xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract

RHAN 3Rhestr o gleifion: cau, etc.

Cymeradwyo cais am gau rhestr o gleifion

39.—(1Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cymeradwyo cais am gau rhestr contractwr o gleifion, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r contractwr am ei benderfyniad cyn gynted â phosibl a rhaid i’r hysbysiad (“yr hysbysiad cau”) gynnwys y manylion a bennir yn is-baragraff (2), a

(b)yr un pryd ag y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi hysbysiad i’r contractwr, anfon copi o’r hysbysiad cau—

(i)i’r Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau o dan y contract ynddi, a

(ii)at unrhyw berson yr ymgynghorodd y Bwrdd Iechyd Lleol ag ef yn unol â pharagraff 38(8).

(2Rhaid i’r hysbysiad cau gynnwys—

(a)y cyfnod o amser y mae rhestr y contractwr o gleifion i fod wedi ei chau, sy’n gorfod bod—

(i)y cyfnod a bennir yn y cais, neu

(ii)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr wedi cytuno yn ysgrifenedig ar gyfnod gwahanol, y cyfnod gwahanol hwnnw, ac

yn y naill achos neu’r llall, ni chaiff y cyfnod fod yn llai na 12 wythnos nac yn fwy nag 1 flwyddyn,

(b)y dyddiad y mae’r penderfyniad i gau’r rhestr o gleifion i gael effaith (“y dyddiad cau”), ac

(c)y dyddiad y mae’r rhestr o gleifion i ailagor.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff 42, rhaid i gontractwr gau ei restr o gleifion o’r dyddiad cau ymlaen a rhaid i’r rhestr o gleifion aros ar gau drwy gydol y cyfnod cau fel y’i pennir yn yr hysbysiad cau.