Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Is-gontractio

76.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff y contractwr is-gontractio unrhyw un neu ragor o’i hawliau na’i ddyletswyddau o dan y contract mewn perthynas â materion clinigol, neu faterion anghlinigol sy’n cael effaith uniongyrchol ar gleifion, oni bai—

(a)ei fod ym mhob achos wedi cymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun—

(i)ei bod yn rhesymol o dan bob un o’r amgylchiadau i wneud hynny, a

(ii)bod y person y mae unrhyw un neu ragor o’r hawliau neu’r dyletswyddau hynny wedi eu his-gontractio iddo yn gymwysedig ac yn gymwys i ddarparu’r gwasanaeth, a

(b)bod y contractwr wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol am ei fwriad i is-gontractio cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol cyn y dyddiad y bwriedir i’r is-gontract arfaethedig gymryd effaith.

(2Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys—

(a)i gontract ar gyfer gwasanaethau â phroffesiynolyn gofal iechyd ar gyfer darparu gwasanaethau clinigol yn bersonol gan y proffesiynolyn hwnnw, neu

(b)contract rhwng y contractwr a phractis arall yng Nghydweithredfa Ymarfer Cyffredinol y contractwr y mae’r practis arall i ddarparu, fel rhan o weithgareddau’r Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol honno, wasanaethau meddygol sylfaenol i gleifion y contractwr odano.

(3Rhaid i hysbysiad a roddir o dan is-baragraff (1)(b) gynnwys—

(a)enw a chyfeiriad yr is-gontractwr arfaethedig,

(b)hyd yr is-gontract arfaethedig,

(c)y gwasanaethau y mae’r is-gontract arfaethedig i’w cwmpasu, a

(d)cyfeiriad unrhyw fangre sydd i gael ei defnyddio ar gyfer darparu gwasanaethau o dan yr is-gontract arfaethedig.

(4Ar ôl cael hysbysiad a roddir o dan is-baragraff (1)(b), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ofyn am ragor o wybodaeth sy’n ymddangos yn rhesymol iddo mewn perthynas â’r is-gontract arfaethedig, a rhaid i’r contractwr roi’r wybodaeth honno i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn brydlon.

(5Ni chaiff y contractwr fwrw ymlaen â’r is-gontract neu, os yw’r is-gontract eisoes wedi cymryd effaith, rhaid i’r contractwr gymryd pob cam rhesymol i’w derfynu pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi hysbysiad yn ysgrifenedig am ei wrthwynebiad i’r is-gontract ar y seiliau—

(a)y byddai’r is-gontract—

(i)yn peri risg i ddiogelwch cleifion y contractwr, neu

(ii)yn peri risg i’r Bwrdd Iechyd Lleol fynd i golled ariannol sylweddol,

(b)pan na fyddai’r is-gontractwr yn gallu cyflawni rhwymedigaethau’r contractwr o dan y contract,

a bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi hysbysiad o’r fath cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y cafodd y Bwrdd Iechyd Lleol hysbysiad oddi wrth y contractwr o dan is-baragraff (1)(b).

(6Rhaid i hysbysiad a roddir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan is-baragraff (5)(a) gynnwys datganiad o’r rhesymau dros wrthwynebiad y Bwrdd Iechyd Lleol.

(7Mae is-baragraffau (1) a (3) i (6) hefyd yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw adnewyddiad neu amrywiad sylweddol i is-gontract mewn perthynas â materion clinigol.

(8Pan fo’r hysbysiad gan y contractwr yn unol ag is-baragraff (3) yn ymwneud â materion clinigol ac nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi hysbysiad am wrthwynebiad o dan is-baragraff (5), bernir bod y partïon i’r contract wedi cytuno ar amrywiad i’r contract sydd, yn ddarostyngedig i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan is-baragraff (1)(b), â’r effaith o ychwanegu at y rhestr o fangreoedd practis unrhyw fangre y cafodd hysbysiad o’i chyfeiriad ei roi i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan is-baragraff (3)(d) ac, o dan yr amgylchiadau hyn, nid yw paragraff 109(1) yn gymwys.

(9Yn ddarostyngedig i is-baragraff (10), rhaid i is-gontract yr ymrwymir iddo gan gontractwr wahardd yr is-gontractwr rhag is-gontractio unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau clinigol y mae wedi cytuno arnynt gyda’r contractwr i’w darparu o dan yr is-gontract.

(10Caiff is-gontract yr ymrwymir iddo gan y contractwr sy’n dod o fewn is-baragraff (2)(b) ganiatáu i’r is-gontractwr is-gontractio gwasanaethau clinigol ar yr amod bod y contractwr yn cael cymeradwyaeth ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol cyn i’r is-gontractwr is-gontractio’r gwasanaethau hynny.

(11Ni chaiff y contractwr is-gontractio unrhyw un neu ragor o’i hawliau na’i ddyletswyddau o dan y contract mewn perthynas â darparu gwasanaethau unedig i gwmni neu ffyrm—

(a)sy’n eiddo’n gyfan gwbl neu’n rhannol i’r contractwr, neu i unrhyw gyflogai blaenorol neu gyflogai presennol i’r contractwr, neu i unrhyw bartner neu gyfranddaliwr yn y contractwr,

(b)a ffurfir gan neu ar ran y contractwr, neu y mae’r contractwr yn ennill neu y gallai ennill buddiant ariannol ohono neu ohoni, neu

(c)a ffurfir gan neu ar ran cyflogai blaenorol neu bresennol i’r contractwr, neu gan neu ar ran partner neu gyfranddaliwr yn y contractwr, neu y mae person o’r fath yn ennill neu y gallai ennill buddiant ariannol ohono neu ohoni,

pan fo is-baragraff (12) yn gymwys i’r cwmni hwnnw neu i’r ffyrm honno.

(12Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i gwmni neu ffyrm sydd neu a oedd wedi cael ei ffurfio yn gyfan gwbl neu yn rhannol at ddiben osgoi’r cyfyngiadau ar werthu ewyllys da practis meddygol yn rheoliad 3 o Reoliadau Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Gwerthu Ewyllys Da a Chyfyngiadau ar Is-gontractio) (Cymru) 2004(1).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill