r claf roi’r imiwneiddiad iddo’i hun;

(d)cofnodi yng nghofnod y claf unrhyw benderfyniad i wrthod y cynnig a grybwyllir ym mharagraff (a);

(e)pan—

(i)bo’r cynnig a grybwyllir ym mharagraff (a) yn cael ei dderbyn, a

(ii)bo’r imiwneiddiad, yn achos claf nad yw’n blentyn, i’w roi gan y contractwr neu broffesiynolyn gofal iechyd arall,

rhoi’r imiwneiddiad a chofnodi’r wybodaeth am yr imiwneiddiad yng nghofnod y claf, gan ddefnyddio codau y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwn;

(f)pan—

(i)bo’r cynnig a grybwyllir ym mharagraff (a) yn cael ei dderbyn, a

(ii)nad yw’r imiwneiddiad, yn achos claf nad yw’n blentyn, i’w roi gan y contractwr neu broffesiynolyn gofal iechyd arall,

dyroddi ffurflen bresgripsiwn er mwyn i’r claf roi’r imiwneiddiad iddo’i hun.

(2At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “gwybodaeth am yr imiwneiddiad” yw—

(a)

naill ai—

(i)

cydsyniad y claf i’r imiwneiddiad, neu

(ii)

pan fo person arall yn cydsynio i’r imiwneiddiad ar ran y claf, enw’r person a roddodd y cydsyniad hwnnw a’i berthynas â’r claf;

(b)

rhif y swp, y dyddiad dod i ben ac enw’r brechlyn,

(c)

dyddiad rhoi’r brechlyn,

(d)

pan fo dau frechlyn yn cael eu rhoi drwy bigiadau, y naill yn fuan ar ôl y llall, llwybr rhoi’r brechlynnau a safle pigiad y naill frechlyn a’r llall,

(e)

unrhyw wrtharwyddion yn erbyn y brechlyn, ac

(f)

unrhyw adweithiau niweidiol i’r brechlyn.

(3Rhaid i’r contractwr sicrhau bod yr holl staff sy’n rhan o roi brechlynnau wedi eu hyfforddi i adnabod anaffylacsis a rhoi’r driniaeth gychwynnol ar ei gyfer a bod eu gwybodaeth yn cael ei chadw’n gyfredol.

8.  At ddibenion paragraffau 1 i 7 ystyr “cofnod claf” yw’r cofnod a gedwir mewn perthynas â chlaf yn unol â pharagraff 78 o Atodlen 3.